I ddathlu 15 mlynedd o Wobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn ystod blwyddyn canmlwyddiant Prifysgol Abertawe, cyhoeddodd y Wobr restr hir 2020 yn fyw o Ŵyl Lenyddiaeth Jaipur.
Cynhaliwyd y digwyddiad, a gefnogir gan y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, ar ddydd Gwener 24 Ionawr ac roedd yn cynnwys trafodaeth panel wych gan gynnwys yr enillydd cyntaf erioed, Rachel Trezise a'r enillydd diweddaraf, Guy Gunaratne, ynghyd â Chyfarwyddwr yr Ŵyl ac aelod o'r panel beirniadu Namita Gokhale a Swyddog Gweithredol y Wobr, Elaine Canning.