

Forest of Noise gan Mosab Abu Toha (4th Estate)
Ac yntau prin 30 oed, roedd Mosab Abu Toha eisoes yn fardd adnabyddus pan ddechreuodd yr ymosodiad presennol ar Gaza. Ar ôl i fyddin Israel fomio ei dŷ, gan ddinistrio llyfrgell roedd wedi llafurio’n hir i’w chreu i'r gymuned ei defnyddio, bu'n rhaid iddo ef a'i deulu ffoi er mwyn eu diogelwch. Nid am y tro cyntaf yn eu bywydau.
Rywsut, yng nghanol yr holl helynt, daliodd Abu Toha ati i ysgrifennu cerddi. Dyma'r cerddi hynny. Yn rhyfeddol o eglur, uniongyrchol ac wedi'u mireinio'n gywrain, maent yn rhan o un o'r gweithiau celf mwyaf anhygoel i ddeillio o'r rhyfel. Dyma gyfarwyddiadau beth i’w wneud mewn cyrch awyr a llinellau am wraig y bardd yn canu i'w blant i'w cysuro. Yn swatio yn y tywyllwch, mae Abu Toha yn cofio am orenau ei dad-cu a llawenydd ei ferch wrth eu bwyta. Dyma gerddi i gyflwyno darllenwyr i'w deulu estynedig, nad yw rhai ohonynt gyda ni mwyach.
Gan symud rhwng cipolygon ar fywyd mewn cyfnod o heddwch cymharol a cherddi abswrdaidd am oroesi dan oresgyniad lle mae bywyd bron yn amhosib, mae Forest of Noise yn gwahodd cynulleidfa eang i rannu profiad sy'n gorlethu’r dychymyg - hyd yn oed wrth i ni ei wylio'n fyw. Dyma lyfr anhygoel a thrawiadol o chwareus, sy'n rhoi i ni gelfyddyd fythgofiadwy mewn oes o ddioddefaint ofnadwy.

Mosab Abu Toha, Forest of Noise (4th Estate)
Mae Mosab Abu Toha yn fardd ac yn awdur straeon byrion ac ysgrifau o Gaza, Palesteina. Cafodd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, Things You May Find Hidden in My Ear, ei gynnwys ar restr fer Gwobr y National Book Critics Circle am farddoniaeth ac enillodd Wobr Palestine Book Awards, Gwobr The American Book Awards a Gwobr Walcott am Farddoniaeth. Abu Toha yw sylfaenydd Llyfrgell Edward Said yn Gaza y mae'n gobeithio ei hailadeiladu. Yn ddiweddar, enillodd wobr gan yr Overseas Press Club am ei golofnau Letter from Gaza ar gyfer The New Yorker. [Cydnabyddiaeth llun: Mohamed Mahdy]
X: @MosabAbuToha | Instagram: @mosab_abutoha

Mrs Jekyll gan Emma Glass (Cheerio Publishing)
Yn dyner ac yn ingol bob yn ail, mae Mrs Jekyll yn gwydroi nofel glasurol gothig Stevenson i greu stori nwydus ac ysgytwol o fenywdod modern.
Mae'r athrawes ysgol Rosy Winter yn marw.
Mae ei gŵr Charlie yn cynnig pob cysur posib. Nid yw chwaer yng nghyfraith Rosy, Sally, yn cynnig dim.
Ond mae Rosy yn teimlo rhywbeth yn tyfu y tu mewn iddi. Cwlwm caled yn ei brest.
Y tu hwnt i'r meddyginiaethau homeopathig, y gwahoddiadau i ginio, y sibrydion sydyn ar wardiau ac mewn ystafelloedd staff, mae grym - milain, benywaidd, gwyllt - yn deffro y tu mewn iddi...

