Fframwaith Sicrhau Ansawdd: Darpariaeth Ddwyieithog ac Ail Iaith gyda Phartneriaid Academaidd
- Amdanom ni
- Canmlwyddiant 2020
- Hanes a threftadaeth
- Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
- Bywyd y campws
- Cynaliadwyedd
- Chwaraeon
- Astudio
- Datblygu'r Campws
- Swyddfa'r Wasg
- Sut i ddod o hyd i ni
- Diwrnod Agored Rhithwir
- Ein Cyfadrannau
- Swyddi a Gweithio yn Abertawe
- Academi Hywel Teifi
- Ymgysylltiad Byd-eang
- Gwasanaethau Academaidd a Cyfarwyddiaeth yr Academïau
- Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
- Codau Ymarfer
- Sicrhau Ansawdd
- Polisïau
- Polisi Recordio Darlithoedd a Chynnwys Addysgu
- Platfform Dysgu Digidol: Polisi Isafswm Safonau a Disgwyliadau
- Polisi Cadw Cyrsiau’r Amgylchedd Dysgu
- Polisi Adborth Modiwlau
- Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth am Fodiwlau
- Polisi ar Arsylwi ar Addysgu gan Gymheiriaid
- Polisïau sy'n Ymwneud ag Addysg
- Polisïau Eraill
- Safonau Gofynnol ar gyfer Ymarfer Addysg
- Polisi Cyfieithu Cynnwys Academaidd Ysgrifenedig
- Fframwaith Sicrhau Ansawdd: Darpariaeth Ddwyieithog ac Ail Iaith gyda Phartneriaid Academaidd
- Adolygiad Ansawdd
- Polisïau
- Cwrdd â Thîm
- Rhagoriaeth Addysgu
- Llyfrgelloedd ac Archifau
- Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
- Hygyrchedd
- Cynwysoldeb ac Ehangu Mynediad
- Ein Cyfeiriad Strategol
- Staff
- Gwerthoedd
- Rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton
- Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
- Ymrwymiad i Technegwyr
1. Cyflwyniad
Mae'r polisi hwn yn amlinellu'r ymagwedd at sicrhau ansawdd y ddarpariaeth a gyflwynir drwy gyfrwng ieithoedd eraill heblaw am y Saesneg neu'r Gymraeg gan bartneriaid cydweithredol ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
2. Diffiniadau
- Darpariaeth Ail Iaith: Addysgu ac asesu drwy gyfrwng Ail Iaith yn unig, a heb fod drwy gyfrwng y Saesneg/Gymraeg.
- Darpariaeth Ddwyieithog: Addysgu a/neu asesu drwy gyfrwng cyfuniad o'r Saesneg/Gymraeg ac Ail Iaith.
Mae amrywiaeth o opsiynau darpariaeth ddwyieithog posibl y gellir eu hystyried:
- Darpariaeth a addysgir ac a asesir drwy gyfrwng iaith cyflwyno’r rhaglen (cyfuniad o fodiwlau Saesneg neu Gymraeg ac Ail Iaith), yn llawn neu fel rhan o'r rhaglen.
- Darpariaeth a addysgir mewn un iaith ac a asesir yn yr Ail Iaith (ar gyfer rhai modiwlau neu ar gyfer pob modiwl);
- Darpariaeth a addysgir drwy gyfuniad o'r Saesneg/Gymraeg ac Ail Iaith, ac a asesir yn Saesneg/Gymraeg / a asesir yn yr Ail Iaith / a asesir mewn cyfuniad o'r ieithoedd.
- Dewis y myfyriwr yw iaith yr asesiad.
- Amrywiaeth o Saesneg neu Gymraeg ac Ail Iaith mewn cydrannau asesu gwahanol sy'n rhan o fodiwl.
