Pam astudio ar gwrs blwyddyn mewn diwydiant?
Mae cyflogwyr yn gynyddol yn chwilio am raddedigion sydd â phrofiad mewn diwydiant. Felly, rydym yn cynnig cyfle i fyfyrwyr y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg gael lleoliad Blwyddyn mewn Diwydiant i ennill profiad gwaith perthnasol a fydd yn eich cefnogi i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau proffesiynol trosglwyddadwy.
Os ydych yn astudio gradd Baglor, byddwch yn cael y cyfle i gael Blwyddyn mewn Diwydiant rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn astudio. Serch hynny, os ydych yn astudio gradd Meistr, gallwch gael Blwyddyn mewn Diwydiant rhwng eich trydedd a'ch bedwaredd flwyddyn.
Mae ein myfyrwyr wedi cael lleoliad Blwyddyn mewn Diwydiant gydag amrywiaeth o gwmnïau, o fusnesau bach a chanolig i gwmnïau amlwladol mawr. Mae rhai o'n myfyrwyr Peirianneg wedi cwblhau Blwyddyn mewn Diwydiant gyda chwmnïau megis Babcock, BAE Systems, Valero, Jaguar Land Rover a GE Aviation. Mae rhai o'n myfyrwyr Gwyddoniaeth wedi cwblhau Blwyddyn mewn Diwydiant gyda sefydliadau megis Arcadis, National Marine Aquarium, Veeqo, RSPCA ac Aldi.
Manteision Blwyddyn mewn Diwydiant
- Mae'n rhoi'r cyfle i chi ymdrochi mewn amgylchedd proffesiynol lle gallwch ddatblygu sgiliau allweddol y mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanynt.
- Byddwch yn ennill profiad ymarferol ac yn gweithio gydag eraill mewn sector sy'n perthyn i astudiaethau eich gradd, a fydd hefyd yn gwella eich rhwydweithiau proffesiynol.
- Yn hwyluso cyfle i chi weld damcaniaethau y byddwch yn eu dysgu drwy eich astudiaethau'n cael eu cymhwyso mewn amgylchedd go iawn.