Emma Glass, Mrs Jekyll (CHEERIO Publishing)
Ganwyd Emma Glass yng Nghymru ac mae'n byw bellach yn Llundain, lle mae hi'n ysgrifennu ac yn gweithio fel nyrs plant.
Mae ei nofel gyntaf, Peach, a gyhoeddwyd gan Bloomsbury yn 2018, wedi cael ei chyfieithu i saith iaith a chyrhaeddodd restr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas. Cyhoeddwyd ei hail nofel, Rest and Be Thankful, gan Bloomsbury yn 2020, a phrynwyd yr hawl i gynhyrchu ffilm ohoni y flwyddyn honno. Mae Mrs Jekyll, yn ail-ddychmygu campwaith Robert Louis Stevenson a chafodd ei chyhoeddi gan CHEERIO ym mis Mehefin 2024. [Cydnabyddiaeth llun: Sarah Lee]
Instagram: @emmas_window

The Hypocrite gan Jo Hamya (Weidenfeld & Nicolson (Orion))
Beth sy'n digwydd pan nad ydym yn addoli'r to hŷn mwyach? Ddim yn addoli ein rhieni mwyach?
Beth sy'n digwydd pan ddechreuwn ni ofni'r to ifanc? Yn ofni ein plant ein hunain?
Yr Ynysoedd Aeolaidd, 2010. Mae Sophia, sydd ar drothwy bod yn oedolyn, yn treulio haf hir tesog gyda'i thad yn Sisili. Yno mae'n cwympo mewn cariad am y tro cyntaf. Yno, mae hi'n gweithio fel cynorthwywraig ei thad, yn teipio'r nofel mae ef yn ei harddweud, stori am ryw a'r bwlch rhwng y rhywiau. Yno, mae eu perthynas yn torri.
Llundain, Haf 2020. Mae tad Soffia, nofelydd 61 oed nad yw'n ystyried ei hunan yn berson drwg nac ar ôl yr oes, yn eistedd mewn theatr fawr, wedi'i amgylchynu gan ddieithriaid sy'n gwylio drama gyntaf ei ferch. Drama sy'n ymdrin â'r gwyliau hynny yn Sisili fel ei thema. Drama a fydd yn ei orfodi i wylio ei droseddau honedig yn cael eu perfformio o flaen ei lygaid.

Jo Hamya, The Hypocrite (Weidenfeld & Nicolson (Orion))
Ganwyd Jo Hamya yn Llundain ym 1997. Hi yw awdur Three Rooms a The Hypocrite a gafodd ei gynnwys ar restr fer Gwobrau Llyfr Nero yn 2024. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer The New York Times, The Times, y Financial Times a The Guardian ymhlith eraill ac roedd hi'n un o gyd-gyflwynwyr podlediad Gwobr Booker. Enillodd hi ysgoloriaeth ymchwil ddoethurol Harold Moody yng Ngholeg y Brenin Llundain, lle mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar adeiladu cymdeithaseg a beirniadaeth lenyddol orllewinol yr 20fed ganrif i greu ysgol hyfyw o feirniadaeth lenyddol ar gyfer tirwedd ddigidol yr 21ain ganrif.
X: @jo_hamya

