Beth yw Fferylliaeth?

Mae ein gradd Meistr integredig mewn Fferylliaeth yn adeiladu ar gryfderau’r Ysgol Feddygaeth, gan integreiddio gwyddoniaeth ac ymarfer i’ch paratoi i gwrdd â heriau newidiol Fferylliaeth.

Heddiw mae fferyllwyr yn cydweithio â meddygon a nyrsys mewn lleoliad clinigol felly bydd hyfforddiant yn Abertawe yn adlewyrchu hyn. Byddwch yn elwa o'n profiad a'n harbenigedd mewn gwyddor glinigol a bywyd, ymchwil, hyfforddiant ac ymarfer, gan eich helpu i ddatblygu eich ymarfer, gwyddoniaeth a gwybodaeth fferyllol.

Drwy gydol y cwrs, bydd eich astudiaethau yn adlewyrchu’r ffordd y mae Fferyllwyr yn ymdrin â chleifion a sut mae cleifion yn cyflwyno i Fferyllwyr, gan gyfuno dealltwriaeth wyddonol â sut y caiff ei chymhwyso; ‘arfer Fferylliaeth’.

DOD O HYD I'CH GOFOD CLIRIO

Poeni am eich canlyniadau arfaethedig, neu eisiau curo'r rhuthr Clirio? Cofrestrwch eich diddordeb nawr, ar gyfer Clirio yn Abertawe. Ewch i'n tudalen Clirio i ddarganfod mwy.

Darganfod mwy am Glirio

Beth mae Fferyllfa yn ei gwmpasu?

Cyfuna fferylliaeth dealltwriaeth wyddonol â’i gymhwysiad clinigol ‘arfer Fferylliaeth’. Cewch eich dysgu gan arbenigwyr yn eu maes ar draws ystod o ymarfer gwyddonol gan gynnwys Fferylliaeth, Cemeg Fferyllol, Ffarmacoleg, Bioleg a Biocemeg, Anatomeg a Ffisioleg, Fferylliaeth Glinigol ac Ymarfer Fferylliaeth. Ynghyd â ffocws cryf ar sgiliau clinigol a chyfathrebu a thechnoleg ddigidol, byddwch yn datblygu'r rhinweddau academaidd, ymarferol a phersonol i ymarfer fferylliaeth yn gymwys a gyda hyder.

Pa yrfaoedd allai fod yn agored i mi pan fyddaf yn graddio?

Mae fferyllwyr yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau ym maes gofal iechyd a thu hwnt gan gynnwys:

  • Fferyllfeydd cymunedol
  • Meddygfeydd
  • Ysbytai
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl
  • Byd academaidd
  • Diwydiant fferyllol

Ar ôl graddio mae 98% o raddedigion fferylliaeth yn gweithio neu mewn astudiaeth bellach 6 mis ar ôl graddio.

Am wybod mwy?

Yn ogystal â'n gradd Fferylliaeth MPharm 4 mlynedd, rydym hefyd yn cynnig gradd 5 mlynedd, Fferylliaeth MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen), sy'n ddelfrydol os nad oes gennych y cymwysterau mynediad neu'r profiad gofynnol, neu rydych chi'n poeni am eich graddau.