Côd Ymarfer ar gyfer Dysgu, Addysgu ac Asesu

Mae’r Côd Ymarfer ar gyfer Dysgu, Addysgu ac Asesu’n rhoi’r fframwaith, yr egwyddorion, y polisi, y prosesau a’r arweiniad sy’n angenrheidiol ar gyfer addysgeg effeithiol a chynhwysol, ac fe’i crëwyd mewn partneriaeth gan y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd, Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe, Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe, a’r Ganolfan Llwyddiant Academaidd.

Mae’r Côd Ymarfer hwn yn ymdrechu i fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac mae’n cyd-fynd â disgwyliadau, ymarferion ac egwyddorion arweiniol Cyngor ac Arweiniad Côd Ansawdd y DU (yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch – QAA).

Mae’r Côd Ymarfer hwn yn cyd-fynd â Graddedig Abertawe ac Ymrwymiadau Canmlwyddiant y Brifysgol, a amlinellir yn Strategaeth Dysgu ac Addysgu 2019-2024 y Brifysgol, sy’n tanategu datblygiadau arfaethedig ar gyfer dysgu, addysgu ac asesu dros y pum mlynedd nesaf. Felly, rhennir adnoddau’r Côd Ymarfer ar gyfer Dysgu, Addysgu ac Asesu yn unol â’r themâu canlynol:

Drwy’r themâu allweddol hyn, ac yn unol â’r rhaglen 7 Characteristics of a Good Teacher a ddatblygwyd gan Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe, mae’r Côd Ymarfer yn cynnig arweiniad ac adnoddau i staff a myfyrwyr ym meysydd dysgu ac addysgu cynhwysol, dysgu gweithredol, cyfathrebu a chreu ar y cyd rhwng staff a myfyrwyr, yn ogystal ag asesu effeithiol ac adborth. Bydd Prifysgol Abertawe yn parhau i ddatblygu amgylchedd lle gall myfyrwyr ddysgu a thyfu, teimlo eu bod yn rhan o gymuned, meithrin ymdeimlad o berthyn, a datblygu cyfalaf cymdeithasol. 

Gweler hefyd Bolisi Asesu, Marcio ac Adborth.

Caiff yr egwyddorion, y polisïau a’r prosesau sy’n ymwneud â dysgu, addysgu ac asesu eu hadolygu’n flynyddol.

Cywerthoedd Asesu

Nod y Gyfrifiannell Cywerthoedd Asesu yw gweithredu fel man cychwyn ar gyfer dethol dull asesu priodol i ddiwallu anghenion eich deilliannau dysgu yn ogystal ag anghenion eich myfyrwyr. Mae'r gyfrifiannell yn amlinellu cywerthoedd o ran credydau, cyfrif geiriau ac amser ar sail nifer o fodelau a ddefnyddir ar draws y sector. Mae'r cywerthoedd hyn yn rhai dangosol a gellir eu haddasu i gyd-fynd â'r deilliannau dysgu a fwriedir. 

Mae'r ddogfen Arweiniad Cywerthoedd Asesu yn amlinellu'r fethodoleg y tu ôl i'r gyfrifiannell ac yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am sut i'w defnyddio a'i chymhwyso.  

Nid yw’n fframwaith anhyblyg a dylid datblygu pob asesiad gan gyfeirio at dystiolaeth ac arbenigedd addysgegol cadarn er mwyn sicrhau bod asesiadau'n addas at y diben. 

Mae'r Gyfrifiannell a'r dogfennau Arweiniad yn rhoi disgrifiad o'r dull asesu yn ogystal â'r manteision a'r anfanteision, bregusrwydd o ran deallusrwydd artiffisial ac addasiadau rhesymol.  Byddwn yn parhau i ddatblygu'r dogfennau hyn yn unol â newidiadau i asesiadau er mwyn ystyried deallusrwydd artiffisial, yn ogystal ag ystyried dulliau asesu amgen a allai fod yn benodol i'r pwnc dan sylw.   

Gweler hefyd Bolisi Asesu, Marcio ac Adborth Prifysgol Abertawe.

Caiff yr egwyddorion, y polisïau a'r prosesau sy'n ymwneud â Dysgu, Addysgu ac Asesu eu hadolygu'n flynyddol.