Darlith Zienkiewicz

DARLITH ZIENKIEWICZ 2024

Bydd Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe'n cynnal ei hwythfed Ddarlith Zienkiewicz ar 20 Tachwedd am 4pm yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe.

Bydd y siaradwr gwadd, yr Athro Fonesig Wendy Hall DBE, FRS, FREng, sy'n Athro Regius Cyfrifiadureg, yn Is-lywydd Cysylltiol (Ymgysylltu Rhyngwladol) ac yn Gyfarwyddwr Sefydliad Gwyddoniaeth y We ym Mhrifysgol Southampton yn traddodi darlith â'r teitl 'Geopolitics AI'.

Cofrestrwch drwy Eventbrite
Dame Wendy Hall

Siaradwr Gwestai Yr Athro Fonesig Wendy Hall DBE, FRS, FREng

Mae Wendy Hall, DBE, FRS, FREng yn Athro Regius Cyfrifiadureg, yn Is-lywydd Cysylltiol (Ymgysylltu Rhyngwladol) ac yn Gyfarwyddwr Sefydliad Gwyddor y We ym Mhrifysgol Southampton. Hi oedd Deon Gwyddor Ffisegol a Pheirianneg o 2010 i 2014 a Phennaeth yr Ysgol Electroneg a Chyfrifiadureg (ESC) o 2002 i 2007.

Roedd hi'n un o'r gwyddonwyr cyfrifiadura cyntaf i ymgymryd ag ymchwil ddifrifol mewn amlgyfrwng a hypergyfryngau, ac mae hi wedi bod ar flaen y gad yn y maes ers hynny. Mae dylanwad ei gwaith wedi bod yn sylweddol mewn llawer o feysydd yn cynnwys llyfrgelloedd digidol, datblygiad y Rhyngrwyd, a disgyblaeth ymchwil datblygol Gwyddor y We. Mai ei hymchwil bresennol yn cynnwys archwilio rhyngwynebau rhwng y gwyddorau cymdeithasol a ffisegol trwy ddatblygiad Gwyddor y We ac astudio systemau ar-lein drwy lens dechnegol-gymdeithasol. Hi yw Rheolwr Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gwyddor y We.

Fe’i penodwyd yn Fonesig Gomander yr Ymerodraeth Brydeinig yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2009 a chafodd ei hethol yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol yn yr un flwyddyn. Cafodd ei hethol yn Llywydd y Gymdeithas Peirianwaith Gyfrifiadurol (ACM) ym mis Gorffennaf 2008, a hi oedd y person cyntaf y tu allan i Ogledd America i ddal y rôl hon. Mae hi'n Gymrawd o’r Academi Frenhinol Peirianneg, y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg a'r Gymdeithas Peirianwaith Gyfrifiadurol. Mae’n gymrawd o fri o Gymdeithas Gyfrifiaduron Prydain.

Hi oedd Uwch Is-lywydd yr Academi Frenhinol Peirianneg (2005-8), bu’n aelod o Gyngor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prif Weinidog y DU (2004-10), ac yn aelod sefydlu o Gyngor Gwyddonol y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (2005-10). Hi oedd Llywydd Cymdeithas Gyfrifiadura Prydain (2003-4), bu’n Uwch Gymrawd Ymchwil o’r Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (1996-2002) ac yn aelod o'r Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (1997-2002).

Yn 2017, Y Fonesig Wendy oedd cyd-Gadeirydd Adolygiad Deallusrwydd Artiffisial Llywodraeth y DU, a gafodd ei gyhoeddiym mis Hydref 2017. Daeth yn aelod o'r Cyngor Deallusrwydd Artiffisial a chafodd ei phenodi'n Hyrwyddwr Sgiliau Deallusrwydd Artiffisial cyntaf y DU yn 2018. Hi oedd Cadeirydd Sefydliad Ada Lovelace (2020-2023). Ar hyn o bryd, mae hi'n gyd-Gadeirydd Bwrdd Cyhoeddiadau'r ACM ac yn Brif Olygydd Royal Society Open Science. Mae hi'n Ymgynghorydd i Lywodraeth y DU a llawer o lywodraethau a chwmnïau eraill o gwmpas y byd ac yn 2023 cafodd ei phenodi i gorff cynghori lefel uwch y Cenhedloedd Unedig ar Ddeallusrwydd Artiffisial. Mae ei llyfr diweddaraf, Four Internets, wedi'i hysgrifennu ar y cyd â Kieron O'Haraa'i gyhoeddi gan OUP yn 2021, am ddata, geowleidyddiaeth a llywodraethu’r seiberofod.

Trwy ei rolau arweinyddiaeth ar gyrff cenedlaethol a rhyngwladol, mae hi wedi torri drwy sawl nenfwd gwydr, gan fod yn barod i ddefnyddio ei rolau ar nifer o gyrff cenedlaethol a rhyngwladol i hyrwyddo rôl menywod mewn Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg a gweithredu fel model rôl pwysig i eraill.

www.damewendydbe.com

Bob blwyddyn rydym yn cynnal Darlith Zienkiewicz lle rydym yn croesawu siaradwr gwadd o ddiwydiant i Abertawe

 

ZL sponsor logo montage 2024 small image