
Mae'r rhestr hir ar gyfer y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – wedi cael ei datgelu heddiw, gan gynnwys awduron o bob cwr o'r byd gan gynnwys y DU, Palesteina, India, yr Iseldiroedd ac Iwerddon.
Mae'r wobr fyd-eang hon, sy'n werth £20,000, yn cydnabod llenorion eithriadol o dalentog 39 oed neu'n iau, gan ddathlu byd rhyngwladol ffuglen o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu. Mae'r wobr wedi'i henwi ar ôl Dylan Thomas, llenor a anwyd yn Abertawe, ac mae'n dathlu ei 39 mlynedd o greadigrwydd a chynhyrchiant. Mae'n dwyn ei enw er mwyn cefnogi llenorion presennol, meithrin doniau’r dyfodol a dathlu rhagoriaeth lenyddol ryngwladol.
Gan gynnwys wyth nofel, dau gasgliad o straeon byrion a dau gasgliad o farddoniaeth, y rhestr hir yw:
- Mosab Abu Toha, Forest of Noise(4th Estate) – casgliad o farddoniaeth (Palestinaidd)
- Emma Glass, Mrs Jekyll (CHEERIO publishing) - nofel (Prydeinig)
- Jo Hamya, The Hypocrite (Weidenfeld & Nicolson (Orion)) - nofel (Prydeinig)
- Seán Hewitt, Rapture's Road (Jonathon Cape (Vintage, Penguin Random House)) – casgliad o farddoniaeth (Prydeinig-Wyddelig)
- Ferdia Lennon, Glorious Exploits (Fig Tree, Penguin Random House) – nofel (Gwyddelig)
- Andrew McMillan, Pity (Canongate Books) – nofel (Prydeinig)
- Lottie Mills, Monstrum (Oneworld (Oneworld Publications)) – casgliad o straeon byrion (Prydeinig)
- Ruthvika Rao, The Fertile Earth (Oneworld (Oneworld Publications)) – nofel (Indiaidd)
- Yael van der Wouden, The Safekeep (Viking, Penguin Random House UK) – nofel (Iseldiraidd)
- Rebecca Watson, I Will Crash (Faber & Faber) – nofel (Prydeinig)
- Eley Williams, Moderate to Poor, Occasionally Good (4th Estate) – casgliad o straeon byrion (Prydeinig)
- Yasmin Zaher, The Coin (Footnote Press) – nofel (Palestinaidd)
Eleni, bydd un o'r awduron ieuengaf a enwebwyd yn cystadlu ar gyfer y wobr y mae cystadlu brwd amdani – enillydd Gwobr Awduron Ifanc y BBC, Lottie Mills, sy'n 23 oed – sydd wedi cyrraedd y rhestr hir oherwydd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion, Monstrum, sef cyfres o straeon gothig a swyngar sy'n cyfleu profiad cymeriadau sydd wedi cael eu hallgau gan gymdeithas na all dderbyn eu gwahaniaethau ac fe'i hysbrydolwyd gan ei phrofiadau eu hun o fyw gyda pharlys yr ymennydd a lwpws. Yr ail awdur o straeon byrion sydd ar y rhestr hir yw un o nofelwyr Prydeinig ifanc gorau Granta, Eley Williams, sydd wedi cael cydnabyddiaeth am ei chasgliad cyfareddol newydd Moderate to Poor, Occasionally Good, sy'n archwilio natur perthnasoedd personol neu rai dros dro.
Eleni, mae dau awdur wedi cyrraedd y rhestr hir oherwydd eu casgliadau o farddoniaeth, gan gynnwys yr awdur Prydeinig-Wyddelig arobryn Seán Hewitt sydd wedi cael cydnabyddiaeth am Rapture’s Road, sy'n archwilio'r berthynas ddwyochrog rhwng rhywioldeb cwiar a'r byd naturiol drwy daith mewn lle hypnotig, sef ‘coed y nos’. Mae'r bardd arobryn o Balesteina, Mosab Abu Toha, wedi cael ei enwebu hefyd ac mae ef wedi ennill cydnabyddiaeth am Forest of Noise, sef casgliad hynod bwerus o gerddi am fywyd yn Gaza, sy'n rhannu profiadau personol o deulu, colled a dewrder o fywyd mewn parth rhyfel.
