Campws ac Adeiladau Hygyrch
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym wedi ymrwymo i wneud ein campysau yn hygyrch i bawb. Rydym am i'r holl fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr allu defnyddio ein cyfleusterau a'n gwasanaethau yn hwylus ac yn hyderus.
Gyda'r nod o greu campws cynhwysol sy'n groesawgar i bawb, fe wnaethom gynnal archwiliad hygyrchedd cynhwysfawr yn ddiweddar i'n helpu i nodi meysydd i wella. Yn dilyn yr archwiliad hwn, rydym wedi gwneud nifer o welliannau, gan gynnwys uwchraddio adeiladau, cyfleusterau, meysydd parcio a llwybrau allweddol i gael gwared ar rwystrau ffisegol. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn canllawiau hygyrchedd clir, cyfoes, a fydd ar gael ar y tudalennau gwe hyn yn ogystal â'u rhannu ar sianeli eraill. Bydd hyn yn helpu pobl i gynllunio eu hymweliadau'n gyfforddus ac i ymgyfarwyddo â’n campysau.
Wrth edrych ymlaen, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno gwelliannau graddol pellach i sicrhau bod ein hadeiladau a'n campysau yn parhau i fodloni'r safonau hygyrchedd uchaf posibl.
Os oes gennych unrhyw adborth neu awgrymiadau yn y cyfamser ar sut y gallwn wella hygyrchedd ar draws ein hystad, gallwch anfon e-bost atom yn: campusdevelopment@abertawe.ac.uk.