Jay Bernard, Surge (Chatto & Windus)
Jay Bernard yw awdur y pamffledi, Your Sign is Cuckoo, Girl (Tall Lighthouse, 2008), English Breakfast (Math Paper Press, 2013) a The Red and Yellow Nothing (Ink Sweat & Tears Press, 2016), a gafodd ei gynnwys ar restr fer Gwobr Ted Hughes 2017. Mae Jay yn gydlynydd rhaglenni ffilm yn ngŵyl Flare y BFI ac yn archifydd yn Stagewatch a chymerodd ran hefyd yn y prosiect 'The Complete Works' yn 2014 lle cafodd ei fentora gan Kei Miller. Roedd Jay yn un o Feirdd Ifanc y Flwyddyn Foyle yn 2005 ac yn enillydd SLAMbassador, pencampwriaeth gair llafar y DU. Yn 2019, dewiswyd Jay gan Jackie Kay yn un o 10 ysgrifennydd BAME gorau Prydain ar gyfer Arddangosiad Llenyddiaeth Rhyngwladol y British Council a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ysgrifennu. Mae cerddi Jay wedi cael eu casglu yn Voice Recognition: 21 Poets for the 21st Century (Bloodaxe, 2009), The Salt Book of Younger Poets (Salt, 2011), Ten: The New Wave (Bloodaxe, 2014) ac Out of Bounds: British Black & Asian Poets (Bloodaxe, 2014). [credyd y llun i Joshua Virasami]
Mary Jean Chan, Flèche (Faber & Faber)
Mae Mary Jean Chan yn fardd, yn ddarlithydd ac yn olygydd o Hong Kong yn wreiddiol sydd wedi ymgartrefu yn Llundain. Enillodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, Flèche, (Faber & Faber) Wobr Llyfrau Gorau Costa 2019 yn y categori Barddoniaeth. Mae gwaith Chan wedi cael ei gynnwys ddwywaith ar restr fer Gwobr Forward ar gyfer y Gerdd Unigol Orau a derbyniodd Wobr Eric Gregory 2019 a Gwobr Cymdeithas Farddoniaeth Geoffrey Deamer yn 2018. Ar hyn o bryd, mae Chan yn darlithio mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Oxford Brookes. Gallwch ei dilyn ar Twitter @maryjean_chan
[credyd iy llun i Adrian Pope]
Téa Obreht, Inland (Weidenfeld & Nicolson)
Téa Obreht yw awdur The Tiger’s Wife, enillydd Gwobr Orange Prize a gafodd ei gynnwys ar restr fer y Wobr Llyfrau Genedlaethol, ac Inland. Cafodd ei geni yn Belgrade yn yr hen Iwgoslafia ym 1985 ac mae hi wedi byw yn yr Unol Daleithiau ers iddi fod yn 12 oed. Mae hi'n byw yn Ninas Efrog Newydd ar hyn o bryd. Gallwch ei dilyn ar Instagram @teaobreht
[credyd y llun i Ilan Harel]
Stephen Sexton, If All the World and Love were Young (Penguin Random House)
Mae Stephen Sexton yn byw yn Belfast lle mae'n addysgu yng Nghanolfan Seamus Heaney ar gyfer Barddoniaeth. Mae ei lyfr cyntaf, If All the World and Love Were Young, ar fin cael ei gyhoeddi gan Penguin. Gallwch ei ddilyn ar Twitter @ssexton02
[credyd y llun i Michael Weir]
Ocean Vuong, On Earth We're Briefly Gorgeous (Jonathan Cape, Vintage)
Ocean Vuong yw awdur y casgliad o farddoniaeth sydd wedi ennill canmoliaeth y beirniaid, Night Sky with Exit Wounds, enillydd Gwobr Whiting a Gwobr T.S. Eliot. Mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi hefyd yn The Atlantic, Harper's, The Nation, New Republic, The New Yorker, a'r The New York Times. Yn 2019, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Sefydliad MacArthur iddo. Yn frodor o Saigon, ar hyn o bryd, mae'n byw yn Northampton, Massachusetts, lle mae'n Athro Cynorthwyol Saesneg yn UMass-Amherst. On Earth We're Briefly Gorgeous yw ei nofel gyntaf. Gallwch ei ddilyn ar Twitter @OceanVuong
[credyd y llun i Tom Hines]
Bryan Washington, Lot (Atlantic Books)
Mae Bryan Washington yn enillydd er anrhydedd Gwobr Llyfrau Cenedlaethol ar gyfer Pobl dan 35 oed ac ef yw awdur y casgliad, Lot, a’r nofel sydd ar ddod, Memorial. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer The New Yorker, The New York Times, Cylchgrawn The New York Times, BuzzFeed, Vulture, The Paris Review, Tin House, One Story, Bon Appétit, GQ, The Awl, a Catapult. Mae’n byw yn Houston. Gallwch ei ddilyn ar Twitter @BryWashing
[credyd y llun i Dailey Hubbard]