Mae ail awdur o Balesteina o blith yr wyth o nofelwyr sydd wedi cyrraedd y rhestr hir – Yasmin Zaher – sy'n archwilio hunaniaeth a threftadaeth yn ei llyfr cyntaf The Coin, lle mae hi'n tynnu ar ei phrofiadau ei hun i ymchwilio i fyd natur a gwareiddiad, harddwch a chyfiawnder, dosbarth a pherthyn. Mae tri nofelydd arall sy'n cyhoeddi eu nofelau cyntaf ac mae pob un ohonynt yn edrych i'r gorffennol yn eu llyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestr hir: Mae Ferdia Lennon o Iwerddon yn teithio i Sisili yn yr Henfyd yn ei lyfr uchel ei fri, Glorious Exploits; Mae Ruthvika Rao o India yn archwilio cariad, cyfeillgarwch, bradychiad a dosbarth yn India ar ôl y rhaniad yn ei llyfr cyntaf syfrdanol The Fertile Earth; ac mae Yale van der Wouden o'r Iseldiroedd yn dod â drama ddomestig i gefn gwlad yr Iseldiroedd yn ystod haf 1961, gan archwilio'n dreiddiol i dreftadaeth yr Ail Ryfel Byd yn The Safekeep.
Mae'r pedwar nofelydd arall sy'n cystadlu'n cynnwys yr awdur hynod ddawnus o Gymru, Emma Glass, sydd wedi cyrraedd y rhestr hir ar gyfer Mrs Jekyll, lle mae hi'n ailddychmygu nofel glasurol gothig Stevenson mewn ffordd deimladwy ac ysgubol, gan ei throi'n gofnod moethus a thrawiadol o fenywdod modern. Mae'r bardd clodfawr, Andrew McMillan, wedi cael ei gydnabod am ei nofel gyntaf ddewr ac ardderchog, Pity, sydd wedi'i hadrodd ar draws tair cenhedlaeth o deulu glofaol o Dde Swydd Efrog, ac mae'n alarnad am ffordd o fyw ddiflanedig yn ogystal ag yn ddathliad o wydnwch a phosibilrwydd newid.
Ac o'r diwedd, archwilir i berthnasoedd teuluol dan straen, wrth i Jo Hamya a Rebecca Watson ysgrifennu ail nofelau rhagorol i ddilyn eu nofelau cyntaf poblogaidd, Three Rooms a Little Scratch. Mae Hamya wedi ennill cydnabyddiaeth am The Hypocrite, sy'n ystyried y ddynameg doredig rhwng tad a merch sy'n ymddatrys dros ddegawd, wrth i Watson ymchwilio'n ddwfn i gymhlethdodau brawd a chwaer sydd wedi'u dieithrio o'i gilydd wrth iddynt chwilio am faddeuant yn I Will Crash.
Caiff y rhestr hir bellach ei lleihau i chwe theitl ar y rhestr fer gan banel nodedig o chwe beirniad wedi'i gadeirio gan Namita Gokhale, sef awdur arobryn o India sydd wedi cyhoeddi dros 25 o weithiau ffuglen a ffeithiol (Paro: Dreams of Passion, Things to Leave Behind) a chyd-gyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth uchel ei bri Jaipur, ochr yn ochr â'r bobl ganlynol: Yr Athro Daniel Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Richard Burton ar gyfer Astudio Cymru a Chyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru ym Mhrifysgol Abertawe; Jan Carson, nofelydd ac awdur arobryn (The Fire Starters, The Raptures); Mary Jean Chan, awdur a enillodd Wobr Costa Book ac a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn y gorffennol (Flèche, Bright Fear); a Max Liu, beirniad llenyddol a chyfrannwr at The Financial Times, i a BBC Radio 4.
Dyfarnwyd y wobr y llynedd i Caleb Azumah Nelson am ei ail nofel Small Worlds (Viking, Penguin Random House UK). Mae'r enillwyr blaenorol yn cynnwys Arinze Ifeakandu, Patricia Lockwood, Max Porter, Raven Leilani, Bryan Washington, Guy Gunaratne a Kayo Chingonyi.
Caiff rhestr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe ei chyhoeddi ddydd Iau 20 Mawrth ac yna cynhelir seremoni ddathlu'r rhestr fer yn y Llyfrgell Brydeinig ddydd Mercher 14 Mai (Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas). Cynhelir Seremoni'r Enillydd yn Abertawe ddydd Iau 15 Mai.