Mae astudio yn yr Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol a Mecanyddol yn daith gyffrous lle byddwch yn cael cyfle i ddysgu egwyddorion sylfaenol peirianneg ac archwilio technolegau modern er mwyn eich helpu i ddeall sut mae pethau'n gweithio, sut i'w gwella, datrys problemau a datblygu atebion arloesol. Gyda'r argyfwng hinsawdd presennol a byd busnes a diwydiant yn datblygu 'n gyflym, mae mwy a mwy o sefydliadau'n dibynnu ar beirianwyr i ddod o hyd i atebion arloesol a chynaliadwy sy'n diwallu anghenion y gymdeithas.
Os ydych chi am fod yn beiriannydd arloesol mewn diwydiant, neu os ydych chi am gael gyrfa mewn ymchwil sy'n cael effaith, mae parch mawr at ein graddau israddedig ac ôl-raddedig a'u nod yw galluogi ein graddedigion i feithrin y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol er mwyn iddynt achub y blaen yn eu datblygiad proffesiynol.