Mae myfyrwyr Ieithoedd Modern wedi bod yn helpu disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd i feithrin cariad at ieithoedd, fel rhan o bartneriaeth arloesol rhwng Prifysgol Abertawe ac ysgolion yn y rhanbarth.
Bu grŵp o fyfyrwyr israddedig yn cyflwyno gweithdai aml-iaith a sesiynau rhagflas ar iaith gyda disgyblion o flwyddyn 3 i flwyddyn 13 yn Abertawe (Ysgol Gynradd Terrace) a Chaerdydd (Ysgol Gyfun y Pant), gan eu helpu nhw i archwilio'r cysylltiadau a'r tebygrwydd rhwng Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Saesneg a Chymraeg.
Mae'r Cwricwlwm newydd i Gymru wedi cyflwyno newidiadau sylweddol i sut a beth bydd disgyblion yng Nghymru'n ei ddysgu. Rhaid i oddeutu 1,500 o ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru addysgu ieithoedd rhyngwladol yn awr i blant 5 oed ac yn hŷn a sicrhau cynnydd da drwy gydol y broses. Mae hwn yn gyfle cyffrous a heriol i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe sy'n gallu gweithio gydag ysgolion ar leoliadau gwaith, prosiectau a gweithgareddau allgymorth.
Mae'r sesiynau a gynhaliwyd yn yr ysgolion wedi cynnwys gweithgareddau o weithdai adrodd straeon creadigol Eidaleg gyda ffocws ar ymwybyddiaeth ffonolegol a cyfatebiaeth ffonem-graffem i ysgrifennu rapiau Almaeneg gyda cherddoriaeth cŵl yn y cefndir.
Esboniodd Susanne Arenhoevel, Darlithydd Almaeneg ym Mhrifysgol Abertawe:
"Roedd hi'n wych cael gweithio gydag Ysgol Gynradd Terrace Road. Cafodd dros 90 o blant y cyfle i archwilio iaith arall a chael cipolwg ar ddiwylliant gwledydd gwahanol. Roedd yn gyfle gwych i feithrin cyfnewidiadau diwylliannol a dathlu amrywiaeth".
Bu Tanya May, Darlithydd Sbaeneg ac Arweinydd Prosiect Llenyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe'n myfyrio ar werth lleoliadau wrth astudio am radd:
"Mae'r Prosiect Llenyddiaeth wedi helpu ein myfyrwyr israddedig i roi eu sgiliau maen nhw wedi'u dysgu yn y brifysgol ar waith, wedi atgyfnerthu gwybodaeth a datblygu dinasyddiaeth weithgar. Mae'n wych gweld faint mae ein myfyrwyr wedi tyfu a datblygu yn ystod eu hamser ar y prosiect ac maen nhw wedi defnyddio'r cyfle i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill".
Ychwanegodd Dr Giovanna Donzelli, darlithydd Eidaleg ym Mhrifysgol Abertawe:
"Mae'r cydweithrediadau a phartneriaethau agos hyn â chymunedau ac ysgolion lleol yn cynnig cyfleoedd pwysig i'n myfyrwyr israddedig gaffael ystod ehangach o sgiliau, meithrin rhwydwaith proffesiynol cefnogol a datblygu eu portffolio o brofiad gwaith.
"Mae gweithio gydag ysgolion a phartneriaid allanol o gamau cynnar eu gyrfa academaidd yn galluogi ein myfyrwyr i gael dealltwriaeth ddyfnach a chanfod gwerth yn yr hyn maen nhw'n ei ddysgu gyda ni. Mae hyn yn cryfhau gwydnwch ac ysgogiad ac mae’n eu galluogi nhw i ddatblygu'n ddinasyddion byd-eang medrus, sy'n ymwybodol yn gymdeithasol wrth osod ieithoedd wrth wraidd meithrin meddylfryd byd-eang ymysg ein pobl ifanc".
Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau Ieithoedd Modern israddedig ac ôl-raddedig sydd ar gael ym Mhrifysgol Abertawe.
Sylwadau gan fyfyrwyr a fu'n cymryd rhan:
Leslie a Catrin, myfyrwyr Ieithoedd Modern
Leslie - “Rwyf wir wedi mwynhau ymestyn fy nghariad at Ieithoedd Tramor Modern i eraill. Roedd fy lleoliad mewn ysgol yn wych a hefyd gwnaeth gadarnhau fy mhenderfyniad i weithio tuag at fod yn athrawes yn y dyfodol".
Catrin - “Roedd y disgyblion mor frwdfrydig a chwilfrydig am ieithoedd modern. Roedd addysgu yn ysgol Y Pant yn gyfle gwych i mi arbrofi gyda dulliau addysgu gwahanol rwyf wedi'u hastudio yn fy modiwlau yn y brifysgol".
Marzia, myfyriwr Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd
"Roedd hwn yn brofiad newydd a heriol. Gwnes i fwynhau gweithio gyda'r disgyblion a'u gweld nhw'n cyffroi am ieithoedd yr wyf i mor angerddol amdanynt!"
Nicole, myfyriwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Sbaeneg
"Fel myfyriwr y flwyddyn gyntaf, mae'r profiad hwn wedi gwella fy sgiliau iaith ond hefyd mae'n cyd-fynd yn wych â'm cyrsiau Cysylltiadau Rhyngwladol a Sbaeneg, gan bwysleisio'r rôl bwysig sydd gan ieithoedd ym myd cyd-gysylltiedig heddiw".