Yr Her
Weithiau, gall ymchwil a wneir mewn prifysgol ymddangos fel rhywbeth o bell i'r cyhoedd, er efallai bod y brifysgol honno yng nghanol lle mae pobl yn byw ac yn gweithio. Ar ben hynny, mae'r dystiolaeth yn glir bod y cymunedau mwyaf difreintiedig yn cymryd y rhan leiaf mewn addysg prifysgol - oherwydd gwelant y brifysgol fel rhywbeth "nad yw ar fy nghyfer i".
Prosiect ymgysylltu â’r cyhoedd gan Brifysgol Abertawe yw Oriel Science sy'n cymryd gwaith ymchwil a wneir gan ymchwilwyr Abertawe, ac yn ei droi'n grefftau rhyngweithiol a pherfeddol, a'u gosod nhw yng nghanol y gymuned. Mae'n croesawu aelodau'r cyhoedd a myfyrwyr ar ymweliadau ysgol a drefnir. Mae hefyd wedi cynnal a rhoi cyflwyniadau mewn gwyliau.
Mae Oriel Science yn cael ei rhedeg gan dîm bach gan gynnwys ymchwilwyr Prifysgol Abertawe a'r nod yw cynnwys aelodau'r cyhoedd i ymgyfarwyddo â gwyddoniaeth h.y. 'Prifddinas Gwyddoniaeth' ond gyda phwyslais ar gyrraedd grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli yn y gymuned. Dengys ymchwil a gyhoeddwyd mai datblygu'r Brifddinas Gwyddoniaeth yw'r ffordd orau o annog Cenedlaethau'r Dyfodol i gael addysg prifysgol.
Yr Effaith
O'i harddangosfa deithiol yng nghanol dinas Abertawe yn 2016 i'w channoedd o ymweliadau ag ysgolion a gwyliau gwyddoniaeth ledled Cymru, mae Oriel Science wedi rhyngweithio â thros 150,000 o bobl mewn dros 100 o ddigwyddiadau, gan ddod ag ymchwil o'r 'tyrau ifori' ac i'r gymuned. Roedd yr ymwelwyr â'r sioe deithiol yn cyd-fynd yn union â phroffil economaidd-gymdeithasol cymuned Abertawe, gan brofi bod Oriel Science yn lle i bawb. O ganlyniad i'r llwyddiant hwn, mae gan Oriel bellach gartref parhaol ar y Stryd Fawr yn Abertawe, gan alluogi'r tîm i barhau i ymgysylltu, ysbrydoli a chyffroi cenedlaethau'r dyfodol. Mae wedi ysbrydoli cyfranogwyr i gyflwyno cais am y Brifysgol, wedi cynorthwyo ymchwilwyr i gael grantiau ymchwil drwy ddefnyddio ymgysylltu â’r cyhoedd fel offeryn i greu "Effaith", gan roi cyfleoedd cyflogaeth i fyfyrwyr presennol Prifysgol Abertawe.