Ydych chi'n chwilio am y lleoliad perffaith i gynnal cynhadledd yn Abertawe? P'un a ydych chi'n trefnu cynhadledd fawr yng Nghymru, cyfarfod busnes, arddangosfa, cinio neu ddigwyddiad preifat, mae Prifysgol Abertawe yn cynnig amrywiaeth wych o fannau i ddigwyddiadau - oll dim ond taith gerdded fer o lan môr prydferth Abertawe.
Yng nghalon Campws y Bae mae ein Neuadd Fawr fawreddog y buddsoddwyd £32 miliwn ynddi, sy'n gartref i dair darlithfa fawr, amrywiaeth o fannau hyblyg â llawr gwastad ac Awditoriwm Syr Stanley Clarke sy'n cynnig 700 o seddau ynghyd ag acwsteg o safon fyd-eang a thechnoleg glyweled o'r radd flaenaf.
Mae ein pecynnau i gynadleddwyr yn cynnig gwerth gwych ac yn cynnwys opsiynau arlwyo blasus a lleol ynghyd â'r holl gymorth ar gyfer eich digwyddiad gan ein tîm cyfeillgar a phrofiadol. Ceir caffis, bariau, archfarchnadoedd, cyfleusterau chwaraeon a llety fforddiadwy yn agos iawn ar y safle, felly bydd gan eich cynadleddwyr bopeth y bydd ei angen arnynt – yma wrth y bae.