3. Sicrhau Ansawdd a Rheoli Risg Darpariaeth Ddwyieithog ac Ail Iaith
Er mwyn rheoli risg yn effeithiol, bydd Prifysgol Abertawe fel arfer yn canolbwyntio ar gyflwyno darpariaeth drwy gyfrwng y Saesneg/Gymraeg, ond bydd y Brifysgol yn gweithio gyda phartneriaid academaidd ar ddarpariaeth lle caiff y rhaglen ei haddysgu'n ddwyieithog neu, mewn achosion penodol, lle gellir ystyried cyflwyno’r dyfarniad cyfan drwy gyfrwng Ail Iaith. Fel arfer, bydd yn ofyniad gan Brifysgol Abertawe i'r holl asesiadau crynodol gael eu marcio a'u cymedroli yn yr iaith y cyflwynwyd yr asesiad ynddi, a dylid darparu adborth yn yr iaith honno hefyd. Ni chaiff gwaith a asesir ei gyfieithu oni bai nad oes opsiwn arall ar gael. Rhaid i'r cyfieithwyr naill weithio i Brifysgol Abertawe neu gael eu contractio’n uniongyrchol gan Brifysgol Abertawe a dylent fod yn annibynnol ar y partner er mwyn sicrhau uniondeb yr asesiad.
Pan fo'r ddarpariaeth wedi'i dylunio i fod yn ddwyieithog, rhaid cytuno ar ganran cyflwyno'r cwrs a’r ganran i’w haddysgu a/neu ei hasesu yn Saesneg neu Gymraeg yn ystod y cyfnod datblygu. Bydd Prifysgol Abertawe fel arfer yn ceisio safoni'r ymagwedd at ddarpariaeth ddwyieithog ac ail iaith, a cheir amlinelliad o'r wybodaeth isod..
Rhaglenni Israddedig:
- Gradd Israddedig - fel arfer o leiaf 40 o gredydau yn cael eu cyflwyno drwy gyfrwng y Saesneg/Gymraeg gydag uchafswm o 80 o gredydau yn cael eu cyflwyno drwy gyfrwng yr Ail Iaith ar lefelau 3, 4, 5 a 6.
- Gall myfyrwyr gyflwyno asesiadau yn yr iaith y caiff y modiwl ei addysgu ynddi.
- Gellir caniatáu lefel o hyblygrwydd ar gyfer prosiectau terfynol Lefel 6, er enghraifft, gallai’r traethawd hir/prosiect gael ei ysgrifennu drwy gyfrwng yr Ail Iaith gyda chanran orfodol o'r asesiad yn cael ei hysgrifennu yn Saesneg/Gymraeg fel adran grynhoi.
Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir:
- Gradd ôl-raddedig - fel arfer o leiaf 60 o gredydau yn cael eu cyflwyno drwy gyfrwng y Saesneg/Gymraeg, gydag uchafswm o 120 o gredydau (neu 180 o gredydau ar gyfer graddau Meistr Estynedig â 240 o gredydau) yn cael eu cyflwyno drwy gyfrwng yr Ail Iaith ar lefel 7. Ar yr adeg pan gaiff y rhaglen ei chymeradwyo, neu ei hadolygu/haddasu, ystyrir a oes angen rheoliadau arbennig er mwyn sicrhau bod digolledu yn cael ei gymhwyso’n gymesur i’r rhaniad credydau Saesneg/Cymraeg ac Ail Iaith.
1 Rhaid i raglenni achrededig hefyd gydymffurfio ag unrhyw gyrff Proffesiynol, Rheoleiddiol a Statudol yn y Deyrnas Unedig ac yn y wlad lle y cyflwynir y ddarpariaeth, lle y bo'n briodol.
Mewn achosion lle cynigir gwyriadau o'r safon hon, neu awgrymir i'r rhaglen gael ei chyflwyno drwy gyfrwng ail iaith yn unig, rhaid i'r Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau gytuno ar y cynnig cyn i’r rhaglen gael ei chymeradwyo.
