Ein cenhadaeth fel tîm yw darparu cymorth TG rhagorol ac effeithlon ar gyfer pob rhanddeiliad yn y dydd-i-ddydd. Mae ein tîm yn benderfynol o ddarparu gwasanaeth proffesiynol, gwybodaeth a chymorth o’r pwynt cyntaf o gyswllt trwy weithio gyda’n gilydd i oresgyn disgwyliadau ein cwsmeriaid. Byddwn yn ymateb yn bositif i adborth cwsmeriaid er mwyn cynnal lefel uchel o foddhad defnyddwyr, a byddwn yn gweithio’n gollaboratif gyda rhanddeiliad i ddatblygu ac wella ein gwasanaethau a’n prosesau'n barhaus.
Ar gyfartaledd, mae’r Ddesg Wasanaeth TG yn trin bron i 33,000 o Ddigwyddiadau y flwyddyn ac ychydig o dan 8,000 o Gais y flwyddyn, gyda 96.5% o’r rhain yn cael eu datrys o fewn SLA ac wedi gwella’r raddfa Moddhad Cwsmeriaid i 91.5%.
Mae’r Ddesg Wasanaeth TG yn parhau i wella; yn y ffordd rydym yn delio â’ch digwyddiadau a’r arferion rydym yn eu defnyddio i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl.
Gallwch gysylltu â ni drwy unrhyw un o'r sianeli hyn, ond gallai hyn helpu i atal oedi:
Ffoniwch ni: Ar gyfer MFA, Ail-setio Cyfrineiriau, Materion Cyfrif a materion blaenoriaeth
uchel.
Defnyddiwch y porth Hunanwasanaeth: Ar gyfer ceisiadau, materion blaenoriaeth isel,
ymholiadau a diweddariadau.
E-bostiwch ni: Ar gyfer materion blaenoriaeth isel, ymholiadau a diweddariadau.
Desg Galw Heibio: Ar gyfer MFA, Ail-setio cyfrineiriau, Materion Cyfrif a Materion
Caledwedd.