Mae Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn falch o gyhoeddi rhestr fer 2026.

To Rest Our Minds and Bodies - Harriet Armstrong

To Rest Our Minds and Bodies gan Harriet Armstrong (Les Fugitives)
Yn ei blwyddyn olaf yn y brifysgol, mae gan fyfyrwraig israddedig sy'n astudio seicoleg obsesiwn rhamantus â myfyriwr ôl-raddedig ar gwrs cyfrifiadureg. Mae'r stori am gariad cyntaf, nad yw'n cael ei ddychwelyd yn llwyr, To Rest Our Minds and Bodies, yn ymdrin â materion dyrys perthnasoedd rhwng y rhywiau, dyheadau gwrthwynebol, cydsyniad a dirywiad iechyd meddwl Gen Z. Mae Armstrong yn archwilio natur profiad, gan olrhain dirywiad ymdeimlad menyw ifanc o'i hunan a'i chysylltiad â'r byd diriaethol mewn gwrth-Bildungsroman sy'n nofel gyntaf bwerus.

Harriet Armstrong (c) Maria Calinescu

Harriet Armstrong, To Rest Our Minds and Bodies (Les Fugitives)
Ganwyd a magwyd Harriet Armstrong yn Rhydychen. Yn 2024, yn 24 oed, roedd hi'n Breswylydd yn Sefydliad Giancarlo DiTrapano ar gyfer Llenyddiaeth a'r Celfyddydau. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, To Rest Our Minds and Bodies, gan Les Fugitives ym mis Mehefin 2025, ac mae wedi'i chyhoeddi neu ar y gweill mewn cyfieithiadau Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Thwrceg. Mae ei straeon byrion wedi cael eu cyhoeddi yn Forever Magazine, London Magazine,  Granta, HEAT Literary Magazine  (Giramondo), Kismet, Virginia Quarterly Review, the Georgia Review, ac mewn mannau eraill. Mae hi'n byw ac yn gweithio yn Llundain.  [Cydnabyddiaeth llun: Maria Calinescu]

Instagram:  @harrietarmstrong2000

We Pretty Pieces of Flesh - Colwill Brown

We Pretty Pieces of Flesh gan Colwill Brown (Chatto & Windus, Vintage)

Ask anyone non-Northern, they’ll only know Donny as punch line of a joke or place they changed trains once ont way to London.

Ond Doncaster hefyd yw cartref Rach, Shaz a Kel, ffrindiau gorau ers plentyndod a genod Doncaster i'r carn. Maen nhw'n rhannu popeth, o berswadio'r bownsars i'w gadael i mewn i glybiau nos i deithiau i'r clinig cynllunio teulu pan fyddan nhw’n hwyr. Er bod Rach yn amheus am gynlluniau mwy beiddgar Shaz, neu fod Shaz sy'n dod o un o ardaloedd mwy garw'r dref, yn teimlo ei bod hi'n cael ei gadael ar ôl wrth i'r lleill ddechrau cynllunio am fynd i'r brifysgol; neu er bod Kel weithiau'n teimlo wedi'i rhannu'n ddwy gan geisio cadw'r heddwch - mae eu cyfeillgarwch mor gadarn â’r merched eu hunain. Ond wrth iddynt dyfu’n hŷn ac ymhellach oddi wrth ei gilydd, mae cyfrinach sydd wedi bod yn mudlosgi am amser hir yn bygwth chwalu cyfeillgarwch y tair.


Mae We Pretty Pieces of Flesh yn gafael yn eich llaw ac yn eich tywys drwy iardiau ysgol, aleau a chlybiau nos Doncaster, gan ddatgelu bradwriaethau personol ieuenctid a'r ffyrdd rydym yn ein bradychu ein hunain drwy beidio ag ymddiried yn ein ffrindiau. Yn debyg i The Glorous Heresies a Shuggie Bain, mae'n adrodd hanes bywydau caled ac yn gwneud iddynt ganu, gan droi un lle sydd wedi'i esgeuluso'n ganolbwynt y byd.