Rhaglenni lle mae'r Ddarpariaeth yn Ddwyieithog neu drwy gyfrwng yr Ail Iaith yn unig
Ar gyfer yr holl ddarpariaeth, Saesneg neu Gymraeg fydd iaith fusnes gweithrediadau a gweithdrefnau Prifysgol Abertawe fel arfer er mwyn sicrhau bod holl staff Prifysgol Abertawe'n medru cyflawni eu rolau perthnasol yn y prosesau.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Datblygu a Chymeradwyo Rhaglen
- Hyfforddiant ar brosesau, polisïau a rheoliadau Prifysgol Abertawe
- Sefydlu’r rhaglen a mewnbynnu data'r cwricwlwm yn y system cofnodion myfyrwyr (bydd hyn yn effeithio ar ddogfennaeth y dyfarniad ar ddiwedd y cwrs).
- Cofnodir Teitlau Rhaglenni a Modiwlau yn Saesneg ac yn Gymraeg, hyd yn oed pan gyflwynir credydau yn yr Ail Iaith
- Pan fo teitlau Rhaglenni a Modiwlau yr un peth â darpariaeth sydd eisoes yn bodoli ym Mhrifysgol Abertawe (e.e. ar gyfer darpariaeth freiniol), bydd angen codio amgen ac efallai bydd angen cyfeiriad at ddarpariaeth y Rhaglen a/neu'r modiwl mewn iaith wahanol at ddibenion adrodd.
- Bydd cofnodi enwau myfyrwyr, teitlau rhaglenni a modiwlau yn Saesneg ac yn Gymraeg yn golygu y bydd holl ddogfennaeth y dyfarniad yn Saesneg neu'n Gymraeg. Fodd bynnag, os cafodd y ddarpariaeth ei chyflwyno mewn iaith arall, bydd angen i'r ddogfennaeth ddangos hynny’n glir.
- Caiff y trawsgrifiad a'r dystysgrif eu cynhyrchu yn y Saesneg neu'r Gymraeg.
- Caiff prosesau cofrestru ar gyfer darpariaeth Ail Iaith eu hadolygu a'u haddasu yn ôl yr angen.
- Bydd angen ystyried mynediad at wasanaethau'r Brifysgol, gan gynnwys y Llyfrgell a Canvas, yn ofalus; yn y rhan fwyaf o achosion, disgwylir y byddai’r Partner Academaidd yn medru darparu atebion amgen yn yr iaith briodol, a byddai angen i’r rhain gael eu hasesu gan gydweithiwr o Brifysgol Abertawe er mwyn sicrhau safonau. Pan nad yw hyn yn bosibl, efallai y bydd angen ystyried costau ychwanegol yn achos ariannol y bartneriaeth os nad yw'r gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli yn medru darparu cymorth yn yr iaith a fwriedir ar gyfer y ddarpariaeth.
- Caiff yr holl ddogfennau sy’n ymwneud â’r bartneriaeth a’r rhaglen eu cynhyrchu yn y ddwy iaith. Dylai deunyddiau dysgu gael eu hysgrifennu yn yr iaith y bydd y ddarpariaeth yn cael ei chyflwyno ynddi er mwyn sicrhau hygyrchedd, a dylai'r deunyddiau gael eu cyfieithu i'r Saesneg neu'r Gymraeg er mwyn sicrhau safonau ym Mhrifysgol Abertawe.
- Caiff dogfennau a gwybodaeth contractiol a dogfennau a gwybodaeth sy'n ofynnol gan y CMA, gan gynnwys tudalennau cwrs, eu cynhyrchu yn y ddwy iaith.
- Caiff yr holl ddogfennau i fyfyrwyr eu cynhyrchu yn y ddwy iaith, e.e. Llawlyfrau Cyrsiau, Canllawiau Astudio Modiwlau, Amodau a Thelerau, etc.
