Polisi Recordio Cynnwys a Addysgir
- Amdanom ni
- Canmlwyddiant 2020
- Hanes a threftadaeth
- Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
- Bywyd y campws
- Cynaliadwyedd
- Chwaraeon
- Astudio
- Datblygu'r Campws
- Swyddfa'r Wasg
- Sut i ddod o hyd i ni
- Diwrnod Agored Rhithwir
- Ein Cyfadrannau
- Swyddi a Gweithio yn Abertawe
- Academi Hywel Teifi
- Ymgysylltiad Byd-eang
- Gwasanaethau Academaidd a Cyfarwyddiaeth yr Academïau
- Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
- Codau Ymarfer
- Sicrhau Ansawdd
- Polisïau
- Polisi Recordio Cynnwys a Addysgir
- Platfform Dysgu Digidol: Polisi Isafswm Safonau a Disgwyliadau
- Polisi Cadw Cyrsiau’r Amgylchedd Dysgu
- Polisi Adborth Modiwlau
- Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth am Fodiwlau
- Polisi ar Arsylwi ar Addysgu gan Gymheiriaid
- Polisïau sy'n Ymwneud ag Addysg
- Polisïau Eraill
- Safonau Gofynnol ar gyfer Ymarfer Addysg
- Polisi Cyfieithu Cynnwys Academaidd Ysgrifenedig
- Fframwaith Sicrhau Ansawdd: Darpariaeth Ddwyieithog ac Ail Iaith gyda Phartneriaid Academaidd
- Adolygiad Ansawdd
- Polisïau
- Cwrdd â Thîm
- Rhagoriaeth Addysgu
- Llyfrgelloedd a Chasgliadau
- Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
- Hygyrchedd
- Cynwysoldeb ac Ehangu Mynediad
- Ein Cyfeiriad Strategol
- Staff
- Gwerthoedd
- Rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton
- Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
- Ymrwymiad i Technegwyr
1. Diben
1.1
Diben y polisi hwn yw nodi disgwyliadau clir ar gyfer staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe ynghylch recordio'r cynnwys a addysgir i gefnogi gweithgareddau a gynhelir yn ystod sesiynau dysgu ac addysgu wyneb yn wyneb. Mae'r polisi hwn yn darparu fframwaith i reoli'r cymhlethdodau sydd ynghlwm wrth recordio cynnwys o'r fath, gan ystyried agweddau addysgegol, cyfreithiol, hygyrchedd, eiddo deallusol a diogelu data perthnasol, mewn cydymffurfiaeth â Pholisi Isafswm Safonau y Platfform Dysgu Digidol. Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn ymrwymedig i fodloni ei chyfrifoldebau cyfreithiol dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Drwy ymgorffori arferion cynhwysol megis recordiadau hygyrch yn y ddarpariaeth addysgu, mae Abertawe'n sicrhau nad yw myfyrwyr anabl dan anfantais sylweddol a bod ganddynt gyfleoedd teg i lwyddo.
1.2
Yn ychwanegol, nod y polisi hwn yw cadarnhau'r disgwyliad y bydd myfyrwyr yn mynychu sesiynau addysgu wyneb yn wyneb (oni bai bod amgylchiadau esgusodol dilys yn eu hatal rhag mynychu). Bydd y cynnwys a addysgir a gaiff ei recordio, gan gynnwys recordiadau o ddarlithoedd, yn cael ei ddefnyddio fel ychwanegiad at y sesiynau hynny, er mwyn galluogi myfyrwyr i ailymweld â’r deunydd dysgu. Ni fydd y recordiadau yn disodli’r sesiynau wyneb yn wyneb.
Mae buddion addysgol recordio gweithgareddau dysgu ac addysgu'n cynnig adnodd defnyddiol a hygyrch i fyfyrwyr a gellir ei ddefnyddio yn y ffyrdd canlynol, ymhlith llawer o ffyrdd eraill:
- Mae'n darparu cymorth crynhoi ar gyfer ailymweld â chynnwys, myfyrio ac adolygu.
- Mae'n medru cynnig eglurder ynghylch nodiadau, meddyliau neu ymwybyddiaeth sydyn a brofwyd yn ystod y sesiynau byw.
- Mae'n cynorthwyo myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.
- Mae'n rhoi cymorth i fyfyrwyr na allant fod yn bresennol oherwydd amgylchiadau esgusodol megis salwch neu gyfrifoldebau gofalu.
