Mae'r wobr ryngwladol, sydd bellach yn ei seithfed flwyddyn, yn dathlu gwaddol Dylan Thomas, y bardd a'r awdur o Abertawe.
Mae'n dathlu gwaddol Dylan Thomas, y bardd a'r awdur o Abertawe, a wnaeth ysgrifennu'r rhan fwyaf o'i waith yn ei ugeiniau.
Mae Battleborn yn archwilio myth Gorllewin America. Ymhlith cymeriadau ei straeon mae dyn sy'n darganfod stôr o lythyrau, tabledi a ffotograff wrth ymyl y ffordd, ac yn ysgrifennu at y dyn mae'n dychmygu y gwnaeth eu gadael ar ôl, dim ond i ddatgelu gwirioneddau mawr amdano'i hun.
Dywedodd cadeirydd y panel beirniaid, Peter Florence:
“Mae Claire Vaye Watkins yn efelychu peth o sgil ryfeddol Dylan Thomas ar ffurf y stori fer, wrth gyflwyno delwedd ddelfrydol o fyd crwn i chi sy'n hynod anghyffredin.”
Ychwanegodd Cerys Matthews, cantores a cherddor ac un o'r beirniaid:
“Mae Battleborn yn llawn bwrlwm. Mae mor naturiol wrth ysgrifennu. Mae'r llyfr mor heintus, gan wneud i chi ysu am yr hyn a ddaw nesaf gan yr awdures ifanc ragorol hon.”
Dywedodd Claire Vaye Watkins:
"Mae wedi bod yn fraint o'r mwyaf i gael treulio amser gyda'r holl awduron ar y rhestr fer. Ysgrifennwyd Battleborn ar gyfer pob Dylan yn y byd, y bobl hynny o dwll din y byd. Ni chafodd y casgliad ei ysgrifennu ar gyfer Efrog Newydd na Llundain. Cafodd ei ysgrifennu ar gyfer pobl fel chi a Dylan".
Bydd Claire yn derbyn siec am £30,000 a chast efydd prin o Dylan Thomas.
Dywedodd yr Athro John Spurr, Pennaeth Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n noddi'r wobr:
"Mae'n bleser gan Brifysgol Abertawe noddi Gwobr Dylan Thomas. Mae ein partneriaeth â'r Wobr yn seiliedig ar nodau cyffredin: rydym yn anelu at nodi a meithrin talent, dathlu creadigrwydd, a chyflawni rhagoriaeth ryngwladol. Rydym am gyflwyno'r gorau o Abertawe i'r byd a dod ag artistiaid, ysgolheigion a myfyrwyr o bedwar ban byd i Dde Cymru. Fel prifysgol ymchwil uchelgeisiol, mae Abertawe yn ffynnu oherwydd creadigrwydd staff a myfyrwyr. Hoffem longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ac edrychwn ymlaen at eu gweld yn blaguro yn y dyfodol."
afodd Claire Vaye Watkins ei geni yn Bishop, Califfornia yn 1984. Graddiodd o Brifysgol Nevada Reno.
Mae ei straeon a'i thraethodau wedi ymddangos yn Granta, One Story, The Paris Review, Ploughshares, Glimmer Train, Best of the West 2011, New Stories from the Southwest 2013, y New York Times a mannau eraill.
Roedd panel beirniaid 2013 yn cynnwys: sylfaenydd Gŵyl y Gelli, Peter Florence; y nofelydd a cholofnydd gyda'r Daily Telegraph, Allison Pearson; yr awdures, cantores a chyflwynydd BBC 6 Music, Cerys Matthews; y newyddiadurwraig a'r awdures, Carolyn Hitt; y sylwebydd a'r artist, Kim Howells; newyddiadurwr y Guardian Review, Nicholas Wroe; y bardd a'r Athro Saesneg ym Mhrifysgol Tecsas, Kurt Heinzelman, a Chadeirydd Gwobr Dylan Thomas, Peter Stead.
Y rhestr fer, (a ddangosir ar y chwith) oedd yn cynnwys llyfrau cyntaf i gyd, oedd:
• Tim Leach, The Last King of Lydia
• Marli Roode, Call It Dog
• Majok Tulba, Beneath the Darkening Sky
• Claire Vaye Watkins, Battleborn
• Prajwal Parajuly, The Gurkha's Daughter
• James Brookes, Sins of the Leopard
• Jemma King, The Shape of a Forest
Dywedodd Cadeirydd Gwobr Dylan Thomas, Peter Stead:
"Mae'r llyfrau ar y rhestr fer eleni yn dangos natur wirioneddol ryngwladol Gwobr Dylan Thomas. Mae dau fardd ifanc, un o Loegr, un o Gymru, a phum awdur rhyddiaith o bob cwr o'r byd, y mae eu straeon yn ein tywys i Nepal, Sudan sydd wedi'i rhwygo gan ryfel, De Affrica, Nevada a Dwyrain Agos yr oes Glasurol".
Yn 2014 dethlir canmlwyddiant geni Dylan Thomas. Yn ogystal â noddi gwobr Dylan Thomas, mae uchafbwyntiau eraill Prifysgol Abertawe i ddathlu'r achlysur yn cynnwys:
- Dylan Unchained – cynhadledd academaidd ryngwladol ar Dylan Thomas ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Medi 2014
- Argraffiad newydd o farddoniaeth Dylan Thomas – casgliad cyflawn newydd ac awdurdodedig, wedi'i olygu gan yr Athro John Goodby, sy'n arbenigwr rhyngwladol ar y bardd.
- Astudiaeth newydd o waith Dylan Thomas – mae'r Athro John Goodby newydd lansio astudiaeth fawr o Dylan Thomas, gan ail-werthuso ei waith ar gyfer yr 21ain ganrif.
- Cyflwyno llenyddiaeth i'r byd ehangach – bydd ein beirdd, nofelwyr, dramodwyr a beirniaid yn cyflwyno eu gwaith i'r byd ehangach drwy wyliau llenyddol, gan gynnwys Gŵyl y Gelli, yn ystod 2014
- Dylan Thomas mewn Tsieinëeg – mae'r Brifysgol a Dinas a Sir Abertawe yn ariannu ymweliad gan y bardd Tsieineaidd Wu Fu-Sheng, Athro ym Mhrifysgol Salt Lake City, a fydd yn gweithio ar y cyfieithiad sylweddol cyntaf o farddoniaeth Dylan Thomas i Fandarin Tsieinëeg. Cytunwyd y caiff y cerddi dethol eu cyhoeddi gan un o dai cyhoeddi'r Wladwriaeth.