Jay Bernard, Surge (Chatto & Windus)
Jay Bernard yw awdur y pamffledi, Your Sign is Cuckoo, Girl (Tall Lighthouse, 2008), English Breakfast (Math Paper Press, 2013) a The Red and Yellow Nothing (Ink Sweat & Tears Press, 2016), a gafodd ei gynnwys ar restr fer Gwobr Ted Hughes 2017. Mae Jay yn gydlynydd rhaglenni ffilm yn ngŵyl Flare y BFI ac yn archifydd yn Stagewatch a chymerodd ran hefyd yn y prosiect 'The Complete Works' yn 2014 lle cafodd ei fentora gan Kei Miller. Roedd Jay yn un o Feirdd Ifanc y Flwyddyn Foyle yn 2005 ac yn enillydd SLAMbassador, pencampwriaeth gair llafar y DU. Yn 2019, dewiswyd Jay gan Jackie Kay yn un o 10 ysgrifennydd BAME gorau Prydain ar gyfer Arddangosiad Llenyddiaeth Rhyngwladol y British Council a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ysgrifennu. Mae cerddi Jay wedi cael eu casglu yn Voice Recognition: 21 Poets for the 21st Century (Bloodaxe, 2009), The Salt Book of Younger Poets (Salt, 2011), Ten: The New Wave (Bloodaxe, 2014) ac Out of Bounds: British Black & Asian Poets (Bloodaxe, 2014). [credyd y llun i Joshua Virasami]
Mary Jean Chan, Flèche (Faber & Faber)
Mae Mary Jean Chan yn fardd, yn ddarlithydd ac yn olygydd o Hong Kong yn wreiddiol sydd wedi ymgartrefu yn Llundain. Enillodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, Flèche, (Faber & Faber) Wobr Llyfrau Gorau Costa 2019 yn y categori Barddoniaeth. Mae gwaith Chan wedi cael ei gynnwys ddwywaith ar restr fer Gwobr Forward ar gyfer y Gerdd Unigol Orau a derbyniodd Wobr Eric Gregory 2019 a Gwobr Cymdeithas Farddoniaeth Geoffrey Deamer yn 2018. Ar hyn o bryd, mae Chan yn darlithio mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Oxford Brookes. Gallwch ei dilyn ar Twitter @maryjean_chan
[credyd iy llun i Adrian Pope]
Meena Kandasamy, Exquisite Cadavers (Atlantic Books)
Mae Meena Kandasamy yn fardd, yn awdur ffuglen, yn gyfieithydd ac yn ymgyrchydd a anwyd yn Chennai, Tamil Nadu, India. Mae hi wedi cyhoeddi dau gasgliad o farddoniaeth, Touch (2006) a Ms. Militancy (2010), a nofel sydd wedi ennill canmoliaeth y beirniaid, Gypsy Goddess. Cafodd ei hail nofel, When I Hit You, ei chynnwys ar restr fer y Wobr am Ffuglen gan Fenywod yn 2018. Mae hi'n byw yn nwyrain Llundain. Gallwch ei dilyn ar Twitter @meenakandasamy
Kirsty Logan, Things we say in the Dark (Harvill Secker, Vintage)
Kirsty Logan yw awdur y nofelau, The Gracekeepers a The Gloaming, y casgliadau o straeon byrion, A Portable Shelter a The Rental Heart & Other Fairytales, y llyfryn ffuglen fflach, The Psychology of Animals Swallowed Alive, a'r bywgraffiad byr, The Old Asylum in the Woods at the Edge of the Town Where I Grew Up. Mae ei llyfrau wedi ennill Gwobr Lenyddol LAMBDA, Gwobr Llyfr Cyntaf Polari, Gwobr Saboteur, Gwobr Scott a Chymrodoriaeth Gavin Wallace. Maent hefyd wedi cael eu dewis ar gyfer Clwb Llyfrau Radio 2 a Chlwb Llyfrau Waterstones. Yn 2019, cafodd ei henwi'n un o'r 10 awdur LGBTQ mwyaf disglair ym Mhrydain ar gyfer yr Arddangosiad Llenyddiaeth Rhyngwladol. Mae ei ffuglen fer a'i barddoniaeth wedi cael eu cyfieithu i Japaneg a Sbaeneg, eu recordio ar gyfer y radio a phodlediadau, eu harddangos mewn orielau a'u dosbarthu o hen beiriant gwerthu sigarennau Wurlitzer. Mae hi'n byw yn Glasgow gyda'i gwraig a'u ci a fabwysiadwyd o loches anifeiliaid. Gallwch ei dilyn ar Twitter @kirstylogan [credyd y llun i Simone Falk]
Helen Mort, Black Car Burning (Chatto & Windus)
Ganwyd Helen Mort yn Sheffield a chafodd ei magu yn Chesterfield gerllaw. Enillodd Wobr Beirdd Ifanc Foyle bum gwaith, derbyniodd Wobr Eric Gregory yn 2007 ac, yn 2008, enillodd Wobr Ysgrifennydd Ifanc Manceinion. Cafodd ei chasgliad cyntaf, Division Street (2013), ei gynnwys ar restr fer Gwobr T. S. Eliot a Gwobr Barddoniaeth Costa ac enillodd Wobr Fenton Aldeburgh am Gasgliad Cyntaf. Yn 2014, cafodd ei henwi'n un o 'Feirdd y Genhedlaeth Nesaf', dyfarniad mawr ei fri sy'n cael ei gyhoeddi unwaith bob 10 mlynedd yn unig i gydnabod yr 20 bardd newydd mwyaf cyffrous o'r DU ac Iwerddon. Cafodd ei hail gasgliad, No Map Could Show Them (2016), sy'n ymdrin â themâu menywod a mynydda, ei argymell gan y Gymdeithas Llyfrau Barddoniaeth. Bu Helen yn Fardd Preswyl Ymddiriedolaeth Wordsworth ac yn Fardd Llawryfog Swydd Derby, a chafodd ei henwi'n un o 40 Cymrawd dan 40 y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol yn 2018. Mae hi'n Ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion ac yn byw yn Sheffield. Black Car Burning yw ei nofel gyntaf. Gallwch ei dilyn ar Twitter @HelenMort [credyd y llun i Jan Bella]