- Mae'n cynorthwyo myfyrwyr sydd ag anghenion cymorth addysgol penodol ac y gallai fod angen addasiadau arnynt er mwyn gallu cymryd rhan yn effeithiol.
2. Egwyddorion
Mae'r Brifysgol yn cydnabod:
- Nad yw'r holl weithgareddau dysgu yn addas i gael eu recordio, e.e. gweithgareddau ymarfer a chymhwyso â chymorth, sy'n cynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- Sesiynau mewn labordai
- Gweithdai ymarferol
- Seminarau
- Efallai y bydd materion moesegol, neu’r defnydd o ddeunydd sensitif yn golygu na fydd hi’n briodol recordio sesiwn benodol ac y dylid gwneud trefniadau eraill i recordio’r sesiwn at ddibenion hygyrchedd.
2.2
Bydd y Brifysgol yn darparu adnoddau clyweledol i staff, yn ogystal â chynhyrchion a gefnogir y gellir eu defnyddio i recordio cynnwys a addysgir.
2.3
Gall myfyrwyr wneud eu recordiadau sain eu hunain o weithgareddau dysgu ac addysgu ac fe'u cynghorir i ddod yn gyfarwydd â disgwyliadau ynghylch recordio cyfrifol (gweler 4.3.1).
Efallai y bydd gan fyfyrwyr ag anableddau addasiadau neu gymorth penodol ar waith i recordio mewn amgylcheddau dysgu ac addysgu. Efallai bydd gan fyfyrwyr cymwys fynediad at berson sy'n cymryd nodiadau drwy'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ond dim ond dan amodau penodol. Ni fydd y polisi hwn yn effeithio ar drefniadau presennol ar gyfer myfyrwyr anabl mewn perthynas â recordio gweithgarwch dysgu. Gweler hefyd yPolisi Addasiadau Rhesymol ar gyfer Dysgu ac Asesu - Prifysgol Abertawe.
3. Diffiniadau
3.1
Mae'r polisi hwn yn gwahaniaethu rhwng:
- Cynnwys a addysgir: Lle mae'r staff addysgu yn cyflwyno gwybodaeth newydd neu enghreifftiau ymarferol.
- Ymarfer a chymhwyso â chymorth: Lle mae myfyrwyr yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau y maen nhw wedi eu meithrin ar waith i ddatrys problemau a thrafod dehongliadau, neu weithgaredd ymarferol tebyg megis gwaith ymarferol yn y labordy.
3.2
Sesiynau addysgu bloc h.y. darlithoedd, tiwtorialau a dulliau eraill o addysgu a ddarperir mewn bloc dwys (gweler Termau a Diffiniadau Dysgu ac Addysgu ar gyfer Dulliau Eraill o Gyflwyno).
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i'r gweithgarwch dysgu ac addysgu a'r elfennau a addysgir yn ystod sesiwn, yn hytrach na’r sesiwn gyfan, a allai gynnwys elfennau a addysgir a gweithgareddau ymarferol.
3.3
Ystyr recordio cynnwys a addysgir yw recordio sesiynau a addysgir ar ffurf sain, fideo a ffurf aml-ddull. Mae'r sesiynau a addysgir yn cynnwys:
- Gweithgareddau ar y campws (cydamserol ac anghydamserol) a gaiff eu recordio gan ddefnyddio system recordio darlithoedd y Brifysgol;
- Deunyddiau a recordiwyd o flaen llaw (e.e. podlediadau);
- Sesiynau a gyflwynir ar-lein mewn amser go iawn; ac
- unrhyw recordiadau eraill a deunyddiau cysylltiedig (megis trawsgrifiadau o recordiadau).
3.4
Efallai y bydd ffurfiau amrywiol ar ddull amgen addas, ond mewn egwyddor, mae'n gyfatebol i'r sesiwn addysgu ac yn cwmpasu'r un cynnwys a addysgir. Mae'r enghreifftiau'n cynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- Fersiwn o'r deunydd a recordiwyd o flaen llaw;
- Crynodeb ysgrifenedig manwl o'r prif bwyntiau a drafodwyd;
- Dogfen gydweithredol sy'n cofnodi gwaith myfyrwyr yn ystod dosbarthiadau a drefnwyd.
