Students in a lab

Ym Mhrifysgol Abertawe rydym yn addo i:

“Hybu, datblygu ac eirioli dros Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) ar gyfer holl staff a myfyrwyr.

Gweithio mewn modd tryloyw ac yn seiliedig ar dystiolaeth, lle rydym yn dal ein hunain ac eraill yn atebol, i annog meddylfryd twf o ran EDI.”

Cynyddu cynrychiolaeth menywod o fewn Peirianneg Fecanyddol

Mae prosiect 50% ar gyfer y Dyfodol (50%FTF) yn Adran Peirianneg Fecanyddol (DoME) Prifysgol Abertawe yn anelu at wella cynrychiolaeth menywod a’u profiadau wrth astudio a gweithio ym maes Peirianneg Fecanyddol. Dyfarnwyd y prosiect uchelgeisiol hwn drwy Raglen Effaith Amrywiaeth yr Academi Frenhinol Peirianneg a’i lansio ym mis Awst 2022. Mae wedi gweithio i fynd i’r afael â’r cynrychiolaeth isel o fyfyrwragedd o fewn cyrsiau israddedig y DoME (8.5% mewn cohort o tua 500 o fyfyrwyr, sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol bryd hynny sef 11.2%).

Adroddodd myfyrwragedd Peirianneg Fecanyddol am heriau yn yr amgylchedd gwrywaidd ei naws, gan gynnwys hyder isel, diffyg hunan-effeithiolrwydd, a phrinder modelau rôl perthnasol. O ganlyniad, y nod hirdymor yw cynyddu cynrychiolaeth menywod, tra yn y cyfamser gweithio i wella eu profiad astudio addysg uwch (AU) presennol, er mwyn eu cefnogi a’u hysbrydoli yn well yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol ym maes Peirianneg Fecanyddol.

Mae’r prosiect wedi gweithio i fynd i’r afael â thri phrif fater sy’n ymwneud â menywod yn dod yn Beirianwyr Mecanyddol proffesiynol. Mae’r adroddiad terfynol a’r “Canllaw Sut i” a gyflwynwyd yn gweithredu fel “Sbringfwrdd” drwy ymyriadau a ddiffiniwyd gan fuddiolwyr ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i gyflawni’r nod o “50% ar gyfer y Dyfodol” o ran cynrychiolaeth menywod, nid yn unig wrth astudio Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Abertawe, ond hefyd o fewn y proffesiwn.

Students in a lab

Datblygiad Ymyriadau

Cychwynnwyd y gwaith cwmpasu ar gyfer “50% ar gyfer y Dyfodol” ym mis Medi 2021. Er mwyn dal gwir lais y buddiolwyr, sefydlwyd grŵp gwaith (WG) a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth amrywiol o’n cohort myfyrwyr Peirianneg Fecanyddol, academyddion, diwydiant ac IMechE. Yn ogystal â’r nod clir o gynyddu nifer y myfyrwragedd yn yr adran, nodwyd tri maes problem gan y WG y mae angen mynd i’r afael â hwy er mwyn helpu i gyflawni’r nod hirdymor hwn, yn ogystal â darparu effaith gadarnhaol fwy uniongyrchol i’r buddiolwyr.

Cwrdd â'r Tîm

Dr Jennifer Thompson

Presennol: Prif Ymchwilydd

Dr Jennifer Thompson

Lydia Webber

Blaenorol: Swyddog Prosiect

Lydia Webber

Chloe Morgan

Blaenorol: Cynorthwy-ydd Ymchwil

Chloe Morgan

Ein Partneriaid

Dr Andrew Rees

Dr Andrew Rees
Dr Andrew Rees:
Cydweithredwr Allanol,
Prifysgol Loughborough
Cornell logo

Prifysgol Cornell (Academia)

Yr Ysgol Beirianneg yw un o'r rhai cyntaf i gael cydbwysedd rhwng y rhywiau ar lefel israddedig.

MBDA logo

MBDA Missile Systems (Diwydiant)

Sefydliad sy'n enghraifft o arfer gorau i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau.

IMechE logo

IMechE (Sefydliad Allanol)

Mae IMechE yn goruchwylio ansawdd ymarfer o fewn y proffesiwn a bydd yn sicrhau y bydd y strategaeth yn cael effaith gynaliadwy.

Primary school children

Ysgolion Lleol (Cymunedol)

Bydd gweithgareddau allgymorth yn cael eu cynnal gydag ysgolion lleol i asesu ymyriadau effeithiol.