Ein gweledigaeth yw cefnogi'r Brifysgol i gael amgylchedd digidol arloesol a cynhwysol sy'n ymgysylltu a'n myfyrwyr a staff ac yn eu hysbrydoli i greu a chyflawni addysg ac ymchwil o safon fyd-eang.

Fel rhan o'n Strategaeth Ddigidol, rydym yn amcanu i drawsnewid ein byd digidol er budd profiad ein myfyrwyr a staff; i gyfoethogi ein gweithgareddau a gwasanaethau craidd gyda meddylfryd 'digidol yn gyntaf' yn ein dysgu, addysgu, ymchwil, arloesedd, cydweithredu a'n gweithgarwch gweithredol; ac i arbed amser i bobl a chreu gwerth trwy gynnig datrysiadau digidol bydd pobl eisiau eu defnyddio, yn hytrach nag yn gorfod eu defnyddio.