4. Disgwyliadau
4.1 Disgwyliadau Cyffredinol
4.1.1
Mae Prifysgol Abertawe'n disgwyl i staff, myfyrwyr a chyfranwyr allanol gydymffurfio â holl ddeddfwriaeth berthnasol y DU ac Ewrop o ran hawlfraint. Rhaid i staff sicrhau bod ganddynt ganiatâd deiliad yr hawlfraint ar gyfer unrhyw ddeunydd a ddefnyddir yn ystod y recordiad. Mae cyngor pellach ar gael drwy openaccess@abertawe.ac.uk a gellir dod o hyd i arweiniad yn http://libguides.swansea.ac.uk/copyright
4.1.2
Caiff y cynnwys a addysgir ei recordio fel arfer (yn amodol ar yr eithriadau a restrir yn 2.1) a bydd ar gael ar Blatfform Dysgu Digidol y Brifysgol.
4.1.3
Fel arfer, ni chaiff ymarfer a chymhwyso â chymorth ei recordio oherwydd bod yr ymarferion dysgu gweithredol hyn yn dibynnu ar fyfyrwyr yn ymdrin â'r deunydd eu hunain. Nid yw gwylio recordiad o weithgareddau o'r fath gyfwerth â rhoi cynnig ar y tasgau. Yn yr achosion hyn, darperir gwybodaeth angenrheidiol i alluogi myfyrwyr i gwblhau tasgau yn eu hamser eu hunain, lle bo'n ymarferol.
4.2 Disgwyliadau ar gyfer Staff
4.2.1
Mae Prifysgol Abertawe'n disgwyl i'r holl staff ddarparu recordiadau o gynnwys a addysgir i fyfyrwyr yn ystod sesiynau 'addysgu bloc'). Gellir darparu recordiadau o gynnwys a addysgir mewn sawl fformat h.y. recordio sesiynau, neu ddeunydd a recordiwyd o flaen llaw. Dylai'r recordiad o gynnwys a addysgir fod yn hygyrch a dylai gynnwys capsiynau a/neu drawsgrifiad lle bo'n briodol.
4.2.2
Disgwylir i'r holl staff ddefnyddio ac ymgysylltu â’r Gwasanaeth Recordio Darlithoedd a Chynnwys, a ddarperir gan y Gwasanaethau Digidol ym Mhrifysgol Abertawe, ac eithrio yn yr amgylchiadau a nodwyd uchod yn 2.1
4.2.3
Rhaid i'r penderfyniad i beidio â recordio cynnwys a addysgir modiwl cyfan neu rannau ohono, ac yn unol â 4.2.5 a 4.2.6, gael ei wneud ar lefel y Rhaglen a rhaid i Gyfarwyddwr y Rhaglen ac Arweinydd Addysg yr Ysgol gytuno. Dylid darparu dewis amgen addas (gweler 3.4) i fyfyrwyr. Dylid gwneud a chadw cofnod o'r penderfyniad a'r rhesymau dros ei wneud, a dylid cyfeirio ato wrth adolygu modiwlau a rhaglenni, at ddibenion sicrhau ansawdd, a dylid adrodd amdano drwy Bwyllgorau/Fyrddau perthnasol y Gyfadran. Dylid casglu adborth gan fyfyrwyr a myfyrio arno, gan ddefnyddio'r dulliau adolygu modiwlau sydd ar gael.
4.2.4
Dylai staff sy'n cyflwyno'r gweithgaredd dysgu roi gwybod i'r myfyrwyr bod y gweithgaredd yn cael ei recordio. Dylai staff ddefnyddio eu doethineb a stopio recordiad, neu ei olygu yn hwyrach, os yw deunydd sensitif yn cael ei addysgu neu os byddai'r recordiad yn amharu ar addysgu rhyngweithiol.
4.2.5
Gallai fod amgylchiadau ad hoc pan na fydd modd recordio o ganlyniad i amgylchiadau annisgwyl (e.e. gan gynnwys problemau technoleg etc.). Ar yr achlysuron hyn, mae'n bosib na hi’n ymarferol rhoi gwybod i fyfyrwyr o flaen llaw na fydd modd recordio darlith. Mewn amgylchiadau o'r fath, darperir dull amgen addas o fewn dau ddiwrnod gwaith i'r sesiwn a gollwyd, gan gydymffurfio â Pholisi Isafswm Safonau y Platfform Dysgu Digidol.
