Mae didau yn rhad, mae atomau’n ddrud: Myfyrio ar y newid ffisegol mewn HCI a pham mae caledwedd rhyngweithiol yn dal i fod yn anod
Dydd Mercher 9 Tachwedd 2022
Crynodeb:Ym maes rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron, mae nifer o weledigaethau dylanwadol wedi ysbrydoli ymchwilwyr i wneud rhyngweithio ag offer digidol yn fwy cyfoethog, yn fwy synhwyrus, ac wedi'i integreiddio'n well yn y byd go iawn. Mae enghreifftiau o weledigaethau o'r fath yn cynnwys cyfrifiadura hollbresennol a threiddiol, yn ogystal â rhyngwynebau diriaethol, mewnblanedig ac ymgorfforedig. Fodd bynnag, er bod yr effaith yn y gymuned ymchwil wedi bod yn helaeth, nid oes cymaint o enghreifftiau o ryngwynebau ffisegol neu ymgorfforedig yn y parth defnyddwyr ag y byddai rhywun yn ei ddisgwyl. Mae'r rhesymau dros y diffyg cymharol hwn o effaith yn y byd go iawn yn gymhleth, ond yn y pen draw mae’n bosibl eu crynhoi gan ddweud mae didau yn rhad, mae atomau yn ddrud - i’w creu; eu rheoli; eu haddasu; eu cynnal; eu masgynhyrchu; a’u dosbarthu. Yn olaf, byddaf yn eich cyfeirio at baradeim newydd a allai gyfuno manteision didau ac atomau, o'r enw Picseli Wedi’u Rhyddhau.
Bywgraffiad: Mae Lars Erik Holmquist yn Athro Arloesedd yn yr Ysgol Ddylunio, Prifysgol Northumbria lle mae'n arwain y Labordy Profiadau Cysylltiedig. Mae wedi gweithio mewn prifysgolion a labordai diwydiant yn Sweden, UDA, Japan a'r DU. Mae ei feysydd ymchwil yn cynnwys rhaglenni symudol, cyfrifiadura hollbresennol, delweddu gwybodaeth a phrofiadau ymgolli.