Mae Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi panel beirniaid 2025.

Namita Gokhale

Mae Namita Gokhale yn awdur Indiaidd ac yn gyfarwyddwr gŵyl. Mae hi wedi ysgrifennu pum gwaith ffeithiol a ffuglen. Cafodd ei nofel gyntaf glodfawr, Paro: Dreams of Passion, ei chyhoeddi ym 1984 ac mae wedi gael ei chynnwys yn y gyfres Penguin Modern Classics.

Mae gwaith Gokhale yn cynnwys sawl genre, gan gynnwys nofelau, straeon byrion, astudiaethau Himalaiaidd, mytholeg, antholegau a olygwyd, llyfrau i ddarllenwyr ifanc a drama.  Mae hi wedi ennill amrywiaeth o wobrau a dyfarniadau, gan gynnwys Gwobr Sahitya Akademi uchel ei bri (yr Academi Lenyddiaeth Genedlaethol) am ei nofel Things to Leave Behind. 

Namita Gokhale yw cyd-gyfarwyddwr (gyda William Dalrymple)  Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur fyd-enwog. Mae hi'n cyfrannu’n weithredol at ganghennau rhyngwladol amrywiol yr ŵyl ac yn ymrwymedig i gyfnewid llenyddol ac amrywiaeth ieithyddol.

Namita Gokhale yw Cadeirydd Panel Beirniaid 2025.

X: @NamitaGokhale_  |  Instagram: @namitagokhale

Daniel G. Williams

Mae Daniel G. Williams yn Athro Llenyddiaeth Saesneg, yn Gyfarwyddwr Canolfan Richard Burton ar gyfer Astudio Cymru a Chyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae’n Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Llywydd NAASWCH (Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymru).

Ymhlith ei gyhoeddiadau mae Black Skin, Blue Books: African Americans and Wales (2012), Wales Unchained: Literature, Politics and Identity in the American Century (2015) a The Werner Sollors Reader: Ethnicity, Cosmopolitanism and Particularism (2025). Mae’n cyfrannu’n gyson ar lenyddiaeth a diwylliant Cymru ar y cyfryngau ac mae’n sacsoffonydd gyda’r band jazz-gwerin ‘Burum’.

X: @DanielGwydion  |  Instagram: @danielgwydion

Mary Jean Chan

Mary Jean Chan yw awdur Flèche (Faber & Faber, 2019), a enillodd Wobr Llyfr Barddoniaeth Costa. Gwnaeth Bright Fear (Faber, 2023), ail lyfr Chan, gyrraedd y rhestr fer Gwobr Forward am y Casgliad Gorau, Gwobr Dylan Thomas a Gwobr yr Awduron. Gwnaeth Chan gyd-olygu’r antholeg 100 Queer Poems (Vintage, 2022) gydag Andrew McMillan a bu'n feirniad ar gyfer Gwobr Booker 2023. A hithau'n Gymrawd Barddoniaeth Judith E Wilson, mae Chan yn Ddarlithydd Adrannol mewn Barddoniaeth ar y radd MSt mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Harris Manchester, Rhydychen. (Credyd Llun: Ray Burmiston)

X: @maryjean_chan  |  Instagram: @maryjeanchan

Max Liu

Mae Max Liu yn awdur ac yn feirniad ac mae ei waith yn ymddangos yn the Financial Times, The i ac mewn mannau eraill. Mae'n cyfrannu at arlwy celfyddydau BBC Radio 4 ac yn cadeirio digwyddiadau awduron. Am fwy na degawd, mae wedi adolygu ffuglen a llyfrau ffeithiol i bapurau newydd cenedlaethol, gan gyfweld ag awduron ac ysgrifennu erthyglau am barddoniaeth ddileu, ffuglen Asiaidd-Americanaidd ac agweddau eraill ar lenyddiaeth gyfoes. Mae hefyd yn ysgrifennu am ffilmiau, teledu a chomedi a bu’n aelod o banel beirniadu Gwobr Dylan Thomas yn 2020. (Credyd Llun: Billie Charity)

X: @maxjliu

Jan Carson (credit: Jonathan Ryder)

Mae Jan Carson yn awdur sy'n byw yn Belfast. Mae hi wedi cyhoeddi tair nofel, tri chasgliad o straeon byrion a dau gasgliad o ffuglen fer. Enillodd ei nofel, The Fire Starters, Wobr Llenyddiaeth yr UE ar gyfer Iwerddon yn 2019. Cyhoeddwyd nofel ddiweddaraf Jan, The Raptures, gan Doubleday ar ddechrau 2022 a chafodd ei chynnwys ar restr fer Nofel Wyddelig y Flwyddyn An Post a Nofel y Flwyddyn Kerry Group. Cyhoeddwyd ei chasgliad o straeon byrion, Quickly, While They Still Have Horses, gan Doubleday ym mis Ebrill 2024. (Credyd Llun: Jonathan Ryder)

X: @JanCarson7280  |  Instagram: @jancarsonstories

Beirniaid Blaenorol