4.2.6
Mae rhesymau pam na allai sesiynau addysgu gael eu recordio a pham na ellir darparu dulliau amgen addas, yn cynnwys:
- Pan fo lefel uchel o ryngweithio yn rhan o'r gweithgaredd addysgu h.y., holi ac ateb, profiadau cyffyrddol (e.e. gwaith labordy) etc.
- Lle gall fod rhesymau cyfreithiol, moesegol neu resymau'n ymwneud â phreifatrwydd dros beidio â recordio megis adegau pan fo trafodaeth neu weithgareddau'n cynnwys gwybodaeth gyfrinachol neu bersonol neu pan fyddant yn sensitif o safbwynt masnachol neu wleidyddol.
- Lle byddai recordio yn amharu ar brofiad y myfyrwyr ac yn rhwystro myfyrwyr rhag cyfrannu a dysgu'n effeithiol, h.y. trafodaeth â chyfoedion, datrys problemau ar y cyd.
- Lle nad yw'r cyfleuster i recordio'r gweithgaredd ar gael yn y man dysgu ac nid oes gan staff addysgu fynediad at ddull arall o recordio'r sesiwn. Os nad oes modd recordio oherwydd diffyg cyfleusterau neu fethiant y system, ni fydd hyn yn sail dderbyniol i fyfyrwyr gyflwyno cwyn.
- Lle mae'r un cynnwys yn cael ei gyflwyno mwy nag unwaith i'r un garfan o fyfyrwyr (e.e. ailadrodd sesiynau oherwydd cyfyngiadau yn yr amserlen, neu addysgu grwpiau llai pan fo'r garfan wedi ei rhannu) - yn yr achosion hyn, darperir un recordiad, yn hytrach na recordiad o bob sesiwn sy'n cael ei chynnal.
4.2.7
- Ni fydd recordiadau'n cael eu defnyddio ar gyfer adolygiadau datblygiad proffesiynol staff neu at ddibenion dyrchafiad staff (oni bai bod yr aelod staff dan sylw yn dewis gwneud hynny), ond caiff darpariaeth o'r fath ei hystyried fel rhan o unrhyw archwiliad o'r amgylchedd dysgu rhithwir.
4.3 Disgwyliadau i Fyfyrwyr
4.3.1
Os defnyddir recordiad o gynnwys addysgu at unrhyw ddiben heblaw am at ddiben anghenion dysgu personol myfyriwr (gan gynnwys darpariaeth cymorth anabledd) mewn perthynas â'i astudiaethau, neu os caiff y fath ddeunydd ei ddosbarthu (yn llawn neu’n rhannol) heb ganiatâd, ystyrir bod hynny’n groes i’r Polisi Defnydd Derbyniol o Dechnoleg Ddigidol a bydd y myfyriwr yn wynebu camau disgyblu.
5. Eiddo Deallusol
5.1
Mae recordiadau a wneir gan ddefnyddio meddalwedd y Brifysgol yn cael eu llywodraethu gan bolisi presennol y Brifysgol ynghylch Eiddo Deallusol, gweler Adran 4 Deunydd Addysgu a Deunyddiau Academaidd eraill am ragor o wybodaeth: Polisi Prifysgol Abertawe ar Eiddo Deallusol.
6. Diogelu Data
Pan fo'n bosibl, dylai staff osgoi recordio'r gynulleidfa yn y recordiadau o gynnwys a addysgir, gan gynnwys lleisiau unigol. Gellir gwneud hyn drwy aralleirio unrhyw sylw a wneir gan fyfyrwyr yn y dosbarth. Os yw recordiad yn cynnwys unigolion, gall hyn achosi problemau ynghylch diogelu data. Gellir ystyried lluniau a/neu lais unigolyn yn ddata personol os gellir adnabod yr unigolyn, ac o ganlyniad bydd angen i'r Brifysgol sicrhau cydymffurfiaeth â darpariaethau Deddf Diogelu Data 2018 (fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd), gan gynnwys trin data plant.
7. Cadw Data
Caiff yr holl recordiadau o gynnwys eu cadw am o leiaf pum mlynedd, yn unol â Pholisi Cadw Gwybodaeth Cwrs yr Amgylchedd Dysgu a pholisi archifo Panopto. Os caiff y cynnwys ei wylio o leiaf unwaith bob 13 mis, bydd yn cael ei storio am gyfnod amhenodol.