Pam astudio peirianneg deunyddiau?
Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg yw'r pwnc pwysicaf nad ydych erioed wedi clywed amdano. Mae'n cyfuno agweddau ar ffiseg, cemeg, dylunio, mathemateg, a chelf hyd yn oed. Mae'n sail i fwy neu lai bob disgyblaeth peirianneg arall ac felly mae'n hanfodol ar gyfer datblygiadau mewn peirianneg fecanyddol, awyrofod, fodurol, drydanol a sifil.
Mae peirianwyr deunyddiau’n trin strwythur deunyddiau er mwyn rhoi'r priodweddau sydd eu hangen arnoch. Felly, gallwn wneud pethau'n gryfach, yn ysgafnach, yn anoddach eu torri, neu i wrthsefyll dirywio. Neu gallwn eu trin er mwyn eu gwneud yn lled-ddargludyddion gwell, i ddarparu rhinweddau dirgel neu i storio ynni.
Gwyddonwyr a pheirianwyr deunyddiau fydd yn mynd i’r afael â llawer o'r heriau byd-eang y mae’r gymdeithas yn eu hwynebu megis ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth lân, iechyd, diogelwch adnoddau, ac amddiffyn .
Fel myfyriwr yn yr Adran Ddeunyddiau, bydd gennych fynediad at rai o'r offer mwyaf datblygedig yn y DU a bydd yr ymchwil ddiweddaraf wedi'i hintegreiddio i'ch addysgu. Mae ein cydweithredwyr diwydiannol niferus, sy'n cynnwys Tata Steel, Rolls Royce, GE, GKN, y Bathdy Brenhinol, BASF, NSG Pilkingtons, DSTL, Akzo Nobel a Mott MacDonald, yn cefnogi'r radd trwy leoliadau diwydiannol, ysgoloriaethau ôl-raddedig, cyngor a mentora a chyfleoedd datblygu gyrfa.
Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i gael gyrfaoedd gwerth chweil ar draws sawl sector ac maent ar flaen y gad o ran y datblygiadau technolegol diweddaraf.