Mae micro-economeg yn astudio ymddygiadau unigol mewn economi, gan amrywio o benderfyniadau a wneir gan ddefnyddwyr neu weithwyr i ryngweithio strategol cwmnïau mewn marchnadoedd. Mae'n hollbwysig deall ymddygiad o'r fath wrth chwilio am ffyrdd y gall y llywodraeth ymyrryd i alinio'r penderfyniadau hyn yn well â buddion gorau cymdeithas. Mae micro-economeg gymhwysol yn defnyddio damcaniaeth ficro-economaidd a dulliau empiraidd i ddeall a rhagfynegi prosesau penderfynu gweithredwyr economaidd a chynllunio ymyriadau'r llywodraeth gan brofi eu heffeithiau'n empiraidd.
Mae meysydd diddordeb ymchwil aelodau'r Ganolfan yn cynnwys:
- Economeg Llafur
- Trefnu Diwydiannol
- Economeg Wleidyddol
- Economeg Ranbarthol