Cyhoeddi Rhestr Fer 2018
Merched yn serennu ar restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas a ddyfernir gan Brifysgol Abertawe.
Mae pedwar awdur newydd yn dod i’r amlwg ar restr fer o chwech ar gyfer 10fed Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas a ddyfernir gan Brifysgol Abertawe, gwobr sy’n dathlu awduron ifanc gorau’r byd. Y wobr hon, sy’n werth £30,000 yw gwobr lenyddol fwya’r byd ar gyfer awduron ifanc 39 oed neu iau, ac mae’n agored i awduron o bob gwlad, sy’n ysgrifennu yn Saesneg.
Yn 2017, gwelwyd mudiad cydraddoldeb rhywedd mwyaf y ganrif hon yn magu nerth, ac mae’r rhestr fer ryngwladol hon, gyda merched yn lleisiau amlwg iawn arni, yn amlygu themâu pwysig fel trais rhywiol, perthynas niweidiol, gwrywdod a rhaniadau hil, sy’n berthnasol ledled y byd ac nid yng ngwledydd Prydain yn unig. Yn yr un modd ag y llwyddodd Dylan Thomas i gyfleu galar a cholli diniweidrwydd yng ngwledydd Prydain ar ôl y rhyfel drwy ei farddoniaeth sy’n cyffwrdd â phobl ar draws y byd, mae’r wobr yn llwyfan i amrywiaeth ac ehangder gweledigaeth llenyddiaeth sy’n crisialu’r ysbryd gwleidyddol sy’n amlwg heddiw.
Ar y rhestr fer eleni, mae:
- Kayo Chingonyi (31), bardd, MC a chynhyrchydd cerddoriaeth a anwyd yn Zambia, am ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, Kumakanda, sy’n mynd i’r afael â’r defodau mae bechgyn ifanc yn eu profi ar eu taith i fod yn ddynion, y modd y mae gwrywdod a hil yn ymblethu, a’r hyn y mae bod yn Brydeinig a ddim yn Brydeinig ar yr un pryd yn ei olygu.
- Carmen Maria Machado (31), awdur straeon byrion o dras Ciwba-Americanaidd, am ei chasgliad cyntaf o straeon byrion, Her Body & Other Parties, sy’n mynd i’r afael ag erotigiaeth, trais ac emosiwn y profiad benywaidd drwy gymysgedd pwerus o wyddonias, straeon ysbrydion a thylwyth teg.
- Gwendoline Riley (39), sydd wedi cyhoeddi chwe nofel hyd yma, ac sydd wedi cyrraedd y rhestr fer am First Love, stori afaelgar am gariad niweidiol a phartneriaethau gwenwynig. Mae hefyd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Ffuglen Merched Bailey’s a Gwobr Goldsmiths.
- Sally Rooney (27), o Iwerddon sydd wedi cyhoeddi ei nofel gyntaf lwyddiannus, Conversations with Friends. Fe’i dyfarnwyd hi’n Awdur Ifanc y Flwyddyn gan y Sunday Times, ac mae wedi cael ei galw’n “Salinger i’r genhedlaeth Snapchat”.
- Emily Ruskovich (33), nofelydd o America sy’n cyrraedd y rhestr fer am ei nofel gyntaf iasol, Idaho, sy’n adrodd stori mam sy’n lladd ei merch chwe blwydd oed yn sydyn.
- Gabriel Tallent (30), awdur o America, sydd wedi cyrraedd y rhestr fer am ei nofel gyntaf iasol, My Absolute Darling, “nofel afaelgar y flwyddyn” yn ôl The Times a ‘champwaith’ yn ôl Stephen King.
Caiff y wobr o £30,000 ei dyfarnu i'r darn gorau o waith wedi'i gyhoeddi'n Saesneg, sydd wedi'i ysgrifennu gan awdur 39 mlwydd oed neu iau. Wedi’i sefydlu yn 2006, bwriad y wobr yw cydnabod a chefnogi awduron mawr y dyfodol yn ogystal â chydnabod etifeddiaeth Dylan Thomas, a ysgrifennodd y rhan fwyaf o'i waith gorau tra yn ei ugeiniau.
Meddai’r Athro Dai Smith CBE o Brifysgol Abertawe, cadeirydd y beirniaid: "Mae rhestr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, Prifysgol Abertawe, yn adlewyrchiad anhygoel o ddoniau ysgrifennu awduron ifanc o bob cwr o’r byd. Mae dwy nofel syfrdanol ac iasol o America fodern; dwy nofel arall sy’n mynd i’r afael â chariad a chasineb, o Loegr ac Iwerddon; casgliad gwreiddiol a dyfeisgar o straeon byrion o America a chasgliad o farddoniaeth bwyllog a heriol, sy’n ein tywys i edrych ar y rhwygiadau sy’n bodoli ym Mhrydain. Mae’r beirniaid yn wynebu tasg anodd iawn dros y ddeufis nesaf i ddod o hyd i enw buddugol o blith rhestr o awduron sydd eisoes yn fuddugol.”
Wedi’i gadeirio gan yr Athro Dai Smith, mae’r panel beirniadu’n cynnwys y bardd a’r ysgolhaig Kurt Heinzelman; y nofelydd a’r dramodydd Rachel Trezise, yr awdur a’r dramodydd Paul McVeigh, a’r awdur Namita Gokhale.
Cyhoeddir enw’r enillydd mewn seremoni arbennig yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe ddydd Iau 10 Mai fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas ar 14 Mai. Cynhelir digwyddiad arbennig i’r cyhoedd yng nghwmni awduron y rhestr fer yn y Llyfrgell Brydeinig ar 8 Mai.
Mi fyd yr holl awduron ar y rhestr fer yn cymryd rhan yn rhaglen DylanED. Holl fwriad DylanED yw cyflwyno pobl ifanc i fyd llenyddiaeth a'u hannog i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol eu hunain. Mae'r Wobr yn dod ag ysgrifenwyr ifanc o bob rhan o'r byd i Gymru a'r DU. Mae'n eu hannog i roi dosbarthiadau, darlleniadau, gweithdai ac i weithio gyda phobl ifanc. Mae DylanED yn ffynhonnell ysbrydoliaeth fawr i bobl ifanc dalentog ein rhanbarth ac mae wedi'i drefnu i gyd-fynd â'r rhaglen sydd gan Brifysgol Abertawe ei hun i ymgysylltu ag ysgolion lleol.