Beth yw Cydymaith Meddygol?
Mae Cydymaith Meddygol yn aelod o'r tîm gofal iechyd, a gaiff ei hyfforddi i ymarfer ym maes meddygaeth wrth gefnogi ymarfer clinigol y tîm meddygol dan gyfarwyddyd meddyg. Bydd Cydymaith Meddygol yn ymgymryd â llawer o dasgau, gan gynnwys archwilio, diagnosio a rheoli cleifion. Caiff Cydymaith Meddygol ei hyfforddi i feddu ar sgiliau a gwybodaeth cyffredinol, gan ei alluogi i weithio ar draws amrywiaeth o arbenigeddau mewn ysbytai neu feddygfeydd.
Mae ein cwrs Meistr mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol (MPAS) wedi derbyn cymeradwyaeth lawn y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) a dyma'r unig gwrs o'i fath yn ne Cymru, sy'n datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i lwyddo yn yr Arholiad Cenedlaethol ar gyfer Cymdeithion Meddygol a dechrau eich rôl gofal iechyd newydd.
Mae ein cyfradd lwyddo ragorol yn ein gwneud yn un o'r lleoedd gorau i astudio a hyfforddi i ddod yn Gydymaith Meddygol yn y DU, ac mae ein safle ymysg y 5 gorau ar gyfer Ansawdd Cyffredinol Ymchwil (REF2021) yn llywio ein haddysgu, gan eich paratoi i weithio yn y GIG.