Cyfarwyddwr GCRI Kris Stoddart (chwith) a Keir Giles (dde)
Dyddiad: 17 Mehefin 2024
Siaradwr: Mae Keir Giles, yn Uwch-gymrawd Ymgynghorol gyda Rhaglen Russia and Eurasia y Sefydliad Materion Rhyngwladol yn Chatham House, ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Astudiaethau Gwrthdaro (CSRC)
Disgrifiad o'r digwyddiad:
Mae'r fath o ddyfodol sydd yn yr arfaeth ar gyfer Ewrop yn dibynnu ar ganlyniad y gwrthdaro yn Wcráin. Ond mae'r un peth yn wir hefyd am hynt Rwsia ei hun yn y dyfodol. Mae unrhyw obaith o newid gwleidyddol neu gymdeithasol yn Rwsia yn y tymor agos yn dibynnu ar sut y bydd y wlad yn ymateb i fuddugoliaeth neu gael ei threchu.
Yn y sgwrs hon, bydd Keir Giles yn ystyried y ffactorau amrywiol ac anhysbys sy'n dibynnu ar hynt y rhyfel yn y dyfodol, a hefyd y ffactorau cyson a gwrthrychol a fydd yn cyfyngu ar lwybrau posibl datblygiad Rwsia yn y dyfodol. Bydd yn trafod y posibiliadau ar gyfer cynnwrf gwleidyddol yn Rwsia ar ôl cael ei threchu, a'r terfynau i'r posibiliadau hynny sy'n deillio o lywodraeth bresennol Rwsia a natur hanes a chymdeithas Rwsia.
Gan dynnu ar ddegawdau o astudio Rwsia a rhagfynegi ei hynt yn gywir, bydd yn ymdrin â'r sefyllfa bresennol fel rhan o gylch ehangach hanes ac yn ystyried yr hyn y gall hynny ei ddweud – a’r hyn na all ei ddweud - wrthym am yr hyn i'w ddisgwyl nesaf gan Moscow.