Mae chwarae yn gysyniad sy'n rhychwantu llawer o wahanol agweddau ar fywydau plant a phobl ifanc. Gall hyn gynnwys cyd-destunau datblygiadol, addysgol, hamdden a therapiwtig. Gall canfyddiadau o rôl chwarae amrywio o safbwynt oedolyn, plentyn, ymarfer a pholisi. Ystyrir yr holl agweddau hyn mewn perthynas â sut yr ydym yn ymchwilio i chwarae ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae gan yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod ddau ymchwilydd blaenllaw ar chwarae, sef Dr Pete King a Dr Justine Howard. Mae eu hymchwil cydweithredol ac annibynnol wedi'i gyhoeddi'n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yr ymchwil gydweithredol ddiweddaraf a gyhoeddwyd ganddynt yw astudiaeth o’r gweithlu chwarae yng Nghymru, gydag ymchwil annibynnol Dr Justine Howard ar hyn o bryd yn ymwneud â’r defnydd o chwarae i gefnogi adfyd, ac ymchwil Dr Pete King yn canolbwyntio ar y broses o chwarae o fewn y ‘Cylch Chwarae’.
Yn 2022, gwnaed galwad gan yr arbenigwyr gwerin Anna Beresin a Julia Bishop am gyfraniadau at lyfr arfaethedig Play in a Covid Frame: Everyday Pandemic Creativity in a Time of Isolation. Arweiniodd yr alwad at gyfraniadau o bob cwr o'r byd, gan gynnwys pennod gan Dr Pete King o’r Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod, yn seiliedig ar ei astudiaeth hydredol o effaith COVID-19 ar waith chwarae. Derbyniodd y llyfr Wobr Opie gan Adran Llên Gwerin Plant Cymdeithas Llên Gwerin America ar gyfer 2023-2024.
Fideos
Mae’r fideos isod yn seiliedig ar ddamcaniaeth gychwynnol y Cylch Chwarae a gyflwynwyd gan Gordon Sturrock a’r Athro Perry Else, ac a ddatblygwyd yn yr ymchwil a wnaed gan Dr Pete King a Dr Shelly Newstead. Mae'r fideo cyntaf yn edrych yn gryno ar y Cylch Chwarae, ac mae'r ail fideo yn edrych ar Ddull Arsylwi'r Cylch Chwarae.
King, P. (2025) The Play Cycle in Practice: Supporting, Observing and Reflecting on Children’s Play. London: Routledge.
Mae GDA PARS – Mae'r Cylch Chwarae yn fforwm sy’n seiliedig ar ymchwil ac ymarfer i rannu’r theori a’r ymarfer ar gyfer cymhwyso’r Cylch Chwarae. Gallwch ymuno â GDA PARS - Y Cylch Chwarae trwy'r ddolen hon: https://www.facebook.com/groups/383108746955317/
King, P., & Howard, J. (2022a). The Play Workforce in Wales – Perceptions from Local Authority Play Sufficiency Lead Officers. International Journal of Playwork Practice, 2(1), Article 1.
King, P., & Howard, J. (2022b). The Play Workforce in Wales – An Exploratory Demographic Study. International Journal of Playwork Practice, 2(1), Article 1.
King, P. (2022). A Theoretical Expansion of the Play Cycle Jakob von Uexküll’s Functional Cycle and the Perceptual Cue. American Journal of Play, 14(2), 173-187.