Yelena Moskovich, Virtuoso (Serpent's Tail)
Ganwyd Yelena Moskovich yn yr hen Undeb Sofietaidd ac ymfudodd i Wisconsin gyda'i theulu fel ffoaduriaid Iddewig ym 1991. Astudiodd theatr yng Ngholeg Emerson, Boston, ac yn Ysgol Theatr Gorfforol Lecoq ac Université Paris 8 yn Ffrainc. Mae ei dramâu a'i pherfformiadau wedi cael eu cynhyrchu yn yr UD, Canada, Ffrainc a Sweden. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, The Natashas, gan Serpent's Tail yn 2016. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer New Statesman, Paris Review a 3:AM Magazine, ac yn Ffrangeg ar gyfer yr e-gylchgrawn Mixt. Enillodd Wobr Galley Beggar Press am y stori fer orau yn 2017 a bu'n guradur Los Angeles Queer Biennial yn 2019. Mae'n byw ym Mharis. Gallwch ei dilyn ar Twitter @yelenamoskovich
Téa Obreht, Inland (Weidenfeld & Nicolson)
Téa Obreht yw awdur The Tiger’s Wife, enillydd Gwobr Orange Prize a gafodd ei gynnwys ar restr fer y Wobr Llyfrau Genedlaethol, ac Inland. Cafodd ei geni yn Belgrade yn yr hen Iwgoslafia ym 1985 ac mae hi wedi byw yn yr Unol Daleithiau ers iddi fod yn 12 oed. Mae hi'n byw yn Ninas Efrog Newydd ar hyn o bryd. Gallwch ei dilyn ar Instagram @teaobreht
[credyd y llun i Ilan Harel]
Yara Rodrigues Fowler, Stubborn Archivist (Fleet)
Mae Yara Rodrigues Fowler yn nofelydd sy’n byw yn ne Llundain. Mae hi hefyd yn aelod o ymddiriedolwyr Latin American Women's Aid, sefydliad sy'n rheoli un o ddwy loches yn unig yn Ewrop a reolir gan fenywod Lladin Americanaidd ar gyfer menywod Lladin Americanaidd. Stubborn Archivist yw nofel gyntaf Yara; mae hi wrthi'n ysgrifennu ei hail nofel ar hyn o bryd. Gallwch ei dilyn ar Twitter @yazzarf
[credyd y llun i Atri Banerjee]
Stephen Sexton, If All the World and Love were Young (Penguin Random House)
Mae Stephen Sexton yn byw yn Belfast lle mae'n addysgu yng Nghanolfan Seamus Heaney ar gyfer Barddoniaeth. Mae ei lyfr cyntaf, If All the World and Love Were Young, ar fin cael ei gyhoeddi gan Penguin. Gallwch ei ddilyn ar Twitter @ssexton02
[credyd y llun i Michael Weir]
Madhuri Vijay, The Far Field (Atlantic Books)
Ganwyd a magwyd Madhuri Vijay yn Bangalore. Derbyniodd hi Wobr Pushcart, ac mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn Best American Non-Required Reading, Narrative Magazine, ac Elle India, ymhlith cyhoeddiadau eraill. The Far Field yw ei llyfr cyntaf. Mae hi'n byw yn Hawaii ar hyn o bryd.
[credyd y llun i Manvi Rao]
Ocean Vuong, On Earth We're Briefly Gorgeous (Jonathan Cape, Vintage)
Ocean Vuong yw awdur y casgliad o farddoniaeth sydd wedi ennill canmoliaeth y beirniaid, Night Sky with Exit Wounds, enillydd Gwobr Whiting a Gwobr T.S. Eliot. Mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi hefyd yn The Atlantic, Harper's, The Nation, New Republic, The New Yorker, a'r The New York Times. Yn 2019, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Sefydliad MacArthur iddo. Yn frodor o Saigon, ar hyn o bryd, mae'n byw yn Northampton, Massachusetts, lle mae'n Athro Cynorthwyol Saesneg yn UMass-Amherst. On Earth We're Briefly Gorgeous yw ei nofel gyntaf. Gallwch ei ddilyn ar Twitter @OceanVuong
[credyd y llun i Tom Hines]
Bryan Washington, Lot (Atlantic Books)
Mae Bryan Washington wedi ysgrifennu ar gyfer y New York Times, New York Times Magazine, New York Magazine, BuzzFeed, The Paris Review, Boston Review, Tin House, One Story, GQ, FADER, The Awl, a Catapult. Mae'n byw yn Houston, Tecsas. Gallwch ei ddilyn ar Twitter @BryWashing
[credyd y llun i David Gracia]
Gallwch hefyd ddarllen y cyhoeddiad rhestr hir yn llawn yma.