Mae Prifysgol Abertawe yn gartref i rai o'r offer nodweddu a phrofi deunyddiau mwyaf datblygedig yn Ewrop. O Microsgopau Electronau Trosglwyddo a all ddelweddu pethau mor fach ag y mae ewinedd eich bys yn tyfu mewn milieiliad i becyn profi mecanyddol a ddefnyddir i ragweld oes injan jet, mae'r adran yn barod ar gyfer yr heriau byd-eang.
Mae ein cyfleusterau’n cynnwys:
- Cyfres lawn o ficrosgopau electronau uwch, pelydr-X a delweddu optegol
- Cyfleusterau blinder, ymgripiad a diraddio tymheredd uchel ar gyfer asesu deunyddiau awyrofod newydd
- Cymhwyso caenau – o raddfa labordy i weithgynhyrchu peilot rhôl i rôl
- Triniaethau toddi, castio a gwres
- Profion ffisegol, cemegol, trydanol a mecanyddol
- Cynhyrchu a phrofi polymerau a chyfansoddion
- Asesu electrocemegol deunyddiau - cyrydiad i fatris