Croeso i'n cyfres Gweminar

Mae ein cyfres gweminar yn cynnwys sesiynau ar eich cwrs dewisol ac ar fyw ym Mhrifysgol Abertawe. Mae yna hefyd recordiadau o weminarau’r gorffennol fel y gallwch ddal i fyny ar bopeth sydd angen i chi ei wybod am ymuno â Phrifysgol Abertawe.

Dosbarthiadau Meistr - Yr Hydref 2026

Mae ein Cyfres Dosbarthiadau Meistr yn rhoi cyfle i chi gael blas ar ein cyrsiau drwy weminarau ar-lein. Os ydych chi eisoes wedi dewis pwnc neu’n dal i benderfynu, mae’n ffordd wych o ddysgu mwy. 

Mae pob sesiwn yn cael ei chyflwyno gan ein hacademyddion ac yn cynnig y cyfle i gael teimlad o sut beth yw darlithoedd prifysgol, archwilio sawl pwnc o ddiddordeb a gofyn cwestiynau am y cwrs. 

Rydyn ni hefyd yn cynnig gweminarau sydd wedi'u dylunio i gefnogi eich cais i'r brifysgol, gan gynnwys cyfleoedd astudio a chyllid sydd ar gael i chi.

Sylwer, cyflwynir y sesiynau hyn yn Saesneg yn unig.

Cofrestru i’r Gyfres Dosbarthiadau Meistr
Greffeg lliwgar o fyfyrwyr ty allan i'r prifysgol