Pwy ydyn ni
Mae economi'r DU wedi wynebu heriau digynsail yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ofyn am atebion amlweddog ac arloesol fwyfwy i ddiogelu a hyrwyddo datblygiad economaidd a gwydnwch.
Mae economi'r DU wedi wynebu heriau digynsail yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ofyn am atebion amlweddog ac arloesol fwyfwy i ddiogelu a hyrwyddo datblygiad economaidd a gwydnwch.
Nod y Sefydliad Ymchwil Arloesi ac Entrepreneuriaeth yw uno academyddion sy'n gweithio i ymchwilio a chynnig atebion ar heriau economaidd yng Nghymru a'r DU ehangach – gan ddarparu ymatebion arloesol trwy ymchwil drawsddisgyblaethol.
Mae ein Sefydliad yn uno aelodau o Brifysgol Abertawe gyda chydweithwyr, sefydliadau a rhanddeiliaid allanol, gan annog cydweithio ar draws cyfadrannau a chysylltu ystod eang o arbenigedd a sgiliau gwahanol.
Ar ben hynny, mae ein Sefydliad yn cynnig gwasanaethau ymchwil ac ymgynghori busnes ar gyfer ystod eang o sefydliadau. Gadewch i'n gweithgorau a'n haelodau unigol gefnogi datblygiad strategol eich sefydliad drwy ein hymchwil, ein hymgynghoriaeth a'n cyngor.
Mae'r Sefydliad Ymchwil Arloesi ac Entrepreneuriaeth yn darparu hwb ar gyfer arbenigwyr menter ac arloesi y gall eu gwybodaeth a'u profiad hefyd gefnogi a gwella ceisiadau ymchwil ar draws disgyblaethau - gan gynnwys gwyddoniaeth, iechyd a'r celfyddydau. Gall ein harbenigwyr gynnig mewnwelediad amhrisiadwy ar gyfer ceisiadau sy'n gofyn am gymhwyso theori busnes neu economaidd yn ymarferol, gan ddangos yr achos economaidd dros brosiect ymchwil.
Mae ein Sefydliad yn darparu cefnogaeth i grwpiau ymchwil a chynigion ceisiadau eraill yn ogystal â llunio ceisiadau ymchwil penodol trawsddisgyblaethol sy'n ffocysu ar y themâu eang canlynol:
Rydym yn defnyddio setiau sgiliau eang ein haelodau yn benodol i ddehongli'r themâu hyn yn eu hystyr ehangaf, er mwyn cael prosiectau ymchwil ar waith, ac rydym hefyd yn croesawu awgrymiadau gan aelodau, cydweithwyr allanol, sefydliadau a rhanddeiliaid i ddatblygu partneriaethau cydweithio ymhellach i feithrin perthnasoedd ar gyfer prosiectau tymor hir.
Cysylltwch â chyd-gyfarwyddwyr dros dro'r Sefydliad, Dr Daniele Doneddu a Dr Samuel Ebie, i drafod syniadau am geisiadau ymchwil, aelodaeth o'r Sefydliad, neu geisiadau am ymgynghori: d.doneddu@abertawe.ac.uk a Samuel.Ebie@abertawe.ac.uk
Mae Dr Daniele Doneddu yn Athro Cysylltiol yn yr Ysgol Reolaeth. Mae gan Dr Doneddu gyfoeth o brofiad o arwain a chyd-arwain prosiectau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol mewn meysydd fel arloesi a thrawsnewid, entrepreneuriaeth a sgiliau, gwydnwch cymdeithasol, technoleg a'r rhyngweithio rhwng bodau dynol a pheiriannau.
Mae Dr Samuel Ebie yn Ddarlithydd mewn Entrepreneuriaeth ac Arloesi yn yr Ysgol Reolaeth. Mae gan Dr Ebie brofiad o arwain prosiectau ac ymchwil ym meysydd arweinyddiaeth a dysgu entrepreneuraidd, entrepreneuriaeth gymdeithasol, a heriau yn Ne'r Byd, yn ogystal ag addysg entrepreneuriaeth, ethnigrwydd a chysylltiadau hiliol.