Ein cartref ar Gampws y Bae
Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol campws deuol, gyda chartref yr adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ar Gampws y Bae.
Mae'r prif gyfleusterau chwaraeon ar gyfer holl fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe wedi'u lleoli ar safle Parc Chwaraeon Bae Abertawe wrth ymyl Campws Parc Singleton.
Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe y Brifysgol yn gartref i nifer o gyfleusterau chwaraeon, gan gynnwys pyllau nofio 50m a 25m, meysydd chwarae, cyfleusterau athletau dan do ac awyr agored, campfa amlbwrpas y Brifysgol, stiwdios ffitrwydd a chyrtiau sboncen a thennis.
Mae gennym sawl labordy arbenigol ar y campws, gan gynnwys y labordy Ffisioleg Ymarfer Corff, y labordy Biomecaneg, labordy Ymchwil gyda labordy Biocemeg, y labordy Fflebotomi, labordy DEXA, y Siambr Amgylcheddol, y labordy Gweithrediad Cyhyrau, yn ogystal â labordy Maeth a labordy Seicoleg.
Mae ein cyfleusterau'n cynnwys:
- Amrywiaeth o ergomedrau ymarfer corff (e.e., melinau traed, beiciau, peiriannau rhwyfo, ergomedrau breichiau, offer isocinetig)
- Amrywiaeth o dechnegau dadansoddi cyfansoddiad y corff, gan gynnwys dadansoddi rhwystriant biodrydanol a dadansoddiad is-goch agos
- Ystod o dechnegau mesur anthropometrig
- Dadansoddi nwy allanadledig wrth gerdded ac mewn labordy, a dadansoddi electrocardiograffig a haemodeinamig
- Asesu a dadansoddi gweithrediad yr ysgyfaint
- Profi gweithrediad cyhyrau gan ddefnyddio dynamometreg isocinetig amlgymal, llwyfannau grym a System Fesur Falistig
- Ystod o gyfarpar dadansoddi gwaed ar gyfer mesur metabolion, proteinau penodol a hormonau
Cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf
Mae gan Brifysgol Abertawe bentref chwaraeon £20m ar safle Parc Chwaraeon Bae Abertawe, gerllaw Campws Parc Singleton, sy'n cynnwys y canlynol:
- Canolfan Chwaraeon – campfa fodern ag 80 o beiriannau, neuadd chwaraeon, wal ddringo, cyrtiau sboncen
- Canolfan Athletau Dan Do – trac rhedeg 60m â 6 lôn, pwll neidio, naid uchel, naid bolyn, cawell daflu a rhwyd gwaywffon
- Pwll Cenedlaethol Cymru – pyllau nofio 50m a 25m
- Cyfleusterau Awyr Agored – caeau rygbi a phêl-droed, cyrtiau tennis i'w defnyddio ym mhob tywydd, caeau pob tywydd sy'n cael eu dyfrio, trac rhedeg ag 8 lôn
- Undeb Athletig Gweithgar – mwy na 40 o Dîmau Chwaraeon sy'n cystadlu ledled y DU
Dysgwch fwy ar wefan Parc Chwaraeon Bae Abertawe y Brifysgol.