Rapture’s Road gan Seán Hewitt (Jonathan Cape (Vintage, Penguin Random House))
Yn yr ail gasgliad rhyfeddol hwn, mae Seán Hewitt yn disgrifio taith wedi'i throchi mewn cariad, colled a dieithrio - gan un o 30 llenor gorau dan 30 oed Iwerddon The Sunday Times.
'Points to a bright future for Irish poetry' SUNDAY TIMES
'An exquisitely calm and insightful lyric poet' MAX PORTER
Wrth i'r meddwl grwydro a throi'n rhithiol, mae'r cerddi hyn yn braenaru eu llwybr unigryw eu hunain drwy'r dirwedd. Mae Hewitt yn ein tywys ar daith gerdded yn ein cwsg i mewn i goed y nos, cyflwr breuddwydiol lle caiff natur ei hadfywio a'i difetha bob yn ail, ac mae cyfres o ysbrydion, atgofion a chyfarfodydd yn torri ar draws hunaniaeth ranedig y siaradwr.
Yn dilyn y berthynas ddwyochrog rhwng rhywioldeb cwiar a'r byd naturiol a archwiliwyd ganddo yn Tongues of Fire, mae'r bardd yma yn ein hudo i lesmair: deliriwm dwfn o berlesmair gwyllt lle mae popeth yn cael ei amau, nes bod undod yn cael ei gyflawni o'r diwedd - undod mewn natur ac â natur.
Galarnad am yr hyn a gollwyd, dawns apocalyps ac ail-eni, mae Rapture's Road yn ein tywys drwy'r hyn sy'n guddiedig, yn gyfrinachol, yn aml yn waharddedig, i gyflwr o ecstasi. Mae'n arwain i'r nos laith, drwy gariad a galar marwol ac, ar ddiwedd y daith, cawn gipolwg ar le o dynerwch ac ailddeffro.

Seán Hewitt, Rapture’s Road (Jonathan Cape (Vintage, Penguin Random House))
Ganwyd Seán Hewitt ym 1990. Mae'n awdur dau gasgliad o farddoniaeth, Tongues of Fire a Rapture's Road, a hunangofiant, All Down Darkness Wide. Cydweithredodd â'r artist, Luke Edward Hall, ar 300,000 Kisses: Tales of Queer Love from the Ancient World. Mae Hewitt wedi ennill Gwobr Laurel a Gwobr Rooney am Lenyddiaeth Wyddelig ac wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Llenor y Flwyddyn The Sunday Times. Mae'n darlithio yng Ngholeg y Drindod Dulyn ac yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth.
X: @seanehewitt | Instagram: @seanehewitt

Glorious Exploits gan Ferdia Lennon (Fig Tree, Penguin Random House)
Sisili yn yr Henfyd. Dyma GELON: gweledydd, breuddwydiwr, yn hoff o'r theatr. Dyma LAMPO: yn glaf o gariad, yn ddiwaith, angen rhywbeth i'w ddifyrru.
Wedi'u carcharu yn chwareli Syracuse, mae miloedd o Atheniaid wedi'u gorchfygu yn goroesi o drwch blewyn.
Maen nhw'n gwywo yn y gwres llethol, ond nid yw popeth ar goll: maen nhw'n dal i allu adrodd llinellau o drasiedïau Groeg wrth i Lampo a Gelon eu temtio â photeli croen gafr llawn gwin a sborion bwyd.
Ac felly mae syniad yn cael ei eni. Wedi'r cwbl, gallwch chi gasáu'r goresgynwyr ond dal i garu eu barddoniaeth.
Mae'n feiddgar. Efallai ei fod hyd yn oed yn beryglus. Ond fel popeth da mewn bywyd - cariad, cyfeillgarwch, celfyddyd ei hun - bydd yn datgelu'r agweddau gwaethaf a gorau ar natur ddynol.
Beth allai fynd o'i le?

Ferdia Lennon, Glorious Exploits (Fig Tree, Penguin Random House)
Ganwyd a magwyd Ferdia Lennon yn Nulyn. Mae ganddo BA mewn Hanes a'r Clasuron o Goleg y Brifysgol Dulyn ac MA mewn Ffuglen Rhyddiaith o Brifysgol Dwyrain Anglia. Glorious Exploits yw ei nofel gyntaf. Un o werthwyr gorau The Sunday Times, cafodd ei haddasu ar gyfer BBC Radio 4 ac enillodd Wobr Waterstones am Waith Ffuglen Gyntaf yn 2024. Ar ôl treulio blynyddoedd lawer ym Mharis, mae bellach yn byw yn Norwich gyda'i wraig a'u mab. [Cydnabyddiaeth llun: Conor Horgan]
Instagram: @ferdialennon

Pity gan Andrew McMillan (Canongate Books)
Unwaith, bu'r dref yn fwrlwm diwydiant. Lle'r oedd dynion yn llafurio o dan y daear yn y tywyllwch, yn gweithio â chaib a rhaw yn y llwch a'r glo mân. Roedd yn llafur peryglus, yn ddigon i dorri cefn dyn, ond roedd ystyr iddo. Unwaith, roedd y dref yn darparu, roedd hi'n bwysig; roedd ganddi bwrpas. Ond beth yw hi nawr?
Mae'r brodyr Alex a Brian wedi treulio eu holl fywyd yn y dref lle bu eu tad yn byw a'i dad yntau hefyd. Nawr yn ganol oed ac yn dal mewn sioc ar ôl i'w fywyd personol chwalu, rhaid i Alex wynebu rhan o'i hunaniaeth mae wedi ceisio ei chuddio ers amser maith. Nid oes gan Simon, ei unig blentyn, unrhyw gof o'r glofeydd. Ac yntau bellach yn ei ugeiniau ac yn gweithio mewn canolfan alwadau, mae'n cael ei wefrau drwy ei waith ar yr ochr, gwaith rhyw, a'i sioeau drag wythnosol.
Wedi'i hadrodd ar draws tair cenhedlaeth o deulu glofaol o Dde Swydd Efrog, mae nofel gyntaf fendigedig Andrew McMillan yn alarnad am ffordd o fyw ddiflanedig yn ogystal ag yn ddathliad o wydnwch a phosibilrwydd newid.

Andrew McMillan, Pity (Canongate Books)
Ganwyd Andrew McMillan yn Barnsley ym 1988. Ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, physical, oedd yr unig lyfr barddoniaeth erioed i ennill Gwobr The Guardian am Lyfr Cyntaf; yn ogystal, enillodd wobr Somerset Maugham, Gwobr Eric Gregory a Gwobr Aldeburgh am Gasgliad Cyntaf. Enillodd ei ail casgliad, playtime Wobr Polari gyntaf. Cyhoeddwyd trydydd casgliad, pandemonium, yn 2021 ac yn 2022 cyd-olygodd yr antholeg uchel ei bri, 100 Queer Poems, a gafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobrau Llyfr Prydain. Mae'n Athro ysgrifennu cyfoes ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion ac yn gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth.[Cydnabyddiaeth llun: Sophie Davidson]
X: @AMcMillanPoet | Instagram: @andrewpoetry

Monstrum gan Lottie Mills (Oneworld (Oneworld Publications))
Daw’r casgliad crefftus, swynol hwn o straeon gan Lottie Mills, enillydd Gwobr Awduron Ifanc y BBC yn 2020.
Mae tad a merch yn creu bywyd i'w hunain ar draeth anghysbell. Ond mae'r byd y tu allan yn ymwthio i mewn. Yn hwyr neu'n hwyrach, bydd eu lloches ddirgel yn cael ei darganfod.
Mae menyw anabl ifanc yn dewis cael corff perffaith heb boen. Yn fuan, fodd bynnag, mae'n cael ei phlagio gan yr un a ddiosgwyd ganddi.
Mae meistr syrcas deithiol yn darganfod yr ychwanegiad delfrydol at ei arddangosfa o ryfeddodau: ‘wedi eu niweidio’, ‘afluniaidd’, dawnus. Mae'n bwriadu ei gwneud hi'n seren ei sioe; mae hi'n bwriadu talu'r pwyth yn ôl.
Mae Monstrum yn cyfleu profiad cymeriadau sy'n cael eu hallgau gan gymdeithas na all dderbyn eu gwahaniaethau. Mae'r casgliad hwn, sy'n iasol, yn anghyffredin ac yn rhyfeddol o uchelgeisiol, yn nodi cyrhaeddiad llais llenyddol rhagorol newydd.