4. Asesu, Marcio, Cymedroli ac Adborth
Mae gan Brifysgol Abertawe ymagwedd sefydledig at asesu mewn ieithoedd eraill, a ddatblygwyd yn wreiddiol yn sgîl ei gofynion ei hun ynghylch darpariaeth ddwyieithog, ond a gafodd ei hestyn i gynnwys ieithoedd eraill. Asesu yn y Gymraeg/mewn Iaith arall - Prifysgol Abertawe. Mae'r ymagwedd hon yn ffurfio'r sylfaen ar gyfer cymhwysiad ehangach i ddarpariaeth ryngwladol ar sail yr egwyddorion canlynol:
- Lle bo'n bosibl, bydd Prifysgol Abertawe yn ceisio penodi arholwr(wyr) allanol sy'n rhugl yn y Saesneg/Gymraeg a'r Ail Iaith, ac sydd, yn ddelfrydol, yn gyfarwydd â'r gofynion rheoleiddiol yn y ddwy wlad. Pan nad yw hyn yn bosibl, gall arholwyr allanol gydweithio neu weithio mewn timau i lenwi bylchau mewn gwybodaeth ieithyddol, gwybodaeth am y pwnc a gwybodaeth reoleiddiol.
- Fel arfer, bydd partneriaid academaidd yn ymgymryd â’r gwaith marcio ac yn darparu adborth, a rhaid i staff fod yn rhugl yn iaith yr asesiad.
- Bydd Prifysgol Abertawe'n ymgymryd â gwaith cymedroli a bydd staff fel arfer yn ddigon cymwys yn iaith yr asesiad. Pan nad yw staff Prifysgol Abertawe'n ddigon rhugl yn yr iaith, efallai y caiff cynghorydd asesu allanol ei recriwtio i gymedroli gwaith myfyrwyr a gyflwynwyd yn yr iaith honno. Dim ond pan nad yw unrhyw un o'r opsiynau hyn yn bosibl, ac mewn amgylchiadau eithriadol, y dylai asesiad gael ei gyfieithu at ddibenion cymedroli.
- Rhaid i brosiectau a thraethodau ymchwil ôl-raddedig gael eu darllen a'u marcio yn yr iaith y'u cyflwynwyd ynddi, ac ni chaniateir iddynt gael eu cyfieithu at ddibenion asesu.
5. Gwasanaethau a Safonau Cyfieithu
Rhaid i Brifysgol Abertawe gymeradwyo unrhyw ddarparwr cyfieithu a argymhellir (lle bo'n briodol), er mwyn sicrhau annibyniaeth briodol a bod safon y cyfieithiad gymesur â’r risg sydd ynghlwm wrth gyfieithu'r wybodaeth.
- Bydd y Bartneriaeth yn talu costau’r holl gyfieithiadau sydd eu hangen, a fydd yn cael eu cynnwys yn y cytundeb ariannol.
- Bydd Prifysgol Abertawe'n pennu’r safon gyfieithu sy’n ofynnol ar gyfer pob dogfen er enghraifft:
- Lefel 1 Cyfreithiol - dyma'r lefel gyfieithu uchaf a ddefnyddir ar gyfer dogfennau cyfreithiol
- Lefel 2 Proffesiynol - mae hyn yn golygu y byddai angen i ddogfennau sydd wedi cael eu cyfieithu ddarllen fel darn gwreiddiol.
- Caiff dogfennau contractiol eu hysgrifennu yn Saesneg neu’n Gymraeg oherwydd eu bod nhw wedi’u rhwymo gan y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr.
- Mae'r dogfennau a argymhellir ar gyfer cyfieithiad Lefel 1 yn cynnwys:
- Amodau a Thelerau
- Rheoliadau Academaidd
- Prosesau a gweithdrefnau perthnasol (i gytuno arnynt gyda’r partner)
- Mae'r dogfennau a argymhellir ar gyfer cyfieithiad Lefel 2 yn cynnwys:
- Ffurflenni i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe - o Saesneg neu Gymraeg i'r Ail Iaith
- Deunyddiau'r cwrs o'r Ail Iaith i Saesneg neu Gymraeg
- Asesiadau a briffiau asesiadau o'r Ail Iaith i Saesneg neu Gymraeg
Ni ddylid cyfieithu gwaith sydd wedi'i gyflwyno i’w asesu oni bai nad oes unrhyw opsiwn arall ar gael. Bydd Prifysgol Abertawe a'i phartner(iaid) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod marcio a chymedroli'n cael eu gwneud drwy gyfrwng yr iaith y cyflwynwyd y gwaith ynddi, a bod adborth yn cael ei ddarparu yn yr iaith honno hefyd.