Bydd y carfanau yn cael eu hyfforddi gan ein tîm sy'n cynnwys arweinwyr ymchwil sy'n creu'n ymarferol yr agendâu ar draws gwyddor cyfrifiadol arbrofol a damcaniaethol ac mewn cyd-destunau yn y maes i'w trawsffurfio gan systemau data mawr a deallusrwydd. Bydd y bobl a gaiff eu haddysgu, hyfforddi, a'u hadeiladu gan ein Canolfan yn cyfuno'r lefel uchaf o gymhwysedd technegol gyda galluoedd ystwyth, entrepreneuriadd ac empathetig. Ein nod fydd meithrin bob ymchwilydd PhD i'w llawn botensial, gan eu hyfforddi a'u annog i fod yn arweinwyr newydd yn barod i greu eu cwmnïau eu hunain, trawsffurfio rhai sy'n bodoli'n barod, adeiladu capasiti o fewn sylfaen academaidd y DU a bod yn eiriolwyr technolegau bodau dynol yn gyntaf yn y cymunedau ehangach y byddant yn gwasanaethu ynddynt.