Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu i Brifysgol Abertawe lle gallwch chi gael gwybod popeth y mae ei angen arnoch chi am fod yn fyfyriwr yma! Bydd y dudalen hon yn eich galluogi i ddeall yr hyn y dylech chi ei ddisgwyl mewn diwrnod agored.

Rydyn ni'n cynnal llawer o ddiwrnodau agored ar ein campysau drwy'r flwyddyn. Dydd Sadwrn 19eg Hydref 2024 a dydd Sadwrn 9fed o Dachwedd 2024 yw ein diwrnodau agored nesaf.

Archebwch eich lle

Rhaglen Diwrnodau Agored

Llun o fyfyriwr llysgennad yn dal arwydd sy'n dweud ei fod ar gael i helpu mewn diwrnod agored

Yn ystod eich ymweliad, byddwch chi'n cael cyfle anhygoel i ymgolli yn awyrgylch y brifysgol a chymryd cip ar bopeth rydyn ni'n ei gynnig.

Gallwch chi archwilio ein campysau, ymweld â'r hyb gwybodaeth, mynd i sgwrs groeso gan yr Is-ganghellor, cymryd rhan mewn sesiynau sy'n benodol i bynciau gan aelodau staff a chael ymdeimlad cyffredinol am y brifysgol.

Archwiliwch ein campysau

Golwg ar Gampws y Bae o'r awyr

Mae gan Brifysgol Abertawe ddau gampws godidog: Campws Parc Singleton a Champws y Bae. Gellir gweld traeth Bae Abertawe o Gampws Parc Singleton, sydd yng nghanol parcdir aeddfed a gerddi botaneg. Mae Campws y Bae wrth ochr y traeth ar y fynedfa ddwyreiniol i Abertawe.

Cymerwch gip ar leoliad y sgwrs am eich pwnc fel y byddwch chi'n gwybod ble i gyrraedd.

Gwybodaeth am eich adran

Grŵp o bobl yn sgwrsio mewn digwyddiad diwrnod agored.

Mae diwrnod agored yn ffordd wych o gael rhagor o wybodaeth am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi. Mae diwrnodau agored yn eich galluogi i drafod pethau penodol am gyrsiau â'n staff academaidd, rhyngweithio â myfyrwyr presennol a all gynnig dealltwriaeth werthfawr ar sail eu profiadau eu hunain, ac ymgolli'n llwyr yn amgylchedd a chyfleusterau eich adran. 

Help a chefnogaeth ychwanegol

Dau unigolyn yn eistedd ac yn siarad dros goffi.

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni'n ymfalchïo yn ein hymdeimlad cryf o gymuned a'r gefnogaeth rydyn ni'n ei chynnig i fyfyrwyr. Pan fyddwch chi'n dod i un o'n digwyddiadau agored, byddwch chi'n cael y cyfle i gwrdd â'n timau anhygoel a chyfeillgar a fydd yno i'ch helpu a'ch cefnogi drwy gydol eich amser yn Abertawe. Bydd ein canllaw yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr help a'r gefnogaeth sydd ar gael yn Abertawe. 

Teithiau llety

Bydd nifer o fflatiau ar agor i'w gweld ar y ddau gampws yn ystod diwrnod agored ac ni fydd angen i chi drefnu hyn ymlaen llaw. Dewch i ymweld â ni yn ystod un o'n diwrnodau agored i archwilio'r amrywiaeth eang o opsiynau llety. Bydd rhywbeth at ddant pawb wrth benderfynu ble i ymgartrefu ym Mhrifysgol Abertawe. 

Taith Rithwir o’n Llety
Myfyrwyr yn cerdded o gwmpas adeiladau llety ar Gampws y Bae ar ddiwrnod heulog

Profiadau o Ddiwrnodau Agored

Gwyliwch y fideo isod i gael gwybod am yr hyn roedd myfyrwyr yn ei hoffi am ein diwrnod agored diwethaf.