Am bron dau ddegawd, mae GENCAS wedi bod ar flaen y gad o ran gwaith ar rywedd ym Mhrifysgol Abertawe, gan ddod ag ysgolheigion ynghyd mewn fforwm sy'n pontio rhaniadau rhwng disgyblaethau. Mae GENCAS yn darparu lle i drafod a chefnogi staff, myfyrwyr, gweinyddwyr ac eraill sy'n gweithio yn y Brifysgol y mae eu diddordebau ymchwil yn cynnwys materion rhywedd. Mae ysgolheigion sy'n gysylltiedig â'r Ganolfan yn gweithio ar feysydd amrywiol sy'n cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, ymagweddau a lensys rhywioldeb, ffeministiaeth a queer.
Mae gennym ddiddordeb penodol mewn annog safbwyntiau croestoriadol drwy gyflwyno materion sy'n ymwneud â rhywedd i ddeialog fuddiol gyda materion pwysig eraill megis hil, dosbarth ac anabledd. Mae'r Ganolfan hefyd yn meithrin ac yn cynnal rhwydwaith o gysylltiadau â grwpiau ymchwil perthnasol gartref a thramor, yn ogystal â chefnogi ymrwymiad y brifysgol i gydraddoldeb rhwng y rhywiau ar draws y gymuned academaidd. Mae GENCAS yn awyddus i gefnogi digwyddiadau, cyhoeddiadau a chymunedau sy'n datblygu o amgylch thema rhywedd, ac yn croesawu'n gynnes gyfranogiad gan staff a myfyrwyr.