Rydym yn ymdrechu i'n hymchwil gael effaith wirioneddol

solar panel roof of active building

Yn Gwneud Gwahaniaeth ers 1920

O ddatblygiad y Dull Elfen Finite yn Abertawe yn y 1960au i'n gwaith ymchwil heddiw sy'n troi adeiladau yn orsafoedd pŵer, rydym yn ymdrechu i'n hymchwil gael effaith wirioneddol.

Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf, yn 2021 mae ein cyfleusterau a’n hamgylchedd ymchwil wedi galluogi cyd-weithwyr i ymgysylltu’n rhyngwladol, gan ddyrchafu 100% o gyhoeddiadau'r adran i safon sy'n arwain y byd ac sy'n rhagorol yn rhyngwladol.  

Gyda'n canolfannau ymchwil o'r radd flaenaf a rhaglen fuddsoddi barhaus i ddarparu adnoddau a chyfleusterau rhagorol, mae'r peirianneg yn darparu amgylchedd gwych i gynnal ymchwil iddo.

Ein Themâu Ymchwil

Mae ein themâu ymchwil trawsbynciol yn dod â thimau amlddisgyblaethol ynghyd, gan integreiddio sbectrwm eang o ddisgyblaethau peirianneg sy'n ein helpu i fynd i'r afael â heriau byd-eang.

Digital Icon

Digidol A Chyfrifiadurol

Dros y 30 mlynedd diwethaf mae Prifysgol Abertawe wedi chwarae rhan flaenllaw mewn gwaith ymchwil rhyngwladol ym maes peirianneg gyfrifiadurol.

Rydym wedi gwneud datblygiadau arloesol ym maes technegau rhifyddol, fel y dull elfen feidraidd a'r gweithdrefnau cyfrifiadurol cysylltiedig sydd wedi helpu i ddatrys llawer o broblemau peirianneg cymhleth.

Rydym wedi bod yn ffigur blaenllaw wrth chwyldroi ymarfer dadansoddi peirianneg ddiwydiannol, o arbrofion araf a chostus i fodelau cyfrifiadurol effeithlon a rhad.

CYFLEUSTERAU CYFRIFIADUROL

Mae ein cyfleusterau ar gyfer peirianneg ddigidol a chyfrifiadurol bellach yn cynnwys:

  • Twnnel Gwynt gwerth £1.2m
  • Gwasanaeth Cyfrifiadura Perfformiad Uchel
  • Sianel Tonnau 15m
Water icon

Dŵr ac Ynni

Mae ein gwaith ymchwil yn edrych ar ddŵr croyw a heli a'i nod yw gwella dealltwriaeth wyddonol a datblygu datrysiadau peirianneg effeithiol i broblemau yn y byd go iawn.

Rydym yn gweithio gydag arianwyr academaidd a diwydiant ar ystod eang o bynciau gan gynnwys: trin dŵr; y cyflenwad dŵr; rheoli dalgylchoedd; llifogydd arfordirol a llifogydd yn sgil glaw; erydu arfordirol a ffynonellau ynni adnewyddadwy'r môr.

Rydym yn defnyddio technegau modelu cyfrifiadurol, mae gennym labordai o'r radd flaenaf (CWATER a Labordai Arfordirol) ac mae gennym ystod eang o gyfarpar mesur ar gyfer gwaith maes arfordirol a morol.

CYFLEUSTERAU YMCHWIL YNNI A DŴR

Mae ein cyfleusterau ymchwil ym maes ynni a dŵr bellach yn cynnwys:

  • Sianel Tonnau 30m
  • Microsgop Grymoedd Atomig
  • Microdriniwr a Chwiliedydd Coloidau
Materials cog logo

Defnyddiau a Gweithgynhyrchu

Abertawe yw un o ganolfannau mwyaf blaenllaw y DU ym maes addysgu ac ymchwil defnyddiau. Mae'r ymchwil defnyddiau a wneir ym Mhrifysgol Abertawe, sydd ar flaen y gad yn rhyngwladol, yn cael ei ariannu gan sefydliadau arbennig megis Rolls-Royce, Airbus, yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd a Tata Steel.

Ymhlith y meysydd ymchwil allweddol mae dylunio i atal methiant drwy ymgripiad, lludded a difrod amgylcheddol, serameg a metelau strwythurol ar gyfer cymwysiadau tyrbinau nwy, peirianneg ffiniau graen, ailgylchu polymerau a defnyddiau cyfansawdd, mecanweithiau cyrydu'r genhedlaeth newydd o aloion magnesiwm, datblygu graddau newydd ar gyfer dur stribed (IF, HSLA, Dual Phase, TRIP) a chaenau gweithredol ar gyfer cynhyrchu, storio a rhyddhau ynni.

Cyfleusterau Defnyddiau A Gweithgynhyrchu

Mae ein cyfleusterau ar gyfer defnyddiau a gweithgynhyrchu yn cynnwys:

Heart logo

Iechyd, Lles a Chwaraeon

Mae ymchwil o'r radd flaenaf yn cael ei chynnal mewn nifer o feysydd, gan gynnwys synwyryddion diagnostig, modelu systemau ffisiolegol gan ddefnyddio dulliau cyfrifiadurol, ffisioleg ymarfer corff, gweithgaredd corfforol plant, a moeseg chwaraeon ac atal cam-drin cyffuriau.

Mae ein gwaith yn cwmpasu ystod eang o gyd-destunau, o chwaraeon elitaidd a phroffesiynol i amgylcheddau clinigol ac addysgol a chartref.

Cyfleusterau Iechyd, lles a Chwaraeon

Mae ein cyfleusterau'n cynnwys:

  • Labordy ffisioleg ymarfer corff
  • Labordy Biomecaneg
  • Pentref Chwaraeon gwerth £20m (Campws Singleton)

Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig

Mae ein hymchwil yn cyfrannu at lwyddiant y nodau penodol hyn.