Mae'r grŵp ymchwil Diogelwch, Hawliau a Datblygiad Byd-eang (GSRD) yn canolbwyntio ei arbenigedd i wneud cyfraniadau o bwys at ymchwil a dadleuon mewn dau brif faes thematig o ymchwil Cysylltiadau Rhyngwladol:
- Diogelwch a Llywodraethu
- Hawliau, Cyfiawnder a Datblygiad
Mae'r grŵp yn ganolbwynt ar gyfer ymchwil ac addysgu ar y dadleuon damcaniaethol ac empirig normadol ynghylch heriau hanesyddol a chyfoes mewn gwleidyddiaeth fyd-eang, y goblygiadau ar gyfer heriau o'r fath trwy astudiaethau ardal a chynigion tuag at fynd i'r afael â rhai o heriau oesol y byd a rhai newydd sy’n dod i’r amlwg.
Felly, mae aelodau'r grŵp yn cynnal ymchwil sy'n gydnaws â blaenoriaethau'r Cyngor Ymchwil i'r Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), sef ymchwilio i heriau cyfoes a darganfod ein hunain, a thema strategol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) o adeiladu byd diogel a chadarn.
Mae ymchwilwyr yn y ganolfan yn cael eu cydnabod am eu harbenigedd mewn meysydd sy'n amrywio o ddiogelwch a datblygiad rhyngwladol i bolisi cyffuriau byd-eang, gwleidyddiaeth amgylcheddol, ymfudo, cysylltiadau hil, rhywedd a hawliau dynol, ac am eu gwybodaeth am ardaloedd daearyddol penodol fel Affrica, yr Unol Daleithiau, Ewrop a De-ddwyrain Asia.
Mae'r grŵp ymchwil yn cynnal tair o raglenni Meistr yr adran mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, Datblygu a Hawliau Dynol, Diogelwch a Datblygiad Rhyngwladol. Mae aelodau'r grŵp hefyd yn goruchwylio ymchwil PhD ac yn croesawu cynigion PhD gan ddarpar fyfyrwyr ar amrywiaeth o themâu ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol.