Mae Codau Ymarfer Prifysgol Abertawe wedi’u llunio i ddarparu fframwaith ar gyfer Sicrhau a Gwella Ansawdd yn effeithiol, gan gefnogi a galluogi staff a myfyrwyr i ymgysylltu’n llawn â darparu profiad o safon ar gyfer myfyrwyr ar draws pob rhaglen ac ar bob lefel astudio. Mae’r Codau Ymarfer wedi’u llunio i ddarparu trosolwg cryno o brosesau allweddol, ynghyd â chwestiynau cyffredin mwymanwl, gan ddarparu dull cam wrth gam o sicrhau ansawdd yn effeithiol.
Mae’r Côd Ymarfer hwn yn cyd-fynd â Disgwyliadau ar gyfer Safonau ac Ymarferion Craidd a Chyffredin Côd Ansawdd Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) y DU (Mai 2018) a’r Cyngor a’r Arweiniad cysylltiedig ar Lunio a Datblygu Cyrsiau a’r Egwyddorion Arweiniol (Tachwedd 2018).
Caiff egwyddorion a phrosesau Prifysgol Abertawe ar gyfer llunio, datblygu, cymeradwyo ac adolygu rhaglenni newydd a rhaglenni diwygiedig eu hadoly gu’n flynyddol i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas at eu diben ac er mwyn ystyried cyngor diweddar gan ASA mewn perthynas â Chod Ansawdd y DU, Datganiadau Nodweddion newydd a rhai diwygiedig a Meincnodau Pwnc newydd a rhai diwygiedig.
Mae’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn croesawu adborth ar effeithiol rwydd y Côd Ymarfer hwn a bydd yn ceisio gweithredu gwelliannau drwy gydol y flwyddyn i wella’r profiad i ddefnyddwyr. Mae croeso i chi anfon adborth at quality@abertawe.ac.uk gan nodi ‘Adborth ar y Côd Ymarfer’ fel pennawd yr e-bost.
Rydym yn gobeithio y bydd y Côd Ymarfer hwn yn ddefnyddiol ac yn hawdd ei ddefnyddio.
Gwasanaethau Ansawdd Academaidd.
Diweddarwyd: Ionawr 2023.