Caleb Azumah Nelson, Small Worlds (Viking, Penguin Random House)
Mae Caleb Azumah Nelson yn awdur ac yn ffotograffydd Prydeinig-Ghanaidd sy'n byw yn ne-ddwyrain Llundain. Enillodd ei nofel gyntaf, Open Water, Wobr Costa am Nofel Gyntaf a Nofel Gyntaf y Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Prydain, a chyrhaeddodd frig rhestr y Times o lyfrau sydd wedi gwerthu'n arbennig o dda. Hefyd, cafodd le ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dylan Thomas, Gwobr Awdur Ifanc y Flwyddyn y Sunday Times, Llyfr y Flwyddyn Waterstones, a chyrhaeddodd restr hir Gwobr Gordon Burn a Gwobr Elliott Desmond. Roedd ei ail nofel, Small Worlds yn llyfr sydd wedi gwerthu'n arbennig o dda yn ôl y Sunday Times a chafodd le ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Orwell am Ffuglen Wleidyddol. Fe'i dewiswyd gan Brit Bennett yn anrhydeddai '5 under 35' ar gyfer y Sefydliad Llyfrau Cenedlaethol.
X: @CalebANelson | Instagram: @caleb_anelson