YDYCH CHI'N BWRIADU YMWELD Â PHRIFYSGOL ABERTAWE? YDYCH CHI WEDI COLLI UN O'N DIWRNODAU AGORED?

Os nad oes modd i chi ddod i Ddiwrnod Agored, neu hoffech chi edrych o gwmpas eto, bydd ein taith hunan-dywys o'r campws yn rhoi blas i chi ar ein Prifysgol, ei champysau ger y traeth a'i bywyd bywiog i fyfyrwyr.

Mae gennym ddau gampws mewn lleoliadau nodedig ac unigryw, ar ddau ben glannau Abertawe: Campws Parc Singleton a Champws y Bae.

Campws Parc Singleton

Taith Hunan-dywys o Gampws Parc Singleton:

Dechrau yn Nhŷ Fulton →

TŶ FULTON

Mae Tŷ Fulton yn adeilad rhestredig Gradd II sy'n gartref i lawer o gyfleusterau a lletygarwch y Brifysgol. Mae'r llawr gwaelod yn gartref i archfarchnad Costcutter, siop nwyddau Fulton Outfitters, a Greggs a Tortilla.

Mae'r Ganolfan Cyngor a Chymorth ar y llawr gwaelod, ac yn cael ei chynnal gan Undeb y Myfyrwyr a thîm o gynghorwyr hyfforddedig, i ddarparu cyngor a chynrychiolaeth am ddim, diduedd a chyfrinachol. Gallan nhw eich helpu gyda nifer o broblemau cyfreithiol a materion personol, ynghylch arian, lles, gwaith academaidd, tai, a heriau iechyd meddwl.

Mae Harbwr ar y llawr cyntaf ac mae’n cynnig gwasanaeth bwyd a diod clicio a chasglu a theras sy'n edrych dros olygfeydd godidog Bae Abertawe. Ar yr ail lawr, mae Bar a Chaffi Undeb y Myfyrwyr – JCs – sy'n gweini amrywiaeth o ddiodydd a bwyd alcoholig a di-alcohol. Mae JCs yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol i fyfyrwyr, fel nosweithiau karaoke a chwisiau tafarn. Mae byrddau pŵl a sgriniau teledu yno hefyd. Mae Tŷ Fulton hefyd yn gartref i nifer o ystafelloedd addysgu seminar a mannau digwyddiadau cysylltiedig.

Wrth i chi adael trwy brif fynedfa Tŷ Fulton, trowch i'r chwith a chadwch i'r chwith rhwng ochr Tŷ Fulton a'r Techniwm Digidol.

Cam 1 → Cam 2 → Cam 3 → Cam 4 → Cam 5 → Cam 6 → Cam 7 → Cam 8 → Cam 9 → Cam 10 → Cam 11 → Cam 12 → Cam 13 → Gorffen 🏁
Campws y Bae

Taith Hunan-Dywys o Gampws y Bae:

Dechrau y tu allan i'r Neuadd Fawr →

Y NEUADD FAWR

Y Neuadd Fawr eiconig yw'r adeilad cymynrodd a roddwyd gan BP i Brifysgol Abertawe. Mae ganddi naw lle addysgu, gan gynnwys darlithfeydd â 300 o seddi rhenciog ac ystafelloedd seminar ag 20 sedd.

Ar y llawr cyntaf ceir Awditoriwm Syr Stanley Clarke sydd ar agor i'r cyhoedd ac sy'n cynnig lle i 700 o bobl mewn cynadleddau, cyngherddau cerddoriaeth, seremonïau graddio, darlithoedd cyhoeddus a digwyddiadau mawr eraill.

Cerddwch tuag at flaen y Campws i ddod o hyd i'r Ffowndri Gyfrifiadol sydd gyferbyn â'r safle bws.

Cam 1 → Cam 2 → Cam 3→ Cam 4 → Cam 5 → Cam 6 → Cam → Cam 8 → Cam 9 → Cam 10 → Cam 11 → Cam 12 → Cam 13 → Cam 14 → Cam 15 → Cam 16 → Gorffen 🏁

Rydym ni'n gobeithio i chi fwynhau archwilio Prifysgol Abertawe a'ch bod chi'n edrych ymlaen at ddyfodol disglair yma!

Eisiau parhau ag archwilio? Beth am fynd ar daith rithwir o'n prifysgol a chymryd cipolwg agosach ar ein neuaddau a'n cyfleusterau.