Rydym yn gobeithio eich bod yn edrych ymlaen at ein Diwrnod Agored i Israddedigion!
Rydym yn edrych yn ymlaen at eich croesawu i Brifysgol Abertawe lle byddwch chi'n cael yr holl wybodaeth am fod yn fyfyriwr yn Abertawe. Hoffech chi ddarganfod Anian Abertawe? Dyma beth fydd yn disgwyl amdanoch chi pan fyddwch chi’n ymweld â Phrifysgol Abertawe!
Edrychwch ar y rhaglen isod a threfnwch eich diwrnod, gallwch ddod o hyd i fanylion parcio ar ein tudalen penodol am barcio.
*Byddwch yn ymwybodol y gallai gweithredu diwydiannol gan yrwyr bysiau First Cymru amharu ar wasanaethau bysiau lleol. Gall hyn effeithio ar lwybrau ar draws Abertawe a'r rhanbarth cyfagos, gan gynnwys gwasanaethau i'n campysau ac oddi yno. Edrychwch ar ein tudalen Cynllunio Trafnidiaeth Eich Diwrnod i gael cyngor ar sut i helpu i sicrhau bod eich taith yn rhedeg yn esmwyth.*
Sylwer: gall amserau a lleoliadau'r sesiynau newid, dylet ti gyfeirio at y rhaglen ar ddiwrnod y digwyddiad i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.