Efallai eich bod yn meddwl bod Gwyddor Chwaraeon yn ymwneud ag ymarfer corff a chwarae chwaraeon yn unig. Mae hynny’n rhan ohono, ond mae llawer mwy ynghlwm â’r pwnc.
Astudiaeth wyddonol o ffisioleg, seicoleg, biofecaneg, maeth a deall rôl gymdeithasol chwaraeon ac ymarfer corff mewn polisi cymdeithasol, moeseg ac athroniaeth ydyw.
Mae gwyddonwyr chwaraeon yn ceisio deall sut mae’r corff dynol yn perfformio o dan lefelau gwahanol o bwysau – boed hynny mewn chwaraeon perfformiad elitaidd neu’r effaith yn y gymuned gyffredinol ymhlith plant neu’r henoed.
Mae Gwyddor Chwaraeon hefyd yn archwilio sut mae cymdeithas yn ystyried chwaraeon, iechyd a ffitrwydd a deall hynny o safbwynt gwyddoniaeth gymdeithasol a dyneiddiol. Tra bo rhai yn ystyried y corff fel peiriant y gellir ei gyflyru i ddod yn gryfach ac yn gyflymach, rydym hefyd yn fodau dynol sydd â gwerthoedd, diwylliannau gwahanol a phrofiadau cymdeithasegol a seicolegol dwfn.
Cymhwysir athroniaeth a seicoleg iechyd ac ymarfer corff er mwyn datblygu ystyriaeth feirniadol ar draws y sbectrwm o broblemau ym maes iechyd yn y byd go iawn. Caiff rôl gymdeithasol chwaraeon ei harchwilio drwy ofyn cwestiynau, pennu polisïau, bod yn gynhwysol gymdeithasol a chael pethau’n iawn drwy reolaeth foesegol.