Cyfres Dosbarthiadau Meistr – Archebwch Sesiynau Academaidd Nawr

Ansicr o ba bwnc hoffech chi ei astudio yn y brifysgol? Archebwch le ar y Gyfres Dosbarthiadau Meistr isod i gael rhagflas o’n cyrsiau.

Mae pob sesiwn yn cael ei chyflwyno gan ein hacademyddion ac yn cynnig y cyfle i:

  • Gael teimlad o sut beth yw darlithoedd prifysgol
  • Archwilio sawl pwnc o ddiddordeb
  • Casglwch ddeunydd ar gyfer eich datganiad personol
  • Ofyn gwestiynau am y cwrs

 Sylwer, cyflwynir y sesiynau hyn yn Saesneg yn unig.

Beth sydd ymlaen

Bioleg y Môr: fertebratau morol rhyfeddol a ble i ddod o hyd iddyn nhw

Ymunwch â ni i ddarganfod byd rhyfeddol fertebratau morol, a sut mae eu ffisioleg yn effeithio ar eu dosbarthiad byd-eang. Sut mae cyrff fertebratau morol yn effeithio ar ble maen nhw'n byw? Mae'n bosib bydd yr atebion yn eich synnu.

Cofrestrwch yma

Bioleg y Môr

17/11/2025

18:00 - 19:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Snorcelwr yn dala pysgodyn.

Busnesau Byd-eang - Trawsnewid Digidol a Dyfodiad yr Arweinydd Digidol

Mae'r cyflwyniad hwn yn archwilio esblygiad busnes byd-eang yng nghyd-destun trawsnewid digidol, chwyldroadau diwydiannol, a phatrymau arweinyddiaeth. Mae'n tynnu sylw at y symudiad o economïau gweithgynhyrchu traddodiadol i systemau sy'n seiliedig ar wybodaeth ac sy'n cael eu hybu gan arloesedd.

Cofrestrwch yma

Busnes

17/11/2025

18:00 - 19:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Myfyrwyr busnes yn rhannu syniadau

Lleisiau'r rhai hynny sy'n gofalu: Ysbrydoli'r Genhedlaeth Nesaf o Nyrsys.

Ymunwch â ni am noson hwylus a diddorol lle bydd ein tîm o ddarlithwyr yn rhannu eu teithiau a'u profiadau nyrsio, a gallwch archwilio'r holl resymau arbennig i ddod i astudio Nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe.

Cofrestrwch yma

Nyrsio

17/11/2025

18:00 - 19:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Dau myfyriwr nyrsio.

Gwneud cais i astudio Meddygaeth? Defnyddiwch eich 5ed dewis yn ddoeth

P'un a ydych chi'n gadael yr ysgol, yn fyfyriwr israddedig presennol, neu wedi graddio ac yn ystyried sut i newid gyrfa, bydd y weminar hon yn eich tywys drwy'r llwybrau sydd ar gael. Mae ein 5 opsiwn gradd israddedig Llwybr i Feddygaeth yn ffordd ragorol o baratoi ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion, ymchwil, neu yrfaoedd clinigol.

Cofrestrwch yma

Llwybr i Feddygaeth

17/11/2025

18:00 - 19:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Myfyrwyr yn adolygu hanes claf.

Dosbarth Meistr Datganiad Personol

Yn barod i gymryd y cam nesaf tuag at y brifysgol? Eich datganiad personol yw eich cyfle i ddangos i diwtoriaid derbyn myfyrwyr pwy ydych chi - y tu hwnt i raddau a graddau a ragwelir. Yn y weminar hon, byddwn yn eich tywys drwy hanfodion ysgrifennu datganiad personol cymhellol sy'n cyfleu eich cryfderau a'ch potensial

Cofrestrwch yma

Datganiad Personol

18/11/2025

16:30 - 17:30 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Myfyriwr yn cymrud nodiadau tra'n gwrando ar weminar.

Deallusrwydd Artiffisial (AI): Addewidion y Gorffennol, Cyflawniadau'r Presennol

Mae AI ym mhobman: o apiau i geir sy’n gyrru eu hunain, trenau, dronau i benderfyniadau ar fenthyciadau a swyddi—ond sut y cyrhaeddon ni yma, a beth fydd nesaf? Yn y sesiwn hon, byddwn yn olrhain esblygiad AI o'i gysyniad cynnar i'r feddalwedd bwerus sy'n llunio ein dyfodol, a'r hyn y mae’n ei olygu i'r byd o'n cwmpas.

Cofrestrwch yma

Cyfrifiadureg

18/11/2025

18:00 - 19:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Ymenydd digidol gyda'r llythrennau

Cwrs Carlam ar Adenydd a Llafnau Rotor

Ydych chi erioed wedi meddwl pam mae adenydd rhai awyrennau wedi'u siapio'n wahanol, pam mae tyrbinau'n parhau i fynd yn fwy, neu sut mae dronau'n cael eu pweru? A yw hedfan yn gyflym neu'n araf yn well i'r blaned? Ymunwch â ni i ddarganfod dyfodol arloesedd awyrofod!

Cofrestrwch yma

Awyrofod

19/11/2025

18:00 - 19:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Myfyrwyr yn astudio rhan fanwl o awyren.

Cymraeg @ Abertawe: Astudio, Llwyddo a Theimlo’n Gartrefol

Ydych chi'n fyfyriwr sy'n siarad Cymraeg neu'n dysgu Cymraeg? Beth am ddarganfod sut mae Prifysgol Abertawe'n dathlu ac yn cefnogi hunaniaeth Gymraeg drwy ddarpariaeth Gymraeg, cymuned gynhwysol ac ysgoloriaethau hael. Os ydych yn rhugl, yn ddysgwr, neu'n rhywle yn y canol, bydd y sesiwn hon yn dangos i chi sut gall Abertawe fod yn gartref i chi.

Cofrestrwch yma

Cymraeg

19/11/2025

18:00 - 19:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Dau person yn eistedd i cael coffi gyda arwydd ar y wal yn dweud

Sut mae Cyfrifyddu'n Creu Cyfoeth?

Erioed wedi meddwl pam mae cynifer o gyfrifwyr proffesiynol mor llwyddiannus? Rhaid eu bod nhw'n gwneud rhywbeth yn gywir. Beth yw'r fformiwla sy'n creu llwyddiant o'r fath? Bydd Johan yn archwilio'r pwnc dirgelwch ac anhygoel hwn ac yn dangos i chi sut mae cyfrifeg yn arf mor bwysig a hanfodol i hybu eich ffyniant eich hun a ffyniant cymdeithasau.

Cofrestrwch yma

Cyfrifeg a Chyllid

19/11/2025

18:00 - 19:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Cyfrifiannell.

Rhowch hwb i'ch Sgiliau Cyflogadwyedd a Serennu yn y Cyfweliad

P'un a ydych yn cyflwyno cais am gwrs clinigol, gwaith rhan-amser, interniaethau neu rolau i raddedigion, mae Gwasanaeth Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe yma i'ch helpu i serennu. Yn y sesiwn hon, byddwch yn dysgu sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau, a sut gallwch chi fanteisio ar yr hyn sydd gan Abertawe i'w gynnig i lansio eich gyrfa â hyder.

Cofrestrwch yma

Sgiliau Cyfweliadau

19/11/2025

18:00 - 19:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Myfyriwr yn derbyn cymorth gyda'r gair

Yr ymateb cyfreithiol i gam-drin delweddau preifat.

Mae cam-drin delweddau preifat yn cynnwys pornograffi dial, seiberfflachio, uwchsbecian a thynnu lluniau neu fideos i lawr top menyw heb ei chaniatâd. Mae gweithgarwch o'r fath wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf o ystyried y defnydd cyffredin o ffonau clyfar a chyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn ystyried sut ymatebodd y gyfraith droseddol.

Cofrestrwch yma

Y Gyfraith

20/11/2025

18:00 - 19:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Graddfeydd cyfiawnder.

Deall ac adnabod sgitsoffrenia

Ymunwch â Dr Martyn Quigley am gyflwyniad diddorol ar bwnc allweddol ym maes seicoleg glinigol; archwilio mythau a chamddealltwriaethau cyffredin ynghylch sgitsoffrenia a chael cipolwg ar nodweddion y cyflwr. Drwy astudiaethau achos go iawn, mae Dr Quigley yn tynnu sylw at sut olwg sydd ar sgitsoffrenia yn ymarferol.

Cofrestrwch yma

Seicoleg

20/11/2025

18:00 - 19:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Llun o ymenydd yn cynrychioli'r meddwl.

Biocemeg siocled

Pam rydyn ni'n dwlu ar siocled? A beth mae'n ei wneud i ni? Mae'r weminar hon yn trafod siocled, o'i strwythur i'w gyfansoddiad biocemegol ac mae'n ystyried sut mae cyfansoddion penodol mewn siocled yn tarfu ar brosesau signalu cellol a niwral normal neu yn eu gwella a sut gallant leihau datblygiad clefydau cardiofasgwlaidd a niwroddirywiol.

Cofrestrwch yma

Biocemeg

20/11/2025

18:00 - 19:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Myfyriwr yn astudio sbesimen.

Drwy anfon eich ymholiad rydych yn caniatáu i'ch data gael ei gadw gan Brifysgol Abertawe. Defnyddir eich data er dibenion delio â'ch ymholiad ac anfon y wybodaeth berthnasol atoch am Brifysgol Abertawe. Ni fydd Prifysgol Abertawe'n trosglwyddo'ch manylion i unrhyw drydydd parti. Os dymunwch dynnu'ch enw oddi ar gronfa ddata Prifysgol Abertawe, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP neu e-bostiwch astudio@abertawe.ac.uk