
Ar 5 Tachwedd 2024, gwnaeth Flip the Streets gydweithio â phobl ifanc o brosiect Inspire Training yn Abertawe i greu dau furlun sy'n mynegi'r gwerthoedd sy'n bwysig iddyn nhw wrth fynd i'r afael â chasineb at fenywod.
Wedi'u creu ar y cyd â'r artistiaid o Fresh Creative, gellir gweld y murluniau yng Nghanolfan Inspire Training yn Abertawe a'u nod yw addysgu ac atgoffa pawb nad yw casineb at fenywod yn dderbyniol ac na chaiff ei oddef yn eu hamgylchedd dysgu.
Mae casineb at fenywod yn lledaenu casineb at fenywod a stereoteipiau niweidiol amdanynt. Yn aml caiff ei normaleiddio, gellir ei anwybyddu ac weithiau nid yw'n cael ei ystyried mor ddifrifol â mathau eraill o gam-drin a gwahaniaethu yn ein cymdeithas. Roedd staff yn Inspire wedi nodi'r broblem hon yn un bwysig sy'n effeithio ar fywydau a rhyngweithiadau dysgwyr a staff yn y Ganolfan. I fynd i'r afael â hyn, gwahoddwyd Flip the Streets i weithio gydag Inspire i archwilio naratifau ynghylch menywod a merched a helpu i'w newid.
Cynhaliwyd nifer o weithdai wedi'u cynllunio'n ofalus ar y thema, a wnaeth gydnabod presenoldeb y broblem yn ein cymdeithas gan roi cyfle i'r bobl ifanc feddwl yn feirniadol amdani, ynghyd â rhywiaeth a stereoteipio ar sail rhyw. Teimlai'r dysgwyr yn y Ganolfan ei bod hi'n bwysig gweithredu yn erbyn y gwerthoedd a'r delfrydau normadol, negyddol, a fynegir gan rai pobl. Roeddent hefyd am herio'r agweddau gwrth-ffeministaidd, rhywiaethol ac weithiau treisgar tuag at ferched a menywod a fynegir gan rai dynion yn y 'manosffer' ar-lein.
Mae dynion a menywod ifanc yn aml yn teimlo dan bwysau i ymddwyn mewn ffordd benodol, ac amlygodd y gweithdai yr anawsterau y gall pobl ifanc eu hwynebu wrth herio casineb at fenywod yn eu grwpiau cyfoedion ac mewn lleoliadau cymunedol eraill. Yn y gweithdy dylunio, roedd y dysgwyr yn teimlo bod cymeriadau'r Llew, y Dyn Tun a'r Bwgan Brain o'r ffilm The Wizard of Oz yn ffigurau da i'w defnyddio wrth ddylunio un o'r murluniau. Iddyn nhw, y cymeriadau hyn oedd y ffordd orau o ddangos y rhinweddau personol angenrheidiol i herio naratifau negyddol ymhlith eu cyfoedion ac ar-lein: dewrder, calon (empathi) a deallusrwydd (gwybodaeth), rhywbeth roeddent yn awyddus i'w rannu ag eraill.
Nodwyd hefyd yn y gweithdai fod themâu cyd-barch a chydraddoldeb yn bwysig a chrëwyd ail furlun ar sail y rhain. Roedd hwn yn dangos dwylo niwtral o ran rhyw wedi'u darlunio'n lliwgar ac yn greadigol, wedi'u cysylltu â’i gilydd mewn undod, parch a chydraddoldeb. Gwnaeth y dysgwyr hynny â mwy o brofiad o gelf graffiti ddefnyddio eu 'patrymau' eu hunan yn y dyluniad, gan ddangos eu hymrwymiad i'r thema.
Diolch i bawb yn Inspire Training am gydweithio â phrosiect Flip the Streets. Mae'r gwaith celf a grëwyd yn dyst i ymdrech y dysgwyr a'r staff yn Inspire i herio'r naratifau niweidiol sy'n sylfaen i rywiaeth a chasineb at fenywod yn ein cymdeithas. Wrth fynd rhagddi, bydd y murluniau'n adnodd cadarnhaol i hwyluso sgyrsiau anodd am gasineb at fenywod, ac i gefnogi newid ymhlith pobl ifanc a'u cyfoedion. Maent yn egluro ethos Inspire: Nid yw casineb at fenywod yn dderbyniol mewn unrhyw fan ac ni chaiff ei oddef yn eu hamgylchedd dysgu/hyfforddi.