Lottie Mills, Monstrum (Oneworld Publications)
Ganwyd Lottie Millis yn Hampshire a chafodd ei magu yng Ngorllewin Sussex, Swydd Hertford ac Essex. Astudiodd Saesneg yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt, ac yn 2020, enillodd Wobr Awduron Ifanc y BBC am ei stori fer, The Changeling. Mae ei gwaith wedi cael ei ddarlledu ar BBC Radio 1 a BBC Radio 4, ac mae hi wedi ymddangos ar raglenni, gan gynnwys Woman's Hour i drafod ei gwaith. Monstrum yw ei chasgliad cyntaf o straeon byrion. [Cydnabyddiaeth llun: Jojo Barlow]
Instagram: @lottiemillsauthor

The Fertile Earth gan Ruthvika Rao (Oneworld (Oneworld Publications))
Vijaya a Sree yw merched y teulu Deshmukh, sy'n dirfeddianwyr cyfoethog, y mae eu statws cymdeithasol a'u pŵer yn ddiwrthwynebiad ym mhentref bychan Irumi. Krishna a Ranga yw meibion gweddw o forwyn sy'n gweithio yng nghartref y teulu Deshmukh.
Ni ddylai'r pedwar plentyn byth fod wedi siarad, heb sôn am feithrin cyfeillgarwch. Ond mae'r cysylltiadau maent yn eu creu yn ddwys - ac yn beryglus. Pan gânt eu dal yng nghanol damwain drychinebus, mae'r canlyniadau'n creu crychdonnau drwy eu bywydau ac yn eu gwasgaru i bedwar ban India.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, wrth i wrthryfeloedd treisgar anrheithio cefn gwlad, mae atyniad na allant ei wrthsefyll yn denu Vijaya a Krishna at ei gilydd unwaith eto, er gwaethaf y gwahaniaethau yn eu dosbarth a'u cefndir. Nid yw India'r wlad roeddent yn eu hadnabod gynt. Mae eu gwlad yn newid, yn llosgi o'r tu mewn. Nid yw Irumi yn ddiogel mwyach.

Ruthvika Rao, The Fertile Earth (Oneworld Publications)
Graddiodd Ruthvika Rao yn 2022 o Weithdy Ysgrifenwyr Iowa, lle roedd hi'n Gymrawd Truman Capote ac yn enillydd Gwobr Henfield am ffuglen a Chymrodoriaeth Stanley am ymchwil ryngwladol. Cafodd ei geni yn rhanbarth Warangal, Telanga a'i magu yn Hyderabad. Mae ei ffuglen fer wedi cael ei chyhoeddi yn The Georgia Review, The Southern Review, New Letters, Story Quarterly, the Antioch Review, Chicago Review ac mewn cyhoeddiadau eraill.
X: @ruthvikarao | Instagram: @ruthvikarao

The Safekeep gan Yael van der Wouden (Viking, Penguin Random House)
Mae'n 15 mlynedd ers yr ail ryfel byd ac mae Isabel wedi creu bywyd unig o ddisgyblaeth a threfn ddyddiol ddiwyro iddi hi ei hun yng nghartref gwledig ei mam ddiweddar, lle mae pob fforc a gair yn ei le cywir. Ond caiff hyn i gyd ei droi ben i waered wrth i'w brawd Louis gyrraedd cartref Isabel, gyda'i gariad ddiras newydd, Eva – y mae wedi'i gwahodd i aros am y tymor...
Yn ngwres tesog yr haf, mae angen taer Isabel am reolaeth ar fin berwi. Mae'r hyn sy'n digwydd rhwng y ddwy fenyw yn arwain at ddatgeliad sy'n bygwth datod popeth mae hi erioed wedi'i wybod.

Yael van der Wouden, The Safekeep (Viking, Penguin Random House UK)
Awdur ac athro yw Yael van der Wouden. Ar hyn o bryd mae hi'n darlithio mewn ysgrifennu creadigol a llenyddiaeth gymharol yn yr Iseldiroedd. Cafodd ei thraethawd ar hunaniaeth Iseldiraidd ac Iddewiaeth, "On (Not) Reading Anne Frank", sylw nodedig yn The Best American Essays 2018. The Safekeep yw ei nofel gyntaf a phrynwyd yr hawl i'w chyhoeddi yn sgîl cystadlu brwd rhwng naw cyhoeddwr yn y DU a'r UD mewn arwerthiant. Gwerthwyd yr hawliau mewn 12 gwlad arall. Mae The Safekeep wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Booker 2024. [Cydnabyddiaeth llun: Roosmarijn Broersen]
Instagram: @yaelwouden | Gwefan: www.yaelvanderwouden.com

I Will Crash gan Rebecca Watson (Faber & Faber)
It was a peace offering, I knew that
you don’t appear on someone’s doorstep uninvited, saying Alright
unless you want to make amends
Mae'n chwe blynedd ers y tro diwethaf i Rosa weld ei brawd. Chwe blynedd ers y tro diwethaf iddynt siarad. Chwe blynedd ers y tro diwethaf iddynt ffraeo. Chwe blynedd ers iddi roi'r gorau i'r syniad bod ganddi frawd.
Mae hi wedi treulio'r amser hwnnw’n osgoi meddwl amdano. Peidio â chofio am eu plentyndod. Peidio â sôn am y straeon hynny, hyd yn oed wrth y bobl mae hi'n eu caru.
Nawr, mae'r pellter roedd hi wedi'i greu mor ofalus rhyngddynt wedi chwalu. All hi ddod o hyd i ffordd o gymodi - maddau, cael maddeuant - pan fo'r gorffennol mae hi wedi gweithio mor galed i'w ffrwyno yn bygwth gorlifo i'r presennol.
Gan awdur clodwiw little scratch, dyma nofel emosiynol, hynod onest am sut rydym yn caru, sut rydym yn galaru a sut rydym yn maddau.

Rebecca Watson, I Will Crash (Faber & Faber)
Rebecca Watson yw awdur little scratch, a gafodd ei gynnwys ar restr fer Gwobr Goldsmith a Gwobr Desmond Elliott. Bu'n un o 10 nofelwr sy'n cyhoeddi eu nofel gyntaf gyda The Observer yn 2021. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn TLS, The Guardian, Granta ac mewn cyhoeddiadau eraill. Yn 2018, cafodd ei chynnwys ar restr fer gwobr y White Review am stori fer. Mae hi'n gweithio'n rhan-amser fel Golygydd Cynorthwyol y Celfyddydau yn y Financial Times ac yn byw yn Llundain. [Cydnabyddiaeth llun: Alice Zoo]
X: @rebeccawhatsun | Instagram: @rebeccawhatsun

Moderate to Poor, Occasionally Good gan Eley Williams (4th Estate)
Mae nofelydd Ifanc Gorau Prydain Granta ac awdur uchel ei fri Attrib. and other stories, Eley Williams, yn ôl gyda chasgliad gwefreiddiol o straeon byrion sy'n archwilio natur perthnasoedd, rhai mynwesol a rhai byrhoedlog - o drechafwriaeth hawdd dylyfu gên heintus i erchylltra gwên sy'n para eiliad yn rhy hir.
Mae artist braslun llys wrth ei fodd yn creu portreadau ar bapur o'i gariad ond datgelir bod bwriadau mwy tywyll a chymhleth i'w angen am dynnu lluniau a fydd yn para am byth. Mae cariad plentyn am sant ar iard yr ysgol yn nodi gwrthdaro â realiti corff newidiol yr arddegwr. Mewn straeon eraill, mae golygydd chwerthin artiffisial yn colli ei hyder ac yn gofyn am ymyrraeth ddwyfol, ac mae awdur ysgrifau yn arnodi ei feddyliau am Keats ar ffurf cyngor rhyw o'r rhyngrwyd.
Mae Moderate to Poor, Occasionally Good yn byrlymu ag iaith fywiog ac arbrofi dyfeisgar â ffurf ac mae'n ystyried syniadau o ddireidi, dilysrwydd a gofal wrth iddo ddwyn perthnasoedd i gyfrif: eu camddealltwriaethau melys, eu myfyrdodau wedi'u suro, dymuniadau cwiar wedi’u gwireddu ac anadlau wedi'u rhannu a'u dal.

Eley Williams, Moderate to Poor, Occasionally Good (4th Estate)
Enillodd casgliad Eley Williams, Attrib. and Other Stories (2017) Wobr Republic of Consciousness a Gwobr Goffa James Tait Black. Enillodd ei nofel, The Liar's Dictionary, Wobr Betty Trask 2021, cafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobr Desmond Elliott a rhestr Llyfr y Flwyddyn The Guardian. Yn 2023, cafodd ei dewis yn un o Nofelwyr Ifanc Gorau Prydain gan Granta. Mae ei gwaith wedi'i gyhoeddi mewn sawl cyfnodolyn ac antholeg ac mae Radio 4 wedi'i chomisiynu i ysgrifennu straeon a chyfresi ffuglen. Mae hi'n Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth. [Cydnabyddiaeth llun: Alice Zoo]
Instagram: @eleywilliams

The Coin gan Yasmin Zaher (Footnote Press)
Nofel hyderus a beiddgar am fywyd menyw Balestinaidd ifanc yn ymddatod wrth iddi addysgu mewn ysgol ganol yn Efrog Newydd, lle caiff ei rhwydo mewn cynllun i ailwerthu bagiau Birkin, gan ymdrechu i adennill rheolaeth dros ei chorff a’i meddwl.
Adroddir The Coin gan fenyw Balestinaidd gyfoethog â chanddi steil dilychwyn ac arferion glendid gorfanwl. Ond eto, mae'r hunan perffaith, y bywyd perffaith yn parhau y tu hwnt i'w chyrraedd: nid oes modd iddi gael gafael ar ei hetifeddiaeth, mae ei mamwlad yn bodoli yn ei chof yn unig, ac ymddengys fod ei hymgais i ffynnu yn America yn anobeithiol o'r dechrau.
Yn Efrog Newydd, mae hi'n ymdrechu i fwrw gwreiddiau. Mae hi'n addysgu mewn ysgol i fechgyn difreintiedig, lle mae ei dulliau anghyffredin yn croesi ffiniau. Mae hi'n cwrdd â thwyllwr digartref, ac mae'r ddau'n cymryd rhan mewn cynllun pyramid yn ailwerthu bagiau Birkin.
Ond mae America yn ei ffrwyno - ei phenderfynoldeb, ei rhywioldeb, ei hegwyddorion. Mewn ymgais i adennill rheolaeth, mae hi'n ffurfio obsesiwn â phurdeb, glendid a hunan-ddelwedd, oll wrth dynnu ei myfyrwyr i mewn i'w hobsesiynau. Mewn diweddglo bythgofiadwy, mae atgofion o'i phlentyndod yn cyd-daro â'i diffyg dinasyddiaeth diriaethol a dirfodol ac mae'r adroddwr yn ymddatod mewn modd trawiadol.
Mewn rhyddiaith gyfareddol a synhwyraidd, mae The Coin yn archwilio natur a gwareiddiad, harddwch a chyfiawnder, dosbarth a pherthyn - oll wrth osgoi moesoli hawdd. Herfeiddiol, eironig a dengar, mae The Coin yn nodi cyrhaeddiad llais llenyddol pwysig newydd.

Yasmin Zaher, The Coin (Footnote Press)
Mae Yasmin Zaher yn newyddiadurwr ac yn awdur Palesteinaidd a anwyd yn Jerusalem ym 1991. The Coin yw ei nofel gyntaf. [Cydnabyddiaeth llun: Willy Somma]