Trafnidiaeth yn ystod y Diwrnod Agored

Bydd arwyddion AA melyn a Llysgenhadon Myfyrwyr i'ch cyfeirio i'r meysydd parcio.

Nodwch fod llwybrau o amgylch y Brifysgol yn debygol o fod yn brysur iawn ar Ddiwrnod Agored. Argymhellwn eich bod yn gadael digon o amser ar gyfer eich taith.

Teithio ar Drên

Sicrhewch docynnau trên disgownt ar lwybrau Rheilffordd y Great Western (GWR) i Abertawe! Mae GWR yn cynnig gostyngiad o 20% ar eu holl lwybrau i Abertawe ar gyfer y diwrnod agored a gellir defnyddio Cerdyn Rheilffordd hefyd i arbed arian ychwanegol.

Sut i elwa o'r gostyngiad?

  1. Archebwch eich tocyn ar-lein gan ddilyn y ddolen hon:
  2. Dewiswch Brifysgol Abertawe fel eich cyrchfan er mwyn gweld yr opsiwn gostyngiad (sylwch nad oes gorsaf drenau yn y brifysgol ei hun, mae angen dod oddi ar y trên yng ngorsaf Abertawe)
  3. Dewiswch y prisiau gyda'r seren goch

Efallai y bydd staff GWR yn gofyn am weld prawf o’ch presenoldeb yn y diwrnod agored. Defnyddiwch eich e-bost cadarnhau diwrnod agored fel prawf o’ch presenoldeb.

Am ragor o wybodaeth am deithio o amgylch y campws gweler yma.