"Does dim byd mwy amserol na sefydlu a gweithredu arsyllfa i ddarparu dadansoddiad a chaniatáu i ddiwygiadau polisi fod yn seiliedig ar dystiolaeth: tystiolaeth o fethiannau a thystiolaeth o lwyddiant”
Noddwr GDPO, Ruth Dreifuss (Cyn-lywydd y Cydffederasiwn Swisaidd a Chyn-gadeirydd y Comisiwn Byd-eang ar Bolisi Cyffuriau)

Hafan
YNGLŶN Â'R ARSYLLFA
Ceir craffu cynyddol ar bolisïau a rhaglenni cenedlaethol a rhyngwladol ym maes cyffuriau sy’n blaenoriaethu gorfodi’r gyfraith a chosbi llym er mwyn ceisio atal sylweddau a reolir rhag cael eu meithrin, eu cynhyrchu, eu masnachu a’u defnyddio – yr hyn sy’n cael ei adnabod bellach fel y ‘rhyfel ar gyffuriau’. Nod yr Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang yw hyrwyddo polisi cyffuriau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a hawliau dynol, drwy fonitro, dadansoddi ac adrodd am ddatblygiadau polisi yn gynhwysfawr ac yn drylwyr, ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol. Gan weithredu fel llwyfan i allu ymestyn allan ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd eang ac amrywiol, mae’r fenter yn ceisio helpu i wella soffistigeiddrwydd a gorwelion y ddadl bolisi bresennol ymhlith y cyfryngau, ffurfwyr barn elît ac ymchwilwyr, yn ogystal â’r rhai o fewn cymunedau gorfodi’r gyfraith a chreu polisïau. Mae’r Arsyllfa’n cymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil amrywiol sydd nid yn unig yn archwilio dynameg a goblygiadau materion polisi presennol a rhai sy’n datblygu, ond hefyd y prosesau sydd y tu ôl i newidiadau mewn polisi ar lefelau llywodraethu amrywiol.
Mae’r holl ddeunydd GDPO a gyhoeddir ar y wefan hon wedi’i drwyddedu o dan CC-BY
Cyffuriau ac Affrica

Cyffuriau a gwrthdaro

Y Mynegai Polisi Cyffuriau Byd-eang

Lleihau Niwed

Diwygio a Moderneiddio’r Gyfundrefn (R2R)

PROSIECT MARCHNADOEDD CYFFURIAU CUDD

Archif Prosiectau

Cannabis Innovate

PROSIECT METRIG
