Trosolwg
Nod ein cynllun ysgoloriaeth corawl ac organ yw cefnogi datblygiad ysgolhaig fel cerddor, mewn partneriaeth ag Eglwys y Santes Fair, Abertawe. Ariennir yr ysgoloriaethau ar y cyd rhwng y Brifysgol, Eglwys y Santes Fair ac Ymddiriedolaeth Gorawl y Santes Fair Abertawe (SSMCT).
Bydd ysgolheigion yn derbyn y buddion canlynol:
- Hyd at 15 awr o diwtora unigol y flwyddyn ar gyfer eu hofferyn neu lais
- Bwrsariaeth flynyddol gwerth £650
Disgwylir i ysgolheigion gymryd rhan lawn yng ngherddoriaeth Eglwys y Santes Fair, Abertawe.
Sut i wneud cais
Er mwyn cyflwyno cais am ysgoloriaeth, rhaid cyflwyno ffurflen gais a geirdaon, a chlyweliad wyneb yn wyneb.
Mae ysgoloriaethau ar gael i'r holl fyfyrwyr sy'n astudio ar gyrsiau gradd a addysgir:
- Derbynnir ceisiadau gan fyfyrwyr sydd eisoes wedi cofrestru'n unig; y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 22 Hydref.
I wneud cais, llenwch y ffurflenni priodol, a'u hanfon at v.m.walters@abertawe.ac.uk:
- Ffurflen Ysgoloriaethau Corawl
- Ffurflen Canolwr. Mae angen dau ganolwr ar gyfer pob cais: dylai pob un lenwi copi o'r ffurflen hon a'i hanfon at y Brifysgol (v.m.walters@abertawe.ac.uk).
Mae manylion y ddogfennaeth a'r gofynion clyweliad ar gyfer yr ysgoloriaethau wedi'u cynnwys gyda'r ffurflen gais hon.
Rheoliadau
Mae Rheoliadau'r Ysgoloriaethau Cerdd presennol yn llywodraethu'r cynllun ysgoloriaethau. Sylwer bod y rheoliadau a'r ffurflen gais yn cyfeirio at fathau eraill o ysgoloriaethau cerdd nad ydynt yn cael eu cynnig ar hyn o bryd gan y Brifysgol.