Sefydliad Alan Turing a Phrifysgol Abertawe
Ffigur: Llun mosaig o Alan Turing yn seiliedig ar bortread gwreiddiol gan DJ Rogers ac a grëwyd o ddelweddau ar hap gan adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe.
Ffigur: Llun mosaig o Alan Turing yn seiliedig ar bortread gwreiddiol gan DJ Rogers ac a grëwyd o ddelweddau ar hap gan adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe.
Yn 2023, roedd Abertawe'n falch o ddod yn aelod o rwydwaith nodedig, sef Rhwydwaith Prifysgolion Turing a sefydlwyd i roi cyfle i'r holl brifysgolion yn y DU sydd â diddordeb mewn gwyddor data ac AI i ymgysylltu a chydweithio â'r Sefydliad ei hun a'i rwydweithiau ehangach. Ar hyn o bryd mae 65 prifysgol yn aelodau o'r Sefydliad.
Crëwyd Sefydliad Alan Turing (a adnabyddir fel y Turing ac sydd â'i bencadlys yn y Llyfrgell Brydeinig, Llundain) fel y sefydliad cenedlaethol ar gyfer gwyddor data yn 2015. Yn 2017, yn sgîl argymhelliad gan y llywodraeth, ychwanegwyd deallusrwydd artiffisial at ei gylch gorchwyl. Enwyd y Sefydliad er anrhydedd i Alan Turing (23 Mehefin 1912 - 7 Mehefin 1954), a wnaeth gyfraniadau mewn mathemateg ddamcaniaethol a chymhwysol, peirianneg a chyfrifiadura sy'n cael eu hystyried yn rhai hanfodol i feysydd gwyddor data a deallusrwydd artiffisial.
Mae Sefydliad Turing wedi bod yn hynod ddylanwadol wrth lunio polisi AI: cydnabyddir ei fod o flaen y gad o ran gallu AI cenedlaethol y DU ac mae wedi helpu i gadarnhau rôl y DU fel arweinydd yn y dechnoleg drawsnewidiol hon.
Ein Cymrodorion
Cymrodorion Turing yw'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang. Mae ganddynt ragoriaeth ymchwil brofedig mewn gwyddor data, deallusrwydd artiffisial neu faes cysylltiedig, a diddordebau ymchwil sy'n gyson â blaenoriaethau gwyddoniaeth ac arloesi'r Sefydliad fel y'u hamlinellir yn Strategaeth y Sefydliad.
Yn dilyn yr alwad gyntaf am gymrodoriaethau yn 2023, penodwyd tri o'n hacademyddion yn Gymrodorion Turing, am ddwy flynedd tan 2026. Yn ogystal â chyfrannu at gymuned ymchwil ryngddisgyblaethol a chydweithredol Turing sydd â'r nod o newid y byd er gwell drwy wyddor data ac AI, bydd y Cymrodorion newydd hefyd yn cefnogi gwaith ehangach ar draws sgiliau a pholisi cyhoeddus. Gallwch ddarllen eu proffiliau drwy'r dolenni canlynol:
Ein Cyfraniadau
Mae llawer yn ein cymuned yn cyfrannu'n weithredol at weithrediadau Sefydliad Turing mewn rolau eraill. Yn ogystal â helpu i drefnu digwyddiadau a siarad ynddynt, rydym hefyd yn cyfrannu at brosiectau ymchwil, yn enwedig drwy ddarparu cyfleusterau cefnogi ymchwil, er enghraifft, yn y prosiect AI for multiple long-term conditions ac mae ein banc data SAIL hefyd yn amgylchedd ymchwil dibynadwy ar gyfer cymuned Turing. Dyma ddolenni i broffiliau ein pobl yn Sefydliad Turing: rhowch gipolwg ar y rhain i weld sut maent yn cyfrannu.
Cymryd Rhan
Mae nifer o ffyrdd o ymwneud â Sefydliad Turing. Y ffordd symlaf o glywed am y cyfleoedd hyn yw ymuno â'n safle Teams. Rydym yn diweddaru sianelau gwahanol yn rheolaidd, gan amlygu’r cyfleoedd diweddaraf gan Sefydliad Turing a'n prifysgolion partner, ac yn defnyddio'r rhestr bostio i anfon e-bost sy'n amlygu cyfleoedd bob pythefnos.
Gallwch ddarganfod y cyfleoedd hyn eich hun gan ddefnyddio'r dolenni isod.
Cysylltiadau Lleol
Defnyddiwch y manylion isod i gysylltu os oes gennych ymholiadau.
Cyswllt Turing: Miss Abi Lewis
Arweinydd Academaidd: Dr Alma Rahat