Trosolwg o'r Grŵp
Mae'r grŵp Lled-ddargludyddion a Deunyddiau Electronig yn cynnwys gweithgareddau ymchwil sy'n torri tir newydd ym maes y genhedlaeth nesaf o led-ddargludyddion a deunyddiau dau ddimensiwn gyda chymwysiadau mewn dyfeisiau ffoto-electronig a ffotonig, electroneg pŵer, synwyryddion a micro/nanosystemau integredig. Rydym ni'n gwneud ymchwil ddamcaniaethol ac arbrofol ar ddyfeisiau sy'n rhychwantu popeth o signalau bach, amlder isel ac wedi’u hunanbweru i bŵer uchel ac amlder uchel.
Mae gweithgareddau ymchwil parhaus yn y meysydd canlynol:
- Systemau electrofecanyddol micro/nano
- Synwyryddion a chychwynwyr
- Modelu damcaniaethol o ddeunyddiau a dyfeisiau lled-ddargludyddion
- Dyfeisiau a systemau optegol, RF a meddygol
- Dyfeisiau cwantwm
- MOCVD Ocsid a Chalcogenid
- Dyfeisiau cynhaeafu ynni