Colwill Brown (c) Kathryn Widdowson

Colwill Brown, We Pretty Pieces of Flesh (Chatto & Windus, Vintage)
Ganwyd a magwyd Colwill Brown yn Doncaster, De Swydd Efrog. Mae ganddi radd Meistr mewn Celfyddyd Gain , o Brifysgol Texas yn Austin, lle enillodd gymrodoriaeth Canolfan  James A. Michener ac MA mewn Llenyddiaeth Saesneg o Goleg Boston. Mae ei gwaith wedi ymddangos yn Granta, Prairie Schooner ac mewn mannau eraill. Am bymtheg mlynedd, mae hi wedi byw gydag ME/ syndrom blinder cronig, clefyd niwrolegol llethol sy'n cael ei sbarduno gan firws, sydd, oherwydd esgeulustod meddygol systemig, heb driniaeth ar hyn o bryd. Yn ferch falch o Donny, mae hi'n honni ei bod wedi chwarae gitâr bas yn bron pob lleoliad roc ar gylchdaith o doiledau De Swydd Efrog [Cydnabyddiaeth llun:: Kathryn Widdowson]

Instagram: @_colwill_

Joy is My Middle Name - Sasha Debevec-McKenney

Joy Is My Middle Name gan Sasha Debevec-McKenney (Fitzcarraldo Editions)
Mae Joy Is My Middle Name yn ymdrin ag ymlusgo drwy eich ugeiniau a dod i'r golau yn eich tridegau. Gan gerdded yn anesmwyth drwy ddinasoedd a threfi gwledig, siarad am ryw, hil, benywdod, caethiwed, bod yn sobor, prynwriaeth a diwylliant pop, mae'r cerddi hyn yn tynnu, mor rhwydd â sgwrsio, ar ymylon yr hunan wedi'i berfformio.

Yn ddiymhongar, yn benfeddw, yn feiddgar, yn llawn empathi, yn chwyldroadol, yn sionc - mae'r casgliad yn teimlo fel sgwrs gyda'ch ffrind gorau, dros y cinio gorau erioed. Yn llawn straeon, cymeriad, tawelwch anesmwyth, teimladau cyfarwydd; caiff cyffro eiliadau perffaith ei gyfleu ar y dudalen.

Sasha Debevec-McKenney (c) Michael Doyle Olson

Sasha Debevec-McKenney, Joy is My Middle Name (Fitzcarraldo Editions)
Mae cerddi Sasha Debevec-McKenney wedi ymddangos yn The New Yorker, y New York Review of Books a'r Yale Review. Hi oedd Cymrawd Barddoniaeth Jay C. a Ruth Halls 2020-2021 ym Mhrifysgol Wisconsin ac ar hyn o bryd mae'n gymrawd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Emory. Mae hi'n byw yn Decatur, Georgia [Cydnabyddiaeth llun: Michael Doyle Olson]

Instagram: @sashajdm

Under the Blue - Suzannah V. Evans

Under the Blue gan Suzannah V. Evans (Bloomsbury Poetry)
Gan y bardd sydd wedi ennill llu o wobrau: casgliad newydd o delynegiaeth a dyhead gorfoleddus, sy'n archwilio'r weithred o ofal a chanlyniadau caru.

Mae Under the Blue yn archwiliad gafaelgar di-flewyn ar dafod o harddwch godidog bywyd a realiti gofal.

Drwy gyfres o gerddi prôs disglair a thameidiog a chardiau post atgofus, mae Suzannah V Evans wedi creu myfyrdod amryliw wedi'i wreiddio mewn dyngarwch ac empathi dwys - am agosrwydd a chydberthynas, salwch a phoen, yr hyn y gellir ei ddweud a'r hyn nad oes modd ei ddweud.

Suzannah V. Evans (c) Naomi Woddis

Suzannah V. Evans, Under the Blue (Bloomsbury Poetry)
Mae Suzannah V.  Evans yn fardd, yn ymchwilydd ac yn addysgwr. Hi yw awdur Brightwork a Marine Objects / Some Language, a golygydd All Keyboards are Legitimate:Versions of Jules Laforgue. Mae ei barddoniaeth wedi ennill Gwobr Ivan Juritz am Arbrawf Creadigol a Gwobr Awduron y Gogledd, wedi’i pherfformio mewn gwyliau rhyngwladol a’i darlledu ar Radio’r BBC. Mae hi'n addysgu llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol ac yn byw ym Mryste. Under the Blue yw ei chasgliad cyntaf. [Cydnabyddiaeth llun: Naomi Woddis]

Instagram: @suzannahvevans

Open Heaven - Seán Hewitt

Open, Heaven gan Seán Hewitt (Jonathan Cape [Vintage, Penguin Random House]) 
Mae James yn breuddwydio am fywyd arall yn bell o'i bentref bach. Ac yntau bron yn oedolyn, mae ei ddyheadau newydd yn bygwth chwalu ei wedd allanol swil. Yna mae'n cwrdd â Luke. Yn anniben ac yn olygus, yn garismatig ac yn fyrfyfyr, mae wedi cael ei anfon i aros gyda'i fodryb a'i ewythr ar fferm gerllaw.

Wrth i'r tymhorau fynd heibio, mae agosrwydd yn datblygu rhyngddynt sy'n trawsnewid eu bywydau. Ac eto, nid yw James byth yn siŵr o wir deimladau Luke ac wrth i’r haf ddirwyn i ben, mae'n rhaid iddo ddewis: a fydd yn rhoi popeth yn y fantol am bosibiliad cariad?

Seán Hewitt (c) Stuart Simpson

Seán Hewitt, Open, Heaven (Jonathan Cape [Vintage, Penguin Random House])
Ganwyd Seán Hewitt ym 1990. Mae'n awdur dau gasgliad o farddoniaeth, Tongues of Fire a Rapture's Road, a hunangofiant, All Down Darkness Wide. Cydweithredodd â'r artist, Luke Edward Hall, ar 300,000 Kisses:Tales of Queer Love from the Ancient World. Mae Hewitt wedi ennill Gwobr Laurel a Gwobr Rooney am Lenyddiaeth Wyddelig ac wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Llenor y Flwyddyn The Sunday Times. Mae'n darlithio yng Ngholeg y Drindod Dulyn ac yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth [Cydnabyddiaeth llun: Stuart Simpson]

Instagram: @seanehewitt

Borderline Fiction - Derek Owusu

Borderline Fiction gan Derek Owusu (Canongate) 
Loneliness means you don't have to disappoint anyone until you develop the habit of talking to yourself

Ac yntau'n 19 oed, mae Marcus yn ifanc ac mewn cariad. . eto. Pan fydd testun diweddaraf ei gariad, Adwoa yn dechrau dangos gwir deimladau ato, mae Marcus yn barod i ailystyried ei ffordd o fyw - y cyffuriau, y cysylltiadau byrhoedlog. O leiaf am ychydig.

Nawr, cyn iddo sylweddoli hynny, mae Marcus yn 25 oed. Ac mae peryg y bydd hanes yn ailadrodd ei hun.

Wedi'i hadrodd drwy ddau naratif cyfochrog - un yn y gorffennol ac un yn y presennol - mae Borderline Fiction yn chwedl gyfoes hynod wreiddiol a luniwyd â dwysedd emosiwn a breuder. Mae'r nofel yn archwiliad manwl, sydd weithiau'n anghyfforddus ac weithiau'n ddoniol, o sut brofiad yw bod yn ddyn du ifanc sy'n gwneud ei ffordd drwy'r byd heddiw.

Yn ingol, yn hardd, yn bryderus ac yn farddonol, mae Borderline Fiction yn gipolwg cofiadwy ar fyd mewnol dyn ifanc sy'n chwilio am ffordd ddilys o garu a chael ei garu.

Derek Owusu (c) Josimar Senior

Derek Owusu, Borderline Fiction (Canongate)
Mae Derek Owusu yn awdur a bardd arobryn o ogledd Llundain. Mae wedi ysgrifennu i'r BBC, ITV, Granta, Esquire, GQ a Tate Britain. Yn 2019, casglodd, golygodd a chyfrannodd Owusu at SAFE:On Black British Men Reclaiming Space, detholiad sy'n archwilio profiadau dynion Du ym Mhrydain. Enillodd ei nofel gyntaf, That Reminds Me, Wobr Desmond Elliott am y nofel gyntaf orau a gyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Roedd ei nofel Losing the Plot ar restr hir Gwobr Jhalak a Gwobr Dylan Thomas yn 2023. Yn 2023, cafodd ei ddewis yn un o Nofelwyr Ifanc Gorau Prydain gan Granta. [Cydnabyddiaeth llun: Josimar Senior]

Instagram: @